Amdanom ni
Darganfyddwch Lwybrau Celtaidd Gorllewin Cymru a Dwyrain Hynafol Iwerddon a byddwch yn dilyn ffyrdd llai cyfarwydd i wlad yr hynafiaid. Byddwch yn dod ar draws abatai coll, cerrig cysegredig ac adfeilion cestyll. Byddwch yn darganfod chwedlau'r Seintiau, cewri a thywysogion. Byddwch yn archwilio arfordiroedd gwyllt a mynyddoedd garw a fydd yn tanio eich ymdeimlad o antur. Byddwch yn dod o hyd i bentrefi lliwgar a threfi prysur lle mae pobl yn dal i gyfarch ei gilydd ar y stryd – boed yn gyfaill neu'n ddieithryn.
Dewch i weld sut mae'r gorffennol yn dylanwadu ar fywyd bob dydd yn ein cornelyn ni o'r ddaear.
Ariennir gan


