Melanie Hancill

.

**Itinerary**

Melanie Hancill

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Sul 12

AM

 

Gyrru o adre i Geredigion

Aros dros nos yng ngwesty'r
Falcondale (gwely a brecwast yn cael eu darparu)

Cyfeiriad: Falcondale Drive, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7RX

Cofrestru: 15:00

Ymadael: 11:00


PM

Ymweld â Cheinewydd i gael pryd gyda'r nos a gwylio'r dolffiniaid

Cyfeiriad a pharcio: dilynwch [SA45 9NR] i gyrraedd maes parcio'r harbwr – parcio talu ac arddangos; mae yna beiriant cardiau yn y maes parcio hwn os na fydd gennych newid

 

Gwybodaeth: Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, gyda'i boblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin heb ei gyffwrdd, a'r dyfroedd glân.

Mae'n bosibl gweld dolffiniaid trwyn potel trwy gydol y flwyddyn, ond mae'r rhagolygon yn well yn yr haf pan fo digon o fecryll yn y dŵr iddynt eu bwyta. Ac mae Ceinewydd yn fan canolog i ddolffiniaid, fwy neu lai, lle mae yna siawns go dda y byddwch yn eu gweld o wal yr harbwr.

 

Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: Pysgod a Sglodion o'r Lime Crab
Wedi'i leoli nesaf at yr harbwr.

 

Awgrym ar gyfer pryd figan gyda'r nos: The Blue Bell Bistro

Yn edrych dros yr harbwr. Rhai opsiynau figan a llysieuol ar y fwydlen.


*Cadwch eich derbynebau am eich pryd gyda'r nos a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Llun 13

Ymadael: 11:00

AM

Ymweld â thraethau
Llangrannog a Chilborth

Cyfeiriad a pharcio: Maes parcio di-dâl Parcio a Theithio Llangrannog, Min-y-Nant, Llandysul SA44 6RL
(mae yna fws gwennol rheolaidd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr y gallech neidio arno, ond nid yw'r daith i'r pentref yn bell iawn ar droed fel arall)

Gwybodaeth: Yn union i'r goledd o draeth Llangrannog y mae cildraeth diarffordd Cilborth, y gellir cyrraedd ato naill ai o draeth Llangrannog ar lanw isel, neu i lawr y grisiau yn y clogwyn oddi ar Lwybr yr Arfordir. Rhwng y ddau draeth mae yna graig siâp dant o'r enw Carreg Bica. Yn ôl y chwedl, arferai fod yng ngheg cawr lleol. Byddai hwn yn lle hyfryd i ymdrochi yn y môr.

 

Awgrymiadau ar gyfer cinio: The Beach Hut Café, Llangrannog
Wedi'i leoli ar y traeth, ychydig ymhellach na thafarn y Ship Inn

PM

Ymweld â Thrwyn Cemaes a cheisio gweld morlo

Cyfeiriad a pharcio: Gwersyll Fferm Allt y Coed, Poppit, Aberteifi SA43 3LP

Gwybodaeth am barcio: Dilynwch y ffordd heibio i faes parcio Traeth Poppit hyd at ei diwedd. Ewch trwy'r giât ar y pen i Fferm Allt y Coed, lle mae'n costio £1.50 i barcio.

Llwybr cerdded cylchol 2.5 milltir: Wedi i chi barcio, dilynwch yr arwyddion am Lwybr Arfordir Sir Benfro trwy fuarth y fferm. Dylai fod golygfeydd o Draeth Poppit ac Afon Teifi y tu ôl i chi, ac edrychwch ar draws yr aber i weld Ynys Aberteifi a chopa amlwg Mwnt.

Gwybodaeth: Trwyn Cemaes yng ngogledd Sir Benfro yw'r clogwyn uchaf yng Nghymru, ac mae'n safle bridio pwysig, lle caiff nifer o loi bach morloi eu geni. Y traeth caregog, anhygyrch islaw yw'r man lle mae'r nifer mwyaf o forloi llwyd yn dod i'r lan yn Sir Benfro; gall hyd at 200 o forloi a'u lloi bach fod ar y traeth ar unrhyw un adeg.

Rhagor o wybodaeth: yr hydref yw adeg orau'r flwyddyn i weld un o famaliaid mwyaf poblogaidd Sir Benfro, y morlo llwyd. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd y benywod yn dod i'r lan i roi genedigaeth, ac mae yna siawns go dda y byddwch yn gweld eu lloi bach gwyn, blewog, del hefyd. Mae'r lloi bach fel arfer yn cyrraedd rhwng diwedd mis Awst a mis Tachwedd, gan ddechrau eu bywyd â blew gwyn fel sidan. Bydd llo bach yn treblu ei bwysau geni yn ei fis cyntaf, diolch i laeth brasterog y fam. Yna, bydd yn diosg ei ffwr gwyn yn gyfnewid am gôt oedolyn wrth-ddŵr, dywyllach, fwy trwchus. Bydd y llo yn barod wedyn i fynd i ganol y tonnau a dysgu sut i ddal ei bysgod ei hun.

Gyrru i westy Tŵr y Felin, Tyddewi

Aros dros nos yng ngwesty Tŵr y Felin (gwely a brecwast yn cael eu darparu am ddwy noson)

Cyfeiriad: Tŵr y Felin, Ffordd Caerfai, Tyddewi, Hwlffordd SA62 6QT

Gwybodaeth: Mae yna le parcio di-dâl ar y safle.

Cofrestru: 16:00

Ymadael: 11:00

Pryd gyda'r nos: 18:15 ym Mwyty Blas, Tŵr y Felin
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

3. **Day** #3
Diwrnod 3, dydd Mawrth 14

AM

Gyrru i Draeth Marloes a cherdded ar hyd y clogwyni am hanner milltir ac i lawr i'r traeth – taith o tua 50 munud mewn car

Cyfeiriad a pharcio: dilynwch [SA62 3BH] i gyrraedd yno – maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd angen newid neu gallwch dalu â'ch ffôn.

Gwybodaeth: Cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang â digon o le, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân a pherdys, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm. Mae'r tywod gwastad yn berffaith ar gyfer gemau traeth, ac mae'r dŵr, sydd mor glir â chrisial, yn dda ar gyfer syrffio (ond gwyliwch rhag y llanw terfol). Mae'r holl ddifyrrwch yma yn cael ei ddarparu gan natur – nid gan unrhyw arcedau.

PM

Ymweld ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Cyfeiriad a pharcio: dilynwch [SA62 6RD] i gyrraedd yno – mae yna faes parcio di-dâl ger tafarn The Bishop wrth i chi fynd heibio iddi ar y chwith; yn syth o'ch blaen yn y maes parcio byddwch yn gallu gweld yr eglwys gadeiriol

Yn agored: 10am-3pm

Gwybodaeth : Mae dinas ac eglwys gadeiriol Tyddewi yn dominyddu penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r eglwys gadeiriol wedi bod yn fan cysegredig i bererinion ers dros 800 mlynedd. Yn yr Oesoedd Canol, dywedid bod dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Rufain.

Mae'r eglwys gadeiriol bresennol wedi'i hadeiladu ar safle'r fynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6ed ganrif i addysgu cenhadon i ledaenu Cristnogaeth. Wrth i enw da Dewi Sant ledaenu, tyfodd ei fynachlog a datblygodd cymuned. Yn anffodus, tynnodd y fynachlog sylw'r Llychlynwyr hefyd, a'i hysbeiliodd sawl gwaith yn ystod y canrifoedd dilynol. Yn y pen draw, cipiodd y Normaniaid y fynachlog a dechrau adeiladu'r eglwys gadeiriol bresennol yn 1181. A hithau wedi goroesi ei thŵr yn disgyn, daeargryn a'r Diwygiad Protestannaidd, mae'r eglwys gadeiriol yn parhau i swyno ac ysbrydoli ei hymwelwyr, hyd yn oed ar ôl 800 mlynedd.

 

Awgrymiadau ar gyfer cinio: St David’s Food & Wine Deli ar gyfer bagéts cartref (gydag opsiynau figan)
Wedi'i leoli ar Heol Fawr Tyddewi
Instagram: @stdavidsfoodandwine

 

Awgrym ar gyfer hufen iâ: Siop hufen iâ The Bench

Wedi'i leoli ar Heol Fawr Tyddewi, gyda dewis o hufen iâ a sorbedau a wneir yn lleol – ac opsiynau figan hefyd.

Instagram: @the_bench_stdavids

 

*Cadwch eich derbynebau, a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.


Aros dros nos yng ngwesty
Tŵr y Felin (gwely a brecwast yn cael eu darparu am ddwy noson)

Cyfeiriad: Tŵr y Felin, Ffordd Caerfai, Tyddewi, Hwlffordd SA62 6QT

Gwybodaeth: Mae yna le parcio di-dâl ar y safle.

Cofrestru: 16:00

Ymadael: 11:00

 

Pryd gyda'r nos: Grain – ar gyfer pizzas llaw a chwrw crefft (ar gael gyda chaws figan)
Nid yw Grain yn cymryd archebion, ond os bydd arnoch awydd pizza, gallwch fynd yno a chymryd sedd.

Wedi'i leoli ar Heol Fawr Tyddewi
Instagram: @grainstdavids

 

*Cadwch eich derbynebau am eich pryd gyda'r nos a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.

Fel dewis arall, Pryd gyda'r nos: 18:15 ym Mwyty Blas, Tŵr y Felin
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

4. **Day** #4
Diwrnod 4, Dydd Mercher 15

Ymadael: 11:00 

AM

Ymweld â Thraeth Pentywyn

Cyfeiriad a pharcio: Maes Parcio Pentywyn, Marsh Road, SA33 4PF
(parcio am dâl; efallai y bydd angen newid)

Gwybodaeth:
Dethlir y darn 11 km hwn o draeth am ei hanes o recordiau cyflymder ar y tir. Gosododd Malcolm Campbell record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir yma yn Blue Bird yn 1924. Gosododd ei ŵyr, Don Wales, record y byd ar gyfer cyflymder cerbyd trydan ar y tir yn 2000. Ac ym mis Mai 2019, gosododd Porsche 911 record newydd o 338.50 km yr awr. Mae'r ardaloedd lle y gallwch yrru wedi'u cyfyngu 'nawr, ond pa un a ydych yn hoff o geir ai peidio, bydd Traeth Pentywyn yn aros yn eich cof am amser hir.

Bydd y rheiny ohonoch sy'n chwilio am wefr yn darganfod digon o anturiaethau eraill yma i gyflymu curiad eich calon, yn cynnwys hwylio, caiacio ar y môr, padlfyrddio ar eich sefyll, neu, os yw'n well gennych farchnerth mwy llythrennol, gallwch farchogaeth ceffyl ar hyd ymyl y don a theimlo'r gwynt yn sgubo trwy eich gwallt.

PM

Awgrymiadau ar gyfer cinio: Caffi Arthur
Cyfeiriad:
Sgwâr y Mâl, 6 Y Mâl, Talacharn, Caerfyrddin SA33 4SS. Defnyddiwch yr wybodaeth am barcio isod.


Ymweld â chartref Dylan Thomas,
y Boathouse

Parcio: Nid oes yna le i barcio cerbyd ger y Boathouse, a bydd yn rhaid i gwsmeriaid barcio yn y maes parcio DI-DÂL yn nhref Talacharn, sydd tua 10 munud ar droed o'r Boathouse: Y Strand, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4SS

Cyfeiriad y Boathouse: Taith Dylan, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD

 

Gwybodaeth:
Mae bron yn amhosibl sôn am dref Talacharn heb grybwyll Dylan Thomas yn yr anadl nesaf. Mae'n gyfystyr â'r lle – bu'n byw yno, yn caru yno, yn yfed yn nifer o'r tafarnau yno, ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Martin. Ac ni fyddai ymweliad â Thalacharn yn gyflawn heb bererindod i'r Boathouse, lle roedd Dylan yn byw gyda'i wraig a'i deulu ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Ar y ffordd yno, byddwch yn mynd heibio i'r sied ysgrifennu sy'n edrych dros aber Afon Taf, lle yr ysgrifennodd Thomas ei ddrama radio enwog, Under Milk Wood.

 

Nodyn pwysig: Os hoffech weld y tu mewn i'r Boathouse, bydd yn rhaid archebu hyn ymlaen llaw. Os na fyddwch am fynd i mewn, gallwch gerdded ar hyd llwybr yr arfordir ger y Boathouse a chael eich gwobrwyo â golygfeydd ar draws yr aber.

Taith gerdded ychwanegol:

Cyfansoddodd Dylan Thomas ‘Poem in October’ ar ei ben-blwydd yn dri deg, ac mae'r darn yn olrhain ei daith gerdded ei hun o'i dŷ o amgylch y rhan brydferth hon o Gymru yr oedd wedi dod i'w charu: ‘My birthday began with the water’, ysgrifennodd. Ewch ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, sy'n ddwy filltir o hyd, ac archwilio hanes cyfoethog Talacharn, gan hefyd werthfawrogi golygfeydd dros yr aber, y Boathouse, Penrhyn Gŵyr, gogledd Dyfnaint, Ynys Bŷr a Dinbych-y-pysgod.

Aros dros nos yn Brown’s (gwely a brecwast yn cael eu darparu)

Cyfeiriad: Stryd y Brenin, Talacharn, Caerfyrddin SA33 4RY

Gwybodaeth: Mae yna le parcio di-dâl ar y safle.

Cofrestru: 14:00

Ymadael: 11:00

Pryd gyda'r nos: Amser i'w gadarnhau
Dexters yn Brown’s
(bwyty sy'n gwerthu stêc yw hwn yn bennaf, ond dyma un o fwytai gorau Sir Gaerfyrddin ac mae wedi cynnig anfon y fwydlen figan ar wahân a ddarperir ganddo)
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

5. **Day** #5
Diwrnod 5, dydd Iau 16

Ymadael: 11:00

Gyrru adre


Cadwch y derbynebau am bob pryd gyda'r nos (os nad ydym eisoes wedi talu amdanynt)
, parcio (lle bo hynny'n bosibl), a phetrol, ynghyd â nodyn o gyfanswm y milltiroedd, a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.

**End**