Dywedir, os ydych yn sefyll ar arfordir  Ceredigion rhwng Aberystwyth ac aber yr afon Dyfi  ar ddiwrnod tawel, ei bod yn bosibl y byddwch yn clywed clychau'n canu o dan y tonnau. Efallai mai eich dychymyg chi ydyw, neu a ydych chi'n clywed clychau Eglwys Cantre'r Gwaelod o dan y dŵr?

Yn ôl y chwedl, safai teyrnas Cantre'r Gwaelod lle mae tonnau Bae Ceredigion bellach yn llepian yn erbyn traethlin Cymru. Roedd yn deyrnas ffrwythlon a ffyniannus, gyda 16 o ddinasoedd poblog iawn. Ond roedd y tir yn isel ac felly roedd nifer o argloddiau serth wedi cael eu codi i amddiffyn y tir rhag llifogydd. Hefyd, roedd system o lifddorau i alluogi dŵr i ddod i mewn i'r deyrnas er mwyn dyfrio’r  porfeydd amaethyddol. 

Gwyddno Garanhir oedd yn rheoli’r deyrnas ac roedd wedi gwneud ei gyfaill Seithennin yn warcheidwad ar yr amddiffynfeydd môr, rôl a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb dros sicrhau bod y llifddorau'n cael eu cau bob nos. Fodd bynnag, ar ôl noson o hwyl ym mhalas y brenin, gwnaeth Seithennin gwympo i'w wely’n feddw heb wirio bod y llifddorau wedi cael eu cau.

content-img

Yn anffodus, roedd hi'n digwydd bod yn noson stormus y noson honno a thorrodd y llanw uchel drwy'r amddiffynfeydd, gan achosi llifogydd mawr yn Cantre'r Gwaelod a orfododd y bobl i ddianc i'r bryniau.

Fel y rhan fwyaf o chwedlau, mae'n anodd dweud beth sy'n wir. Mae rhai yn dweud bod stori Cantre'r Gwaelod yn ddameg i rybuddio pobl am y peryglon o gael gormod o rywbeth. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ffisegol bod tir yr oedd pobl yn arfer byw arno wedi diflannu o dan y tonnau yn ystod cyfnod y byddai’r stori wedi dechrau cael ei throsglwyddo ar lafar.   Yn ôl pob tebyg, byddai llifogydd fel hyn wedi gallu digwydd wrth i lefelau'r môr godi ar ddiwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf.

Yn ogystal â boncyffion coed hynafol y gellir eu gweld pan fydd y llanw'n isel iawn ar draeth Ynyslas, mae archeolegwyr wedi darganfod rhodfa bren hefyd, sydd wedi bod yno ers rhwng 3,000 a 4,000 o flynyddoedd, ac mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu i alluogi pobl i barhau i fyw mewn amgylchedd oedd yn mynd yn fwyfwy dwrlawn. Mae olion traed pobl ac anifeiliaid hefyd wedi eu cadw yn yr haen uchaf o fawn caled, ynghyd â cherrig wedi'u llosgi fyddai wedi dod o'r hen aelwydydd.

I weld y goedwig a thystiolaeth arall o'r 'deyrnas goll' hon, rydym yn argymell eich bod yn mynd i Ynyslas yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd y llanw cryf yn golchi mwy o'r tywod.

 

CYSYLLTIADAU CELTAIDD

Ceir hefyd dystiolaeth o 'dirweddau coll' ar draws Môr Iwerddon o Geredigion. Pan fydd y llanw'n isel iawn, mae coedwig wedi'i ffosileiddio sy'n 6,000 oed yn dod yn weladwy o draeth y gogledd yn Bray.  Mae ymchwilwyr morol wedi cynnal archwiliad pellach o dan y môr am arwyddion o'r ymsefydlwyr Gwyddelig cyntaf a allai fod wedi byw yno. Mae'r tirweddau coll hyn yn arwyddion bod glannau Cymru ac Iwerddon ar un adeg yn llawer agosach at ei gilydd nag y maent heddiw.