Mae Preseli Venture yn gaban eco a chanolfan antur gynaliadwy ar arfordir Gogledd Sir Benfro sy'n cynnig profiadau dan arweiniad, megis arforgampau, caiacio môr a syrffio, yn ogystal â gwyliau a phenwythnosau hollgynhwysol o weithgareddau cymysg i oedolion a theuluoedd, fel ei gilydd. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau caiacio môr, gwyliau cerdded ac encilion ffitrwydd pwrpasol.