Dewi Sant yw ffigwr mwyaf Oes Seintiau Cymru; fe ddaeth â Christnogaeth i lwythi Celtaidd gorllewin Prydain ac fe yw'r unig nawddsant brodorol o wledydd Prydain ac Iwerddon.

Yn ôl y chwedl, rhoddodd ei fam, Santes Non, enedigaeth iddo ar glogwyn yn Sir Benfro yn ystod storm ffyrnig. Wrth iddi roi genedigaeth iddo, dywedir bod mellten wedi taro craig roedd hi'n gafael yn dynn ynddi, ac i’r graig hollti'n ddwy a chreu ffynnon sanctaidd, sy'n bodoli hyd heddiw. Mae adfeilion cyfagos Capel y Santes Non hefyd yn nodi ei fan geni.

Credir bod Dewi Sant wedi cyflawni nifer o wyrthiau yn ystod ei fywyd, ond digwyddodd yr un enwocaf pan oedd yn pregethu i dyrfa fawr yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion. Pan gwynodd pobl a safai yng nghefn y dyrfa nad oeddent yn gallu ei weld na'i glywed, cododd y tir yr oedd yn sefyll arno i greu bryn. Ar yr union foment honno, daeth colomen wen, a anfonwyd gan Dduw, i eistedd ar ei ysgwydd.

content-img

Dywedir bod Dewi wedi chwarae rhan bwysig yn y frwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid. Roedd y Cymry'n colli mwy a mwy o dir a rhan o'r broblem oedd nad oeddent yn gallu gweld  y gwahaniaeth rhwng eu gelynion a'u dynion eu hunain, gan fod eu dillad mor debyg. Galwodd Dewi arnynt: “Gymry, rhaid i chi farcio eich hunain fel y gallwch ddweud yn well pwy yw'r Sacsoniaid a phwy sy'n Gymry.” Gan dynnu cennin o'r ddaear, dweddodd: “Gwisgwch y rhain a byddwch yn gwybod mai gelyn yw unrhyw filwr nad oes ganddo genhinen.” Er bod rhai o'r milwyr yn meddwl bod y syniad hwn braidd yn od, fe wnaethant fel y dywedodd, gan fod y Mynach yn ddyn Duw. Cyn hir, roedd pob milwr o Gymro yn gwisgo cenhinen yn ei helmed ac roedd y Cymry wedi ennill y frwydr. Mae'r Cymry'n dal i wisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Dewi (diwrnod cenedlaethol Cymru), sef 1 Mawrth.

Roedd Dewi Sant dros 100 oed pan fu farw ar 1 Mawrth 589. Cafodd ei gladdu lle saif yr eglwys gadeiriol heddiw yn Nhyddewi ac yn y cyfnod canoloesol, dywedwyd bod dwy bererindod i'w gysegr yn gyfwerth ag un bererindod i Rufain.

Cafodd yr eglwys gadeiriol a welwn heddiw ei hadeiladu yn dilyn goresgyniad y Normaniaid ar Gymru ac mae wedi sefyll ers dros 800 o flynyddoedd, gan oroesi cwymp ei thŵr, daeargryn a'r diwygiad Protestannaidd. Mae'n parhau i wefreiddio ac ysbrydoli cenhedlaeth fodern o bererinion.

 

CYSYLLTIADAU CELTAIDD 

Mynach a chenhadwr Gwyddelig oedd Sant Aeddan a deithiodd i Gymru i astudio gyda Dewi Sant. Ar ôl dychwelyd i Iwerddon, cafodd ei ysbrydoli i adeiladu ei fynachlog ei hun yn Ferns. Mae Eglwys Gadeiriol Sant Aeddan, a gredir iddi fod yn eglwys gadeiriol leiaf gorllewin Ewrop, bellach yn sefyll ar y safle.

Dywedir bod Dewi Sant wedi marw ym mreichiau Sant Aeddan yn ystod ymweliad diweddarach â Sir Benfro. Roedd y Cymry'n edmygu Sant Aeddan gymaint fel iddo gael ei ystyried yn frodor a lluniwyd coeden achau a'i gwnaeth yn un o uchelwyr Cymru!