Y Telegraph – y Grove yn Arberth

.

**Itinerary**

Y Telegraph – y Grove yn Arberth

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Sadwrn

Gyrru o adre i Arberth

Aros dros nos yn y
Grove yn Arberth (gwely a brecwast yn cael eu darparu)

Cyfeiriad: Grove, Molleston, Arberth, Sir Benfro

SA67 8BX

 

Cofrestru: 15:00

Ymadael: 11:00

Pryd gyda'r nos: 8:00pm yn y Fernery yn y Grove
Mwynhewch y fwydlen blasu wyth cwrs ac alcohol gyda'ch pryd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

Gweithgareddau dewisol:

Ymweld â chartref Dylan Thomas, y Boathouse

Parcio: Nid oes yna le i barcio cerbyd ger y Boathouse, a bydd yn rhaid i gwsmeriaid barcio yn y maes parcio DI-DÂL yn nhref Talacharn, sydd tua 10 munud ar droed o'r Boathouse: Y Strand, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4SS

Cyfeiriad y Boathouse: Taith Dylan, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD

 

Gwybodaeth:
Mae bron yn amhosibl sôn am dref Talacharn heb grybwyll Dylan Thomas yn yr anadl nesaf. Mae'n gyfystyr â'r lle – bu'n byw yno, yn caru yno, yn yfed yn nifer o'r tafarnau yno, ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Martin. Ac ni fyddai ymweliad â Thalacharn yn gyflawn heb bererindod i'r Boathouse, lle roedd Dylan yn byw gyda'i wraig a'i deulu ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Ar y ffordd yno, byddwch yn mynd heibio i'r sied ysgrifennu sy'n edrych dros aber Afon Taf, lle yr ysgrifennodd Thomas ei ddrama radio enwog, Under Milk Wood.

 

Nodyn pwysig: Os hoffech weld y tu mewn i'r Boathouse, bydd yn rhaid archebu hyn ymlaen llaw. Os na fyddwch am fynd i mewn, gallwch gerdded ar hyd llwybr yr arfordir ger y Boathouse a chael eich gwobrwyo â golygfeydd ar draws yr aber.

Taith gerdded ychwanegol:

Cyfansoddodd Dylan Thomas ‘Poem in October’ ar ei ben-blwydd yn dri deg, ac mae'r darn yn olrhain ei daith gerdded ei hun o'i dŷ o amgylch y rhan brydferth hon o Gymru yr oedd wedi dod i'w charu: ‘My birthday began with the water’, ysgrifennodd. Ewch ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, sy'n ddwy filltir o hyd, ac archwilio hanes cyfoethog Talacharn, gan hefyd werthfawrogi golygfeydd dros yr aber, y Boathouse, Penrhyn Gŵyr, gogledd Dyfnaint, Ynys Bŷr a Dinbych-y-pysgod.

Ymweld â Thraeth Pentywyn

Cyfeiriad a pharcio: Maes Parcio Pentywyn, Marsh Road, SA33 4PF
(parcio am dâl; efallai y bydd angen newid)

Gwybodaeth:
Dethlir y darn 11 km hwn o draeth am ei hanes o recordiau cyflymder ar y tir. Gosododd Malcolm Campbell record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir yma yn Blue Bird yn 1924. Gosododd ei ŵyr, Don Wales, record y byd ar gyfer cyflymder cerbyd trydan ar y tir yn 2000. Ac ym mis Mai 2019, gosododd Porsche 911 record newydd o 338.50 km yr awr. Mae'r ardaloedd lle y gallwch yrru wedi'u cyfyngu 'nawr, ond pa un a ydych yn hoff o geir ai peidio, bydd Traeth Pentywyn yn aros yn eich cof am amser hir.

Bydd y rheiny ohonoch sy'n chwilio am wefr yn darganfod digon o anturiaethau eraill yma i gyflymu curiad eich calon, yn cynnwys hwylio, caiacio ar y môr, padlfyrddio ar eich sefyll, neu, os yw'n well gennych farchnerth mwy llythrennol, gallwch farchogaeth ceffyl ar hyd ymyl y don a theimlo'r gwynt yn sgubo trwy eich gwallt.

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Sul

Darperir brecwast yn y Grove yn Arberth.

Ymadael: 11:00

 

Gweithgareddau dewisol:

 

Ymweld ag un o Erddi Dyffryn Tywi

 

Cyfeiriad Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HN

Parcio ar y safle.

Y ffi mynediad yw £12.50. Yn agored 10am-6pm.

 

Cyfeiriad Gerddi Aberglasne: Llangathen, Sir Gaerfyrddin, SA32 8QH

Parcio ar y safle.

Y ffi mynediad yw £9.75. Yn agored 10am-5pm.

 

Gwybodaeth:
Mae dwy ardd wahanol iawn ond yr un mor apelgar yn cystadlu am eich sylw yn y rhan hon o Sir Gaerfyrddin.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn safle 560 erw a agorodd yn 2000, ac sy'n cynnwys, ymhlith ei atyniadau, amrywiaeth o erddi â thema a'r tŷ gwydr un rhychwant mwyaf yn y byd. Mewn cymhariaeth, gellid maddau i chi am feddwl eich bod wedi crwydro ar set drama gyfnod yng Ngerddi Aberglasne. Mae gerddi muriog ffurfiol Aberglasne yn dyddio o oes Elizabeth, ac mae yna Ardd Clwysty unigryw yn eu canol.

 

Ymweld â Chastell Cydweli

Cyfeiriad a pharcio: Castell Cydweli, Heol y Castell, Cydweli SA17 5BQ
Y ffi mynediad yw £5.40 (dylid archebu o flaen llaw)
Yn agored 10am-6pm

Gwybodaeth:
Castell Cydweli, sy'n sefyll ar lannau Afon Gwendraeth, yw un o'r enghreifftiau sydd wedi'u cadw orau o blith cestyll Normanaidd Cymru. Cadwch olwg am y bwâu, y gellid taflu cerrig trwyddynt at y gelyn diamddiffyn islaw. Bydd ffans Monty Python yn adnabod y castell o olygfa gyntaf Monty Python and The Holy Grail. Camlas Kymer yng Nghydweli, a adeiladwyd yn 1766, yw'r gamlas hynaf yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu'n wreiddiol i gludo glo allan o'r dref, od mae 'nawr yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn llwybr dymunol.

 

Gyrru adre

**End**