Roedd y Celtiaid yn addoli llawer o Dduwiau, ond yn debyg i lawer o ddiwylliannau hynafol eraill, roeddent hefyd yn ofni grymoedd drwg. Mae llawer o straeon am fampirod yn Iwerddon ac mae un o'r creaduriaid mwyaf brawychus yn cael ei adnabod fel y Dearg Due, neu'r 'Syched Coch'. Fodd bynnag, mae chwedl y Dearg Due mor drasig ag y mae'n frawychus.

Ganrifoedd yn ôl, yn yr ardal sydd bellach yn Ddinas Waterford, trigai menyw ifanc â phersonoliaeth a oedd yr un mor brydferth â'i hwyneb. Roedd hi mewn cariad gyda labrwr fferm ac roeddent wedi gwneud cynlluniau i briodi. Yn anffodus, nid oedd priodasau wedi'u trefnu yn anghyffredin bryd hynny, ac roedd ei thad yn poeni am arian yn unig, nid cariad. Yn hytrach, fe'i gorfodwyd i briodi pennaeth cyfoethog llawer hŷn, yn gyfnewid am arian a thir iddo ef ei hun.

Roedd gŵr newydd y ferch ifanc yn ddyn creulon ac yn ei thrin yn wael iawn. Byddai'n ei chadw hi dan glo mewn tŵr a byddai'n cael pleser yn ei brifo hi dim ond i weld gwaed ar ei chroen gwelw. Byddai hithau'n gobeithio y byddai ei chariad coll yn dod a'i hachub, ond ni allai wneud hynny. Yn y diwedd, torrodd ei chalon a bu iddi farw.

content-img

Aeth y pentrefwyr â'i chorff a'i gladdu o dan yr hyn a elwid yn Goeden Strongbow. Roedd hen arfer Gwyddeleg o osod pentwr uchel o gerrig ar feddau'r rheiny a fu farw'n ddiweddar, er mwyn eu hatal rhag codi eto, ond am ryw reswm, ar noson ei chladdu ni ddigwyddodd hyn. Mae rhai yn dweud bod hyn oherwydd bod y pentrefwyr yn teimlo'n euog am beidio â gwneud dim i'w hachub rhag ei gŵr milain.

Yr hyn na allai'r pentrefwyr fod wedi gwybod oedd nad oedd yr ysbryd a ddeilliai o’r corff ac a gododd o’r bedd flwyddyn ar ôl ei marwolaeth yn debyg o gwbl i'r ferch ifanc.  Roedd yr ysbryd yn ceisio dial ar y rhai a oedd wedi difetha ei bywyd.

Yn gyntaf, bu'n ymweld â chartref ei phlentyndod. Wrth i'w thad gysgu yn ei wely, cusanodd ei wefusau a sugno ei anadl i gyd allan o'i gorff. Wrth iddi fynd i weld ei gŵr, daeth ar ei draws yn cerdded adref o'r dafarn yn feddw. Wrth i'w gwefusau gyffwrdd, sugnodd nid yn unig yr aer o'i ysgyfaint ond hefyd y gwaed o'i wythiennau.

Ar ôl cael blas ar waed, aeth ysbryd y ferch ifanc ymlaen i ysglyfaethu ar ddynion ifanc, gan eu hudo gyda'i phrydferthwch cyn gwledda ar eu gwaed. Er mwyn ceisio atal mwy o ddynion ifanc rhag syrthio i fagl y Dearg Due, byddai'r bobl leol yn cwrdd y noson cyn diwrnod ei marwolaeth ac yn rhoi cerig ar ei bedd fel na all ei hysbryd godi.

Yn debyg i lawer o chwedlau, mae'n anodd dweud faint o chwedl y Dearg Due sy'n seiliedig ar bobl a digwyddiadau go iawn a faint sy'n seiliedig ar ddychymyg a dehongliadau cenedlaethau o storïwyr. Nid oes unrhyw fanylion penodol ynghylch lleoliad Coeden Strongbow yn Ninas Waterford (ac felly lle cafodd y ferch ifanc ei chladdu). Fodd bynnag, mae rhai wedi dweud bod y goeden mewn mynwent yn agos i Dŵr Reginald a bod yno, yn ôl pob tebyg, fedd â llawer o gerrig ar ei ben. Gwnawn ni adael i chi fod yn dditectif.

 

CYSYLLTIADAU CELTAIDD 

Mae ysbryd fel fampir hefyd yn llên gwerin Cymru. Fodd bynnag, yn wahanol i'r Dearg Due, roedd Gwrach y Rhibyn yn erchyll. Yn ogystal â rhybuddio pobl eu bod ar fin marw, drwy oernadu fel cath, byddai hi hefyd yn ymosod ar blant bach a'r henoed yn y nos pan fyddai hi'n lleuad lawn, gan yfed ychydig o'u gwaed a pheri iddynt fynd yn fwy sâl bob tro.