Polisi Cwcis

Polisi Cwcis

Polisi Cwcis

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parchu eich data ac mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. 
Ein cyfeiriad yw Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Cymru, SA31 1JP.  Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon e-bost tourism@sirgar.co.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y broses hon, mae croeso i chi anfon e-bost atom.

Pam rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg?
Er mwyn sicrhau bod ein gwefan (gan gynnwys ein gwefan symudol) yn gweithio'n well rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg, megis tagio.  Gall cwcis a thechnolegau tebyg gyflawni swyddogaethau a phersonoli cynnwys.

Beth yw cwci a beth mae'n ei wneud?
Cwci yw ffeil testun bach sydd yn eich dyfais neu borwr ac mae'n cynorthwyo gyda llif gwybodaeth a swyddogaethau. Rydym yn defnyddio cwcis i gefnogi'r prif wefan a gwefannau symudol a'n ap.  Er enghraifft, mae rhai cwcis yn helpu gyda diogelwch y wefan neu'n darparu gwybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Gall rhai cwcis bersonoli cynnwys. Mae pob cwci yn cyflawni gweithred benodol.


Er enghraifft, gall cwcis anfon gwybodaeth gyffredinol am sut y defnyddir y wefan neu'r ap, gellir defnyddio rhain ar gyfer cynnal a chadw a gwella.  Nid yw'r cwcis hyn yn cipio eich data personol a ni fyddem yn gallu adnabod pobl o'r wybodaeth.  Yn syml maent yn cofnodi rhifau ac yn darparu gwybodaeth wedi'i grwpio am lywio'r wefan neu'r ap - mae hyn yn dweud wrthym os gall pobl ddod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano.


Mae cwcis eraill yn cofio gwybodaeth o un dudalen i'r llall, felly does dim rhaid i chi barhau i gofnodi'r un wybodaeth. Gelwir y rhain yn cwcis "sesiwn".  Gelwir cwcis sy'n cofio pethau am gyfnod hirach o amser, o un ymweliad i'r llall, yn cwcis "parhaus".  Gall cwcis parhaus wneud pethau megis cofio dewisiadau ac addasu cynnwys i weddu i chi (personoli).

Beth yw cwcis cyntaf a thrydydd parti?
Gall gwahanol bartïon anfon cwcis. Os daw'r cwci o'n gwefan ni, cwci parti cyntaf yw hwn. Os daw o wefan arall, megis ein cyflenwyr neu ein partneriaid busnes, mae'n gwci trydydd parti, wedi'i ddewis yn benodol gennym ni i ddarparu gwasanaeth, megis ymweliad mwy personol.

A oes rhaid i mi dderbyn Cwcis?
Gellir gwrthod cwcis, fodd bynnag, bydd hyn yn effeithio ar y wefan a'r ap. Mae cwcis yn helpu ein gwefannau a'n ap i weithio'n iawn a phersonoli eich profiad. Byddwch yn gallu pori'r gwefannau a'r ap heb gwcis ond ni fydd rhai o'r swyddogaethau, y dewisiadau a nodweddion safonol yn gweithio.

Drwy dderbyn cwcis, rydych yn caniatáu i ni wella eich profiad a chofio gwybodaeth amdanoch chi, a all bersonoli eich profiad. I dynnu eich caniatâd yn ôl, gallwch wrthod neu ddileu cwcis. Ewch i'r rhan Rheoli eich Cwcis isod ynghylch sut y gallwch chi addasu gosodiadau eich porwr.

Caniatâd
Drwy roi caniatâd i bob cwci, rydych yn cytuno y gallwn ni a'r trydydd parti a ddewiswyd yn yr hysbysiad hwn ddefnyddio (fel y disgrifir yn yr hysbysiad hwn) ddata a gesglir gan y cwcis rydych chi'n eu caniatáu.  Os nad ydych yn cytuno, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy reoli eich cwcis yn y dolenni isod. Ni fydd hyn yn cynnwys y 'Cwcis Cwbl Angenrheidiol' sydd eu hangen er mwyn i'r wefan hon weithredu. 

Rheoli eich Cwcis
Gallwch reoli gosodiadau eich cwcis drwy ddefnyddio'r ddolen hon neu drwy reoli gosodiadau yn eich porwr. Ceir rhagor o wybodaeth am gwcis ar wefannau allanol megis www.aboutcookies.org.

Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys na'r cwcis a geir ar wefannau allanol.  Os byddwch yn dilyn dolen o'n gwefan i wefan trydydd parti, bydd gan y wefan hon hysbysiadau preifatrwydd a chwcis ei hun.
Cofiwch, os byddwch yn cyfyngu ar gwcis neu'n diffodd y cwcis, gall gyfyngu ar ymarferoldeb ac atal gwefannau rhag gweithio'n iawn o gwbl.

Pa mor hir mae cwcis yn para?
Gall cwcis gwahanol bara am wahanol gyfnodau o amser. Mae cwcis sesiwn yn para ar gyfer yr ymweliad hwnnw.   Mae gwybodaeth yn cael ei chadw o un dudalen i'r llall, felly does dim rhaid i chi ei chadw.
Mae cwcis parhaus ar eich porwr a gallant barhau am flwyddyn neu nes i chi eu dileu.  Gallant bersonoli'r wefan a chofio gwybodaeth bob tro y byddwch yn ymweld.  Rydym yn eu defnyddio i weld sut y mae pobl yn ymgysylltu â'n safle.  Mae'n ein helpu i newid a datblygu'r wefan a gwella eich profiad ohono.

Pa fathau gwahanol o gwcis y mae'r wefan yn eu defnyddio a beth yw eu pwrpas?
Mae gwahanol fathau o gwcis yn gwneud pethau gwahanol.  Rydym yn defnyddio'r cwcis canlynol ar ein gwefannau a'n apiau.

 

Mae Cwcis Cwbl Angenrheidiol yn cefnogi ein gwefan. Maent yn hanfodol pan fyddwch chi'n symud o gwmpas ein gwefan ac yn defnyddio'i nodweddion.

Mae Cwcis Dadansoddol/Perfformiad yn casglu gwybodaeth ddienw am sut y mae pobl yn defnyddio'r wefan neu'r ap, sy'n ein helpu i ddatblygu'r rhain. Gallwn weld a yw pobl yn dod o hyd i bethau'n hawdd a gwella'r broses o lywio'r safle.

Mae Cwcis Swyddogaethau yn eich cofio pan fyddwch yn dychwelyd i'r safle neu'r ap a'r dewisiadau rydych wedi'u gwneud ar ymweliadau blaenorol, fel chwiliadau.

Pa fathau o dechnolegau sy'n debyg?
Mae tagio yn gweithio mewn ffordd debyg i gwcis.  Rydym yn defnyddio tag o'r enw picsel.  Mae picsel yn ddelwedd, sydd ar ôl ei roi mewn e-bost, yn cysylltu â ffeil a storir ar ein gweinydd ac mae'n ein galluogi i bennu diddordeb cwsmeriaid yn ein gwefan.  Gellir adnabod tagiau hefyd fel "beacons". Mae'r rhain yn ein galluogi i weld pa hyrwyddiadau sy'n ymddangos o ddiddordeb i'n cwsmeriaid, ac os oes un penodol o ddiddordeb i chi.