Sir Gaerfyrddin: Pobl y Tu ôl i'r Llefydd
Mae'r Llwybrau Celtaidd yn llawer mwy na chasgliad o lefydd i ymweld â nhw. Tu ôl i bob lle mae stori – a thu ôl i'r stori honno, wyneb. Dim ond drwy eiriau straeon a chwedlau y mae rhai wynebau'n bodoli, mae eraill i'w gweld mewn print neu ar sgrîn. Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio'r wynebau a'u straeon.
Caiff y darn hwn o draeth sydd yn 11km o hyd ei gofio am ei hanes o dorri record cyflymder y byd ar dir. Gosododd Malcolm Campbell record cyflymder y byd ar dir yma yn y Blue Bird ym 1924 ac eto yn Blue Bird II ym 1927. Gwnaeth y Cymro J G Parry-Thomas ymdrech ofer i adennill y record oddi wrth Campbell ychydig wythnosau'n ddiweddarach, a arweiniodd at ei farwolaeth annhymig. Er bod y posibiliadau ar gyfer gyrru ar y traeth yn eithaf cyfyngedig y dyddiau hyn, mae'r traeth yn parhau i fod â lle arbennig yng nghalonnau llawer o selogion y gamp.
Wyneb sy'n gwbl gyfystyr â'r rhan hon o'r byd yw Dylan Thomas. Ni fyddai unrhyw ymweliad yn gyflawn heb daith i’w dref annwyl Talacharn, lle bu’n byw, yn caru, yn ysgrifennu, yn yfed ac, yn y pen draw, lle cafodd ei roi i orffwys ym mynwent eglwys Sant Martin. Mae'r Boathouse, lle treuliodd Thomas ei flynyddoedd olaf gyda'i wraig a'i deulu, bellach yn amgueddfa i'w fywyd a'i waith. Ar eich ffordd yno, byddwch yn mynd heibio i'r sied ysgrifennu lle ysgrifennodd Thomas ei ddrama radio enwog, 'Under Milk Wood’.
Mae chwedl Myrddin wedi cymryd cryn dipyn o afael yn Nyffryn Tywi ac mae'n hawdd gweld pam: mae'r bryniau tonnog mwyn gyda’u cestyll adfeiliedig yn creu golygfeydd gwirioneddol hudolus. Mae Castell Carreg Cennen, sy'n sefyll ar ben clogwyn calchfaen 90 metr o uchder, i'w weld yn amlwg yn erbyn y gorwel am filltiroedd. Dywedir i Urien, un o farchogion y Brenin Arthur, ei hadeiladu fel ei gaer. Saif Castell Dryslwyn ar fryn creigiog arall, a gysylltir am byth â thywysogion y Deheubarth.
Yn nhref farchnad bert Llandeilo gwelir y byd ffermio a steil cefn gwlad yn cwrdd â’i gilydd, ac mae’n ddewis doeth fel rhywle i orffwyso dros nos.
Ychydig y tu allan i Landeilo, mae gan Gastell Dinefwr le pwysig yn hanes Cymru. Y gaer, sy’n sefyll ar ben bryn fel eraill yn yr ardal, oedd lle bu'r Arglwydd Rhys unwaith yn cynnal llys ac yn dylanwadu ar benderfyniadau am Gymru. Mae’r ystâd 800 erw hefyd yn gartref i Blas Dinefwr neu Dŷ Newton o'r 17eg ganrif a pharc wedi'i dirlunio o'r 18fed ganrif sy'n cynnwys parc ceirw canoloesol.
Mae taith 40 munud mewn cerbyd yn mynd â ni i ben gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac i Lyn y Fan Fach. Cysylltir y llyn rhewlifol hudolus hwn â chwedl 'Morwyn y Llyn' o'r 14eg ganrif. Yn y stori hon, mae ffermwr ifanc yn syrthio mewn cariad â merch hardd sydd wedi dod allan o'r llyn. Mae'n ei phriodi ar yr amod, pe bai’n ei tharo dair gwaith, y bydd hi’n dychwelyd i'r llyn. Yn y pen draw mae'n ei tharo am y trydydd tro (er nad yw byth yn gwneud hynny mewn dicter) ac mae hi'n dychwelyd i'r llyn. Mae hi'n dod yn ôl am gyfnod byr i gyfarwyddo ei meibion, sy'n mynd ymlaen i fod yn feddygon, a adwaenir heddiw fel 'Meddygon Myddfai’.