Y Telegraph – Gwesty Penrallt Country House

.

**Itinerary**

Y Telegraph – Gwesty Penrallt Country House

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Gwener

Gyrru o adre i Geredigion

Aros dros nos yng ngwesty
Penrallt Country House (gwely a brecwast yn cael eu darparu)

Cyfeiriad: Aber-porth, Aberteifi SA43 2BS

Cofrestru: 14:00

Ymadael: 10:30

Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: 1176, Castell Aberteifi  
Cyfeiriad: Stryd Werdd, Aberteifi SA43 1JA

Gweithgareddau dewisol:

Ymweld â Chastell Aberteifi
Cyfeiriad a pharcio: Maes Parcio Stryd y Cei, Aberteifi, SA43 1HS
(parcio am dâl; efallai y bydd angen newid)

 

Gwybodaeth: Ac yntau wedi cipio a chwalu'r gaer pridd a phren Normanaidd flaenorol, symudodd yr Arglwydd Rhys ei lys yma yn 1171. Ailadeiladodd y castell â cherrig, sy'n golygu mai hwn oedd y castell carreg cyntaf i gael ei adeiladu gan Gymro. Yna aeth ati i ddathlu ei gyflawniad trwy gynnal yr Eisteddfod gyntaf erioed yn 1176. Wedi iddo ddadfeilio'n ddifrifol, cafodd y castell, ynghyd â'r Plasty Sioraidd a adeiladwyd y tu mewn i furiau'r castell yn 1808, eu hadnewyddu a'u hailagor i'r cyhoedd yn 2015.

 

Ymweld â Thrwyn Cemaes a cheisio gweld morlo

Cyfeiriad a pharcio: Gwersyll Fferm Allt y Coed, Poppit, Aberteifi SA43 3LP

Gwybodaeth am barcio: Dilynwch y ffordd heibio i faes parcio Traeth Poppit hyd at ei diwedd. Ewch trwy'r giât ar y pen i Fferm Allt y Coed, lle mae'n costio £1.50 i barcio.

Llwybr cerdded cylchol 2.5 milltir: Wedi i chi barcio, dilynwch yr arwyddion am Lwybr Arfordir Sir Benfro trwy fuarth y fferm. Dylai fod golygfeydd o Draeth Poppit ac Afon Teifi y tu ôl i chi, ac edrychwch ar draws yr aber i weld Ynys Aberteifi a chopa amlwg Mwnt.

 

Gwybodaeth: Trwyn Cemaes yng ngogledd Sir Benfro yw'r clogwyn uchaf yng Nghymru, ac mae'n safle bridio pwysig, lle caiff nifer o loi bach morloi eu geni. Y traeth caregog, anhygyrch islaw yw'r man lle mae'r nifer mwyaf o forloi llwyd yn dod i'r lan yn Sir Benfro; gall hyd at 200 o forloi a'u lloi bach fod ar y traeth ar unrhyw un adeg.

Rhagor o wybodaeth: yr hydref yw adeg orau'r flwyddyn i weld un o famaliaid mwyaf poblogaidd Sir Benfro, y morlo llwyd. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd y benywod yn dod i'r lan i roi genedigaeth, ac mae yna siawns go dda y byddwch yn gweld eu lloi bach gwyn, blewog, del hefyd. Mae'r lloi bach fel arfer yn cyrraedd rhwng diwedd mis Awst a mis Tachwedd, gan ddechrau eu bywyd â blew gwyn fel sidan. Bydd llo bach yn treblu ei bwysau geni yn ei fis cyntaf, diolch i laeth brasterog y fam. Yna, bydd yn diosg ei ffwr gwyn yn gyfnewid am gôt oedolyn wrth-ddŵr, dywyllach, fwy trwchus. Bydd y llo yn barod wedyn i fynd i ganol y tonnau a dysgu sut i ddal ei bysgod ei hun.

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Sadwrn

Aros dros nos yng ngwesty Penrallt Country House (gwely a brecwast yn cael eu darparu)

Cyfeiriad: Aber-porth, Aberteifi SA43 2BS

Cofrestru: 12:00

Ymadael: 11:00

Gweithgareddau dewisol:

 

Ymweld â Siambr Gladdu Pentre Ifan Mynediad am ddim.

Cyfeiriad a pharcio: Pentre Ifan, Brynberian, Crymych, SA41 3TZ.
Gallwch barcio yn y gilfan ger y fynedfa.

 

Gwybodaeth: Mae Pentre Ifan, ger Trefdraeth, wedi'i adeiladu o Gerrig Gleision Sir Benfro, sef yr un cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu ei ‘frawd mawr’ yng Nghôr y Cewri, ac mae iddo'r un ymdeimlad o ddirgelwch ynghylch ei wir ddiben. Yn gyffredinol, ystyrir mai siambr gladdu ydyw, ond ni chanfuwyd olion esgyrn yma erioed. Mae damcaniaeth amgen yn awgrymu ei fod yn fersiwn fwy cymhleth o faen hir, ac mai dim ond brolio eu sgiliau yr oedd yr adeiladwyr. Beth bynnag fo'r ateb go iawn, does dim amheuaeth bod Pentre Ifan yn gamp anhygoel sy'n arddangos dulliau adeiladu hynafol. Mae'r maen capan, sy'n 5 m o hyd, yn pwyso 15 tunnell, ac yn cydbwyso'n ansicr ar dri maen unionsyth, wedi llwyddo i aros yn ei le am dros 5,000 o flynyddoedd.

 

Ymweld â Foel Drygarn ym Mynydd y Preseli

Cyfeiriad a pharcio: Y man cychwyn ar gyfer taith Foel Drygarn – cilfan ar ffordd fach ger Blaenbanon, SA66 7SA (cyfeirnod grid SN165331)
(what3words dechrau yn
blotches.personal.pairings)

 

Llwybr cerdded cylchol 1.8 milltir: Mae'r daith fer hon i fyny at fryngaer Foel Drygan yn Sir Benfro, sy'n dyddio o'r Oes Haearn, yn mynd â chi i gopa mwyaf dwyreiniol Mynydd y Preseli. Dewch â phâr da o esgidiau cerdded.

 

Gwybodaeth: Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae yna dair carnedd gladdu enfawr sy'n dyddio o'r Oes Haearn ar gopa 363 m o uchder Foel Drygarn. Yn ystod yr Oes Haearn, cafodd bryngaer ei hadeiladu, ac iddi ragfur amddiffynnol a chytiau. Mae lluniau o'r awyr yn datgelu cannoedd o bantau cylchol yn y ddaear, y credir mai sylfeini cytiau ydynt. Yn ôl y chwedl, mae yna gasgliad o aur o dan y garreg wastad a adnabyddir fel Bwrdd y Brenin. Ond rydym o'r farn y bydd y golygfeydd 360 gradd o Ddyffryn Teifi, Mynydd y Preseli ac – ar ddiwrnod clir – Môr Iwerddon, yn ddigon o wobr am ddringo.

 

Ymweld â Rhaeadrau Cenarth

Cyfeiriad a pharcio: Cenarth, Castellnewydd Emlyn, SA38 9JL
Maes parcio am dâl; bydd arnoch angen newid.

 

Gwybodaeth: Ar y ffin rhwng tair sir – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – y mae pentref hyfryd Cenarth. Prif atynfa'r pentref ers oes Victoria yw ei gyfres o raeadrau ar Afon Teifi. Yn yr hydref, daw ymwelwyr o bobman i wylio golygfa wefreiddiol yr eog yn neidio. Yn ystod y ffenomen naturiol hon, mae'r eog yn brwydro i neidio dros y rhaeadrau er mwyn mynd i fyny'r afon i silio. Mae Cenarth hefyd yn un o'r nifer bach o leoedd ym Mhrydain lle mae cyryglau yn dal i gael eu defnyddio. Mae'r cychod bach, gwaelod crwn hyn wedi'u gwneud o bren helyg neu ynn wedi'u gwehyddu a'u gorchuddio â deunydd gwrth-ddŵr, ac mae pysgotwyr yn eu defnyddio i ddrifftio i lawr yr afon i ddal eogiaid a sewin.


Pryd gyda'r nos: 8pm ym mwyty'r
Bay View yng Ngwesty Penrallt
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

 

3. **Day** #3
Diwrnod 3, dydd Sul

Ymadael: 10:30

 

Ymweld â Llwybr Arfordir Sir Benfro

Cyfeiriad a pharcio: Pen-caer, SA64 0JL.
Bydd hyn yn mynd â chi mor agos i Ben-caer ag y gallwch mewn car. Ar y map isod, rydym wedi amlygu mewn coch y rhannau o'r ffordd lle gellir parcio mewn cilfannau.

 

Dewch â phâr da o esgidiau cerdded.


Gwybodaeth:
Mae Pen-caer ar Lwybr Arfordir Sir Benfro ac ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, ac mae ei bentir creigiog, garw yn gwthio allan o'r morlin. Mae yna fywyd gwyllt anhygoel ar hyd y rhan hon o lwybr yr arfordir, ac mae dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd a hyd yn oed orcaod wedi cael eu gweld yma.

 

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn troi a throelli am 186 milltir o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Mae'n mynd trwy bron pob math o dirwedd arfordirol, o bentiroedd craig folcanig, bwâu calchfaen a mordyllau, i staciau môr a chilfachau rhewlifol cul. Mae traethau tywodlyd yn torri ar draws rhesi o glogwyni tywodfaen coch a llwyd. Mae'r llwybr yn datgelu toreth o flodau ac adar arfordirol, yn ogystal â thystiolaeth o weithgarwch dynol o'r oes Neolithig hyd at heddiw. Ond nid ar chwarae bach y mae cerdded ar hyd y llwybr cyfan mewn un ymgais. Mae'n cymryd rhwng 10 a 15 diwrnod ac yn cynnwys dros 10,000 m o ddringfeydd a disgynfeydd – sy'n cyfateb i ddringo Everest.

 

Gyrru adre

**End**