Gwyliwch y dolffiniaid ger y Ceinewydd

Gwyliwch y dolffiniaid ger y Ceinewydd

Cymru Ceredigion

Gwyliwch y dolffiniaid ger y Ceinewydd

Darganfod mwy

Mae Bae Ceredigion yn enwog am ei ddolffiniaid trwynbwl, gyda phoblogaeth o tua 250 ohonynt yn byw yma trwy’r flwyddyn. Maent yn cael eu denu yma gan y mannau bwydo toreithiog, y cynefin tawel a’r dyfroedd glân.

Mae’n bosibl gweld dolffiniaid trwynbwl trwy gydol y flwyddyn, ond mae’n fwy tebygol  yn yr haf pan fydd digon o fecryll yn y dyfroedd i’r dolffiniaid i’w bwyta. Ac mae Cei Newydd yn un o’r llefydd gorau i weld  dolffiniaid, lle mae siawns dda y byddwch chi’n gallu eu gweld o wal yr harbwr.

Gwella'r siawns o'u gweld ymhellach trwy fynd ar daith cwch siarter allan i Fae Ceredigion. Dechreuodd teulu Winston Evans gynnig tripiau cwch weld dolffiniad nol yn y 1950au ac mae cwmni’r teulu, New Quay Boat Trips, yn parhau i ddarparu tripiau hyd heddiw. Mae dolffiniaid trwynbwl yn ddeallus iawn ac yn hynod gymdeithasol a byddant yn aml yn neidio ochr yn ochr â chychod ymddygiad naturiol sy'n eu gwneud yn llawer o hwyl i'w gwylio. Bywyd gwyllt morol arall i gadw llygad amdano yw llamidyddion a morloi llwyd. Mae’n gyfle gwych i weld amrywiaeth o adar môr hefyd.