Gan dybio eich bod yn dechrau eich Llwybr Celtaidd yn Nulyn, byddwch yn cymryd yr Hen Ffordd Filwrol R115 o Rathfarnham. Wrth i chi groesi i Wicklow, byddwch yn sylwi bod y dirwedd yn newid yn ddramatig. Bydd y dirwedd ddinesig yn diflannu a chyn hir byddwch yn cael eich hun ar ffordd wledig droellog, gyda grug porffor yn ymestyn cyn belled ag y gallwch weld. Yna byddwch yn sylweddoli fod y sir hon yn cael ei galw'n 'Ardd Iwerddon'.
Bydd yr Hen Ffordd Filwrol – a adeiladwyd gan Fyddin Prydain yn dilyn Gwrthryfel 1798 fel modd o ddod o hyd i wrthryfelwyr yn gyflymach – yn mynd â chi i lawr canol Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow a gallwch ymadael â hi ac ailymuno fel y mynnwch i weld y golygfeydd gorau. Bydd y ffordd drawiadol i'r de yn mynd â chi drwy Ors Liffey Head (tarddle Afon Liffey Dulyn) a'r Sally Gap. O'r Sally Gap, ewch i'r dwyrain tua Lough Tay.
Efallai y bydd Lough Tay yn edrych yn gyfarwydd ar sawl lefel. Yn gyntaf, mae'n un o'r mannau mwyaf eiconig yn Iwerddon - ac sy'n ymddangos fwyaf mewn lluniau. Yn ail, mae'r cyfuniad o ddŵr mawnog tywyll y llyn, ei siâp hirgrwn a'i draeth o dywod gwyn, yn gwneud iddo edrych ychydig yn debyg i beint enfawr o gynnyrch mwyaf Iwerddon. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymaint o gyd-ddigwyddiad ag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf, o ystyried fod y llyn yn rhan o ystâd a oedd unwaith yn eiddo i deulu Guinness. Gwnaethant fewnforio'r tywod gwyn i roi i'r llyn ei olwg unigryw.
O deithio am 25 munud mewn cerbyd i'r de y mae Glendalough, sy'n golygu 'Dyffryn y Ddau Lyn', a gafodd ei gerfio gan rewlifoedd yn ystod Oes yr Iâ diwethaf, a cheir yno harddwch naturiol ynghyd â thawelwch ysbrydol. Cafodd San Cefin ei ysbrydoli gan y lle i sefydlu dinas fynachaidd yma yn y 6ed ganrif. Galwch heibio i'r ganolfan ymwelwyr heddiw i ddarganfod sut y byddai'r ddinas hon wedi edrych yn ei hanterth, yna crwydrwch o amgylch yr adfeilion i gael gwir ymdeimlad o le. Gwnewch y gorau o harddwch y llynnoedd drwy ddilyn un o'r llwybrau. Gall gwneud tro crwn llawn o amgylch y ddau lyn fod yn daith diwrnod llawn, ond mae yna ddigon o ddewisiadau byrrach, mwy hamddenol.
Ewch i Dref Wicklow am y noson a gorffennwch y dydd gyda swper haeddiannol a pheint o'r ddiod ddu.
Mae gan Dref Wicklow ddigon i'w weld a'i wneud, ond er mwyn i chi gael eich siâr o straeon hanesyddol mae rhaid mynd ar daith o amgylch Carchar Wicklow. Byddwch yn clywed straeon am wrthryfelwyr Gwrthryfel 1798, y carcharorion a oedd yn aros i gael eu cludo i’r Byd Newydd a’r menywod a’r plant a wnaeth ddwyn bwyd yn unig er mwyn bwydo eu hunain yn ystod y newyn.
Bydd taith fer mewn cerbyd i lawr yr arfordir yn dod â chi i Fae Brittas. Dywedir mai dyma lle glaniodd San Padrig i ddechrau pan gyrhaeddodd Iwerddon, ac mae'r traethau esmwyth a'r wobr Baner Las yn gwneud y lle yn ddelfrydol ar gyfer ymdrochi a phadlo i'r teulu cyfan. Mae'r twyni tywod o bwysigrwydd ecolegol ac maent yn gartref i lawer o rywogaethau bywyd gwyllt a phlanhigion diddorol, gan gynnwys rhai prin.
“Mae ein profiad yn dod i ben ym mhentref bach llawn cymeriad Avoca. Mae'r pentref yn gartref i felin weithredol hynaf Iwerddon, man geni gwehyddwyr llaw Avoca, a'r set ffilm ar gyfer drama deledu'r BBC Ballykissangel. Dywedodd Thomas Moore, yn ei gerdd enwog 'The Meeting of the Waters' am Ddyffryn Avoca, “There is not in the wide world a valley so sweet, As that vale in whose bosom the bright waters meet“. O'r Garreg Motte, gallwch weld y pum Sir gyfagos a Chymru ar ddiwrnod clir. Yn ôl y chwedl roedd yn cael ei defnyddio fel pêl hyrddio gan Fionn Mac Cumhaill – heliwr-ryfelwr chwedlonol mwyaf Iwerddon. Mae'r straeon yn dweud bod y Motte yn rholio i lawr i Fan Cyfarfod y Dyfroedd neu'r 'Meetings of the Water' bob Calan Mai. Dilynwch y llwybr i lawr yr allt i'r Man Cyfarfod er mwyn pori yn yr Oriel Grefftau ac yfed paned haeddiannol o goffi