Ennyd Geltaidd

Ennyd Geltaidd

Ennyd Geltaidd

Yn ystod eich ymweliad, bydd adegau a lleoedd lle byddwch yn teimlo hyd yn oed yn nes at yr Ysbryd Celtaidd.

Efallai bydd wrth i chi ymlwybro ar draws traeth tawel ar dorriad gwawr. Neu efallai pan fyddwch chi'n eistedd ar bentir yn edrych dros fôr Iwerddon wrth i’r haul fachlud. Efallai  bydd pan gyffyrddwch â cherrig hynafol sydd wedi sefyll yn yr un lle ers canrifoedd. Neu gallai fod wrth i chi weld bywyd gwyllt yn ei gynefin – barcud coch yn hedfan uwchben neu forlo yn torheulo ym mwynder haul yr haf.

Rydym yn adnabod yr adegau hyn fel Ennyd Geltaidd, a byddant yn aros yn y cof ymhell ar ôl eich ymweliad â Gorllewin Cymru neu Ddwyrain Hynafol Iwerddon.

Rydyn ni eisiau i chi ddangos i ni a dweud rhywbeth am eich Ennyd Geltaidd. Defnyddiwch yr hashnod #fyennydgeltaidd (neu #mycelticmoment) a byddwn yn rhannu eich profiad gydag ymwelwyr eraill.

Cofiwch nad yw ond yn cymryd ennyd i ddarganfod yr Ysbryd Celtaidd.

 

Hidlwyr
Gwlad
Sir