Mae'r stori hon yn dod o stori hirach Culhwch ac Olwen, lle mae Culhwch, sy'n sgweier ifanc, yn cwympo mewn cariad ag Olwen, merch cawr drygionus, ac yn gofyn am ei llaw yn wraig iddo. Mae tad Olwen yn gosod cyfres o dasgau heriol i Culhwch, ac mae'n rhaid iddo eu cwblhau er mwyn ei phriodi.

Y dasg anoddaf yw cael gafael ar y crib, y siswrn a'r ellyn hudol rhwng clustiau'r Twrch Trwyth, brenin Gwyddelig y mae Duw wedi ei droi'n faedd gwyllt am ei ddrygioni.  Mae ganddo saith mab, sydd hefyd wedi troi'n foch bach o ganlyniad i'r felltith.

Mae Culhwch yn gofyn am gymorth ei gefnder, y Brenin Arthur, sy'n galw ar ei farchogion gorau a chyda'i gilydd maent yn teithio i Iwerddon.

Nid yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun yn Iwerddon ac ar ôl i ragod aflwyddiannus wylltio'r Twrch Trwyth, mae ef a'i feibion yn ffoi yn ôl ar draws y môr i Gymru, gan adael Culhwch, Arthur a'i ddynion ar eu pen eu hunain yn cyfrif y rhai a fu farw.

Ar ôl dychwelyd i Gymru, maent yn gweld bod dial y Twrch Trwyth wedi bod yn gyflym ac yn ddinistriol. Mae wedi difrodi trefi, pentrefi a chnydau ledled y wlad.

content-img

Mae Culhwch, Arthur a'i fyddin yn cwrdd â'r Twrch Trwyth unwaith eto yn y lle a elwir heddiw’n Ddyffryn Aman a chyn iddynt allu ffoi, caiff pump o'i feibion eu lladd.

Yna, maent yn cornelu'r Twrch Trwyth a'i ddau fab sy'n weddill ac yn llwyddo i gipio'r siswrn a'r ellyn o ben y baedd a lladd yr olaf o'i feibion. Fodd bynnag, mae'r Twrch Trwyth yn llwyddo i ddianc unwaith eto.  Mae'r Twrch Trwyth a'r Brenin Arthur yn cwrdd am un frwydr derfynol pan mae Arthur yn llwyddo i gael gafael ar y crib oddi wrth y baedd cyn iddo neidio i'r môr a diflannu am byth.

Wedi iddo gwblhau'r holl dasgau, mae tad Olwen yn rhoi caniatâd i Culhwch briodi ei ferch ac mae Culhwch yn ffyddlon iddi am weddill ei oes.

Os ymwelwch â Dyffryn Aman a'r ardal gyfagos, byddwch yn sylwi ar gyfeiriadau at y Twrch Trwyth mewn ambell i le. Mae'r ysgol uwchradd leol, Ysgol Dyffryn Aman, yn defnyddio delwedd o faedd yn ei logo. Mae'n ymddangos ar gristau Cyngor Tref Rhydaman a'r clybiau pêl-droed a rygbi. Wrth gyrraedd Rhydaman, byddwch yn gweld cerfluniau o faedd a dau fochyn bach, wedi'u creu o ddur glowy ac efydd. Ac os ydych yn digwydd bod yn y dref ym mis Medi, efallai cewch gyfle i gael cip ar  Ŵyl y Twrch Trwyth.

 

CYSYLLTIADAU CELTAIDD 

Mae pobl Cymru ac Iwerddon yn hoff iawn o stori dda. Yn fwy byth os oes ganddynt gynulleidfa i'w rhannu â nhw. Dyna sut y cafodd ein mythau a'n chwedlau enwocaf eu trosglwyddo am genedlaethau, nes i'r mynachod canoloesol clyfar gael y syniad o’u cofnodi, gan sicrhau y byddent yn goroesi trwy’r cenedlaethau i ddod. Mae stori Culhwch ac Olwen yn dod o gasgliad o 11 o hanesion  a adwaenir fel  Y Mabinogion. Yn yr un modd, troswyd llawer o chwedloniaeth Iwerddon yn gyfrolau o lawysgrifau, ac o'r rheiny y daw storïau enwog fel un Oisin a Tir na nÓg, Cú Chulainn a Fionn Mac Cumhaill, sy'n parhau i gael eu hadrodd i blant Gwyddelig heddiw.