Sir Benfro: Tir a Threftadaeth
Soniwch am 'Sir Benfro' ac mae'n debygol o greu delweddau o glogwyni uchel gydag eangderau hir o dywod euraid rhyngddynt. Yn wir, ystyrir ei harfordir mor arbennig fel mai dyma'r unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU o hyd. Ond mae tirweddau cynhanesyddol Gogledd Sir Benfro, a'r mythau a'r chwedlau hynafol sy'n gysylltiedig â hwy, wedi peri i’r ardal gael ei disgrifio fel 'Gwlad Hud a Lledrith’. Felly, bydd y profiad hwn yn mynd â chi i'r mewndir ac i fyny i’r bryniau.
Nid yw hud a lledrith y rhan hon o Sir Benfro yn fwy amlwg nag ym Mynyddoedd y Preseli, ffynhonnell chwedlonol y Cerrig Gleision sy'n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri neu Stonehenge. Mae gweddillion cynhanesyddol, carneddau claddu a bryngaerau o Oes yr Haearn yn britho'r rhostir gwyllt a'r glaswelltiroedd.
Yn sefyll ar fynydd llwm mae Foel Drygarn, sy'n golygu 'Moel y Tair Carn’. Mae'r tair carnedd gladdu ar y copa yn dyddio o Oes yr Efydd, gyda'r fryngaer – y mwyaf yn Sir Benfro – wedi'i hychwanegu yn ystod Oes yr Haearn. Credwn fod y golygfeydd 360° o'r copa, cyn belled â Môr Iwerddon ar ddiwrnod clir, yn bendant yn gwneud y dringo'n werth yr ymdrech.
Yn nhroedfryniau'r Preseli, mae cromlech (beddrod megalithig) Pentre Ifan wedi sefyll ers 5,000 o flynyddoedd. Oddi yno gellir gweld Carn Ingli ac ehangder bae Trefdraeth. Adeiladwyd o'r un cerrig gleision o'r Preseli ag a ddefnyddiwyd yn ei 'frawd mawr' sef Côr y Cewri neu Stonehenge, ac mae Pentre Ifan hefyd yn rhannu'r un ymdeimlad o ddirgelwch ynglŷn â'i wir bwrpas. I deimlo gwir synnwyr o gysylltiad â'n hynafiaid Celtaidd, sefwch yma ar derfyn dydd wrth i'r haul fachlud dros y bae, yn union fel y byddent hwy wedi gwneud – a theimlwch yr un ias yn cerdded i lawr eich cefn.
Lle bynnag y mae pobl yn byw, rydym yn cerfio ein straeon yn y dirwedd ac nid oedd Celtiaid Gogledd Sir Benfro yn wahanol yn hyn o beth, gan adael 8 o safleoedd cynhanesyddol ar eu hôl i chi eu harchwilio. Mae Castell Henllys mor agos at bentref byw o Oes yr Haearn ag y byddwch yn dod o hyd iddo yn y DU. Cafodd y tai crwn eu hail-greu gan ddefnyddio'r tyllau pyst gwreiddiol, a ddadorchuddiwyd gan archaeolegwyr yn ystod y cloddio. Mae hanes y fryngaer yn cael ei hadrodd gan dywyswyr mewn gwisgoedd o’r cyfnod, sy'n cynrychioli aelodau o lwyth y Demetae a oedd unwaith yn byw yn y rhannau hyn. Ac os yw'r syniad o gerdded yn ôl traed rhyfelwyr yn apelio, gallwch wneud hynny – yn llythrennol – drwy ddilyn y llwybr troednoeth synhwyraidd. Mae'r llwybr yn cynnwys 8 arwyneb gwahanol i'w teimlo o dan eich traed; gan gynnwys graean fflint, clai slwtshlyd a boncyffion coed.
Bydd taith fer i bentref bach pert Nanhyfer yn eich arwain at fynwent Sant Brynach, ac at Groes Nanhyfer o’r 10fed ganrif, a ddisgrifir yn aml fel un o'r enghreifftiau mwyaf perffaith o groes Geltaidd ym Mhrydain. Byddwch hefyd yn gweld dwy garreg ogam o'r 5ed ganrif y tu mewn i'r eglwys. Cymru sydd â'r nifer mwyaf o gerrig ogam y tu allan i Iwerddon ac mae tua hanner y rhain i'w gweld yn Sir Benfro, lle sefydlwyd llawer o aneddiadau Gwyddelig. Ganwyd Sant Brynach ei hun yn Iwerddon.
Fel y soniasom eisoes, mae 8 safle hynafol yn yr ardal hon, felly beth am barhau â'ch taith o amgylch Sir Benfro gynhanesyddol am hyd yn oed mwy o hanesion am sut yr oedd yr hen Geltiaid yn uniaethu â'r tir?