Llwybrau Celtaidd – Llwybrau’r Arwyr

Rhan 1 Cymru / Rhan 2 Iwerddon

Croeso i Daith Fawr y Llwybrau Celtaidd. Mae dwy ran i’r daith hon. Mae un llwybr yn dolennu trwy Orllewin Cymru. Mae’r llwybr arall yn archwilio rhannau o Ddwyrain Hynafol Iwerddon. Caiff Llwybrau Celtaidd Cymru a Llwybrau Celtaidd Iwerddon eu cysylltu trwy borthladdoedd Abergwaun yng Nghymru a Rosslare yn Iwerddon. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio Taith Fawr y Llwybrau Celtaidd.

6

Sir

2

wlad

2

lwybr

1

daith fawr

Dilynwch y ffordd hamddenol

Gellir teithio ar hyd llwybrau Cymru ac Iwerddon mewn un daith, neu eu gwneud ar wahân ar adegau gwahanol. Mae pob llwybr yn un cylchol, gan ddechrau a gorffen yn y porthladd sy’n cysylltu’r ddwy wlad Geltaidd. Efallai eu bod yn gylchol, ond nid cylchol mohonynt yn unig. Fe’ch anogir i ddilyn ffyrdd amgen a chymryd cynifer o seibiannau ag y dymunwch. Arafwch a chymerwch eich amser i ddarganfod y dylanwadau Celtaidd sydd wedi llunio’r tiroedd hyn.

Chwilfrydedd fydd eich cwmpawd

Bydd y llwybrau yn eich tywys dros fynyddoedd mor hen â’r bryniau. Ac ar hyd arfordiroedd Celtaidd dramatig. Mae’r trefi yn llawn cymeriad a lleoedd i fwynhau bwyd a diod lleol. Ond rydym yn eich annog i fynd y tu hwnt i’r prif lwybr a dilyn ffyrdd llai amlwg i gael cip agosach ar yr Ysbryd Celtaidd. Efallai na ellwch ei gyffwrdd na’i weld. Ond gellwch ei deimlo a’i synhwyro. Dyma’r ymdeimlad o fod yn rhywle arbennig. Rhywle digyfnewid. Mae’n rhywbeth y mae pobl wedi’i brofi trwy’r oesoedd. Mae’n rhywbeth sy’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn perthyn, ac yn rhywbeth sy’n eu tynnu’n ôl. Yr Ysbryd Celtaidd yw ein henw ni arno.

Mannau Darganfod

Ar adegau, byddwch am fynd allan o’ch car, gwisgo eich esgidiau cerdded, a gweld Cymru ac Iwerddon mewn manylder uwch. Y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth. Y pethau na fyddech yn sylwi arnynt pe byddech yn gyrru car. Ar droed, gallwch dreulio amser yn chwilota, yn blasu, yn cyffwrdd, yn cwrdd â phobl ac yn sgwrsio. Felly, ar hyd y llwybrau, rydym wedi awgrymu mannau i oedi neu i grwydro y tu hwnt i’r llwybr sathredig. Dyma fannau a fydd yn eich tywys yn nes at fyd natur ac yn eich hebrwng yn ôl mewn amser. Dyma fannau lle y gallwch fwynhau’r tir, y môr a’r awyr.

Teithlen

Llwybrau’r Arwyr Cymru

Abergwaun - Aberteifi - Aberystwyth - Llanbedr Pont Steffan - Caerfyrddin - Hwlffordd - Abergwaun

Dechrau
1. Dydd #1
Man Dechrau a Gorffen: Rhan 1 – Abergwaun i Aberteifi

Abergwaun

Mae fferi wedi cysylltu Abergwaun â Rosslare oddi ar 1906. Ond mae’r cysylltiadau morol rhwng Sir Benfro a County Wexford yn llawer hŷn na hynny. Datblygodd Cwm Abergwaun, sy’n lle hynod o brydferth, yn borthladd a physgodfa penwaig, gan fasnachu ag Iwerddon, yn ogystal â Bryste a Lerpwl yn Lloegr.

 

Mae Abergwaun ac Wdig, sydd gerllaw, yn enwog fel lleoliad goresgyniad olaf Prydain. Tafarn y Royal Oak, yng nghanol tref Abergwaun, oedd y fan lle llofnodwyd y cytundeb heddwch rhwng Prydain a Ffrainc. Rhwystrwyd y Ffrancwyr gan grŵp o fenywod mewn gwisgoedd a hetiau Cymreig traddodiadol. Yn ôl y sôn, credai’r Ffrancwyr mai milwyr Prydeinig oeddent.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Yn 1971, daeth sêr Hollywood i Gwm Abergwaun a oedd yn rhan o’r set ar gyfer ffilm o waith y bardd o Gymru, Dylan Thomas, sef ‘Under Milk Wood’.

 

Dilynwch yr A487 i’r gogledd trwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I’r chwith, mae Môr Iwerddon. I’r dde, mae mynyddoedd hynod y Preseli.

 

Ffordd Amgen: Penrhyn Ynys Dinas

Ym mhentref Dinas, trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd tuag at benrhyn Ynys Dinas. Ar yr ochr ddwyreiniol, fe ddewch o hyd i bentrefan a thraeth Cwm-yr-Eglwys. Saif adfeilion Eglwys Sant Brynach, a ddinistriwyd yn storm fawr 1859, uwchlaw’r traeth. O’r fan hon, gallwch grwydro i draeth hardd a chuddiedig Pwllgwaelod yng Nghwm Dewi, sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt. Neu, ewch i gerdded rhan o Lwybr Arfordir Cymru o gwmpas Ynys Dinas.

 

Yn Nhrefdraeth, mae’r A487 yn anelu tuag at fynyddoedd y Preseli. Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn i’r mewndir yma.

 

Nanhyfer

Toc ar ôl Trefdraeth mae pentrefan Nanhyfer. Dyma le bach â hanes mawr. Bu unwaith yn ganolfan weinyddol allweddol. Yma, gallwch synhwyro’r gorffennol ym mhob cornel. Gallwch weld olion castell mwnt a beili uwchlaw’r pentref, ynghyd â phont hynafol. Dyma le hynod o ysbrydol. Adeiladwyd yr eglwys Normanaidd ar seiliau adfeilion llawer hŷn na hynny. Mae Croes Geltaidd Nanhyfer ar ochr ddeheuol yr eglwys yn cynnwys Carreg Vitalianus wedi’i harysgrifio mewn Lladin, a charreg wedi’i cherfio â’r sgript Ogham Wyddelig. Byddwch hefyd yn clywed am hanesion y pererinion, y Greal Sanctaidd a’r goeden Ywen sy’n gwaedu.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

O Nanhyfer, gallwch ddilyn llwybrau hynafol trwy dirwedd ddigyfnewid a llawn awyrgylch Mynyddoedd y Preseli. Mae’r ardal mor syfrdanol mae’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad Hud a Lledrith’. Byddwch yn teimlo’n agos at yr Ysbryd Celtaidd yma. Yn frith ar hyd y rhostir a’r glaswelltir gwyllt y mae olion cynhanesyddol, carneddau claddu a bryngaerau o’r Oes Haearn. I lawer, yr uchafbwynt yw Siambr Gladdu Pentre Ifan. Mae dirgelwch a rhyfeddod y lle yn cael ei ddwysáu gan yr hyn sydd o’i gwmpas a Charn Ingli yn gefnlen iddo – sef ‘Mynydd yr Angylion’.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Mynyddoedd y Preseli yw ffynhonnell cerrig gleision enwog Sir Benfro a ddefnyddiwyd i adeiladu Côr y Cewri, yn ogystal â Phentre Ifan ei hun.

 

Parhewch ar yr A487, trwy bentrefi Felindre Farchog ac Eglwyswrw tuag at dref Aberteifi.

 

Ffordd Amgen: Cilgerran a Chenarth

Ym Mhen-y-bryn, gallwch droi i’r dde ac anelu at bentref Cilgerran. Mae Cilgerran, sy’n sefyll ar lan ddeheuol Afon Teifi, yn cynnig cyfleoedd i dreiddio’n nes at fyd natur a hanes. Saif castell godidog Cilgerran uwchlaw ceunant dramatig Afon Teifi. Bydd pobl sy’n gwirioni ar fyd natur am dreulio ychydig o amser yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi. Dyma gartref rhai o ffawna a fflora mwyaf rhyfeddol y DU. Yma,  fe allech weld glas y dorlan, dyfrgwn, ceirw ac adar hirgoes. Mae yna bedwar llwybr natur thematig o gwmpas y warchodfa, yn ogystal â sawl cuddfan adar. Eisteddwch mewn heddwch i wylio byd natur.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Paentiwyd a brasluniwyd Castell Cilgerran sawl gwaith gan yr arlunydd enwog JMW Turner.

 

O Gilgerran, nid yw Rhaeadrau Cenarth ond ychydig dros chwe milltir i ffwrdd ar hyd yr A484. Mae Cenarth yn bwynt cyswllt rhwng tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Yng Nghenarth, mae eogiaid yn ceisio neidio i fyny’r afon i gyfeiliant sŵn Afon Teifi sy’n rhaeadru i lawr. Cenarth hefyd yw un o’r ychydig leoedd sydd ar ôl sy’n dal i ddefnyddio cychod bach Celtaidd, o’r enw cwryglau. Yng Nghanolfan Genedlaethol y Cwrwgl, fe ddewch o hyd i ragor o wybodaeth am hanes y cwrwgl a gâi ei ddefnyddio gan y Celtiaid cyn oes y Rhufeiniaid. Mae carreg Ogham i’w gweld ym mynwent Eglwys Llanllawddog yng Nghenarth. Mae yna hefyd ffynnon sanctaidd yn y fynwent wedi’i chysegru i Sant Llawddog.

2. Dydd #2
Rhan 2 – Aberteifi i Aberystwyth

Aberteifi

Mae Afon Teifi yn cwrdd â’r môr yn Aberteifi. Mae’n borthladd hanesyddol ac yn dref farchnad. Yn y 19eg ganrif, Aberteifi oedd un o’r porthladdoedd prysuraf yng Nghymru. Yna, arweiniodd cysylltiadau masnach rhyngwladol y dref a’i lleoliad delfrydol at lewyrch digynsail. Efallai mai’r hanes hwn o fasnachu yw’r rheswm pam y mae gan y dref un o’r strydoedd mawr mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae’n fwrlwm o siopau annibynnol ac yn llawn cynnyrch lleol. Mae Castell Aberteifi yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif ac wedi bod yn destun brwydr droeon. Bellach, mae’n lleoliad pwysig ar gyfer digwyddiadau ac yn ganolfan ddehongli. Gallwch hyd yn oed aros yno – gallwch hefyd aros yn hen garchar y dref, neu mewn hen dŷ grawn, sydd bellach yn westy moethus. Erbyn heddiw, mae gan Aberteifi enw da fel un o drefi mwyaf creadigol Cymru.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Erbyn heddiw, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn a dyma’r digwyddiad diwylliannol mwyaf yn y byd.

 

Ewch ar hyd ffordd yr A487 tua’r gogledd wrth iddi ddilyn amlinelliad arfordir Bae Ceredigion.

 

Ffyrdd Amgen

Wrth i chi fynd tua’r gogledd, bydd bron pob troad i’r chwith yn eich arwain at bentrefi harbwr hardd neu draethau godidog. Mae lleoedd tebyg i Aber-porth, Tresaith, Llangrannog a Chwmtydu yn fannau bach gwych sy’n edrych dros Fôr Iwerddon. Mae Ceinewydd yn harbwr poblogaidd, a dyma le gwych i fwynhau pleserau arhosol lan y môr Cymru. Daw’r cyfan ynghyd yng Ngheinewydd – y traethau, y llwybrau cerdded arfordirol, y teithiau cychod, a’r cyfle i weld dolffiniaid. Yn yr haf, gallwch fynd ar deithiau cwch i edmygu amrywiaeth bywyd gwyllt ac arfordir Bae Ceredigion, gyda thywysydd gwybodus sy’n deall ac yn parchu bywyd gwyllt.

 

Daliwch ati ar yr A487. Cyn hir byddwch yn cyrraedd tref harbwr hardd Aberaeron.

 

Aberaeron

Gyda dyfroedd Bae Ceredigion yn pefrio yn y cefndir, a’r adeiladu lliwgar yn cofleidio’r harbwr, bydd eich hwyliau’n siŵr o godi. Gelwir Aberaeron yn Dref y Lliwiau, oherwydd mae pob adeilad wedi’i baentio’n lliw gwahanol. Mae’r dref yn fan poblogaidd ar gyfer y rheiny sydd am fwynhau siopau annibynnol a lleoedd i fwyta, yfed ac aros.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae llwybr cerdded poblogaidd ar gael ar hyd Afon Aeron o’r harbwr. Dyma ffordd wych o dreulio bore neu brynhawn. Bydd y llwybr yn eich arwain at eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef Llanerchaeron. Dyma fila Sioraidd ysblennydd, a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, buarth fferm, llyn a pharcdir prydferth. Ar un adeg, bu’n eiddo i Llewellyn Parry, a allai olrhain ei linach yn ôl i Dywysogion Cymru.

 

O Aberaeron, mae’n daith 16 milltir tua’r gogledd ar hyd yr A487 i Aberystwyth.

3. Dydd #3
Rhan 3 – Aberystwyth i Lanbedr Pont Steffan

Aberystwyth

Aberystwyth yw Prifddinas Diwylliannol Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli yma. Mae’n cadw cof y genedl a chofnodion cenedlaethau Cymreig y gorffennol. Eu bywydau, eu cariad, a’u hetifeddiaeth. Mae pobl sy’n teimlo agosatrwydd at Gymru yn dod yma i ddarganfod hanes eu teuluoedd eu hunain, a hynny mewn llawysgrifau, mapiau, darluniau, cofnodion cerddorol a ffilmiau. Mae yna deimlad cosmopolitaidd i’r dref, sy’n gartref i’r coleg prifysgol anenwadol cyntaf yng Nghymru, ac mae hefyd yn gwbl Gymreig. Wedi’i lleoli yng nghanol prydferthwch Bae Ceredigion, mae’r dref yn denu ymwelwyr i fwynhau’r ardal gyfagos. Gyda’r nos, ewch i eistedd ar y promenâd i fwynhau un o’r lleoliadau machlud gorau yng Nghymru.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Wrth gerdded ar hyd promenâd Aberystwyth mae’n arferol ‘cicio’r bar’ ar un pen ohono. Nid oes neb yn gwybod yn iawn beth yw tarddiad y traddodiad hwn. Mae rhai yn dweud bod preswylfeydd y brifysgol i ferched yn unig wedi’u lleoli yn y pen hwn o’r dref, ac y byddai’r bechgyn yn cicio’r bar i gael eu sylw!

 

Mae’r rhan hon yn eich tywys i ffwrdd o’r arfordir ac i fyny at Fynyddoedd Cambria. Gan adael Aberystwyth, cymerwch yr A4120 tuag at Bontarfynach. Wrth i chi ddringo tua’r bryniau, edrychwch i’r chwith ac fe welwch Gwm Rheidol yn wyrddlas islaw. Os ydych yn lwcus, gallwch hefyd weld trên stêm Rheilffordd Cwm Rheidol wrth iddo bwffian ei ffordd, gan lynu at ochr y cwm. 

 

Pontarfynach

Ymhen 13 milltir, byddwch yn cyrraedd Pontarfynach. Mae’r lle hudolus hwn wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd. Y prif atyniad yw’r rhaeadr 300 troedfedd a’r tair pont a adeiladwyd un ar ben y llall rhwng y 12fed a’r 19eg ganrif. Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y Diafol gan ei bod yn dasg rhy anodd i feidrolion.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae taith gerdded gylchol yn dechrau gyda disgyniad serth i lawr o Faes Parcio Pontarfynach i waelod y rhaeadrau, cyn dringo yn ôl i fyny. Byddwch yn barod am ffair o synhwyrau: dŵr yn disgyn, adar yn canu, brithder yr heulwen yn disgleirio ar wyneb y dŵr, arogl coediog-daearog y mwsogl llaith. Mae hon yn daith gweddol fer, ond caled. Neilltuwch o leiaf awr i’w chwblhau.

 

Ffordd Amgen: Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant Yr Arian

Wedi’i leoli ychydig dros bum milltir o Bontarfynach, trwy ddilyn yr A4120 a’r A44, dyma’r lle i edmygu aderyn ysglyfaethus enwocaf Cymru. Yn ystod y 19eg ganrif, cafodd y Barcud Coch ei erlid i ddifodiant ledled y DU. Ac eithrio yng Nghymru. Erbyn 1903, pan ddechreuwyd ar y gwaith amddiffyn, dim ond llond llaw o barau oedd ar ôl mewn rhannau anghysbell o ganolbarth Cymru. Erbyn heddiw, mae mwy na 2,500 o barau bridio ledled Cymru. Ond Canolbarth Cymru yw’r lle sydd â’r nifer mwyaf. Maent yn bwydo’r Barcudiaid Coch bob dydd ym Mwlch Nant yr Arian. Mae gwylio tua 200 o adar yn ymgasglu ar gyfer y wledd yn rhywbeth gwerth ei weld.

 

Ar ôl gadael Pontarfynach, ewch i’r de ar y B4343 tuag at Dregaron. Mae’r ffordd gulach hon yn eich tywys trwy odre Mynyddoedd Cambria. Ar hyd y daith, chwiliwch am fannau i oedi er mwyn anadlu aer y mynydd ac edmygu’r olygfa.

 

Ffordd Amgen: Abaty Ystrad Fflur

Ym Mhontrhydfendigaid, trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd gul fer tuag at Abaty Ystrad Fflur. Dyma lle mae cenedlaethau o dywysogion Cymreig wedi’u claddu. Ar un adeg, hon oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Tyddewi. Dyma le ar gyfer pererindod ac un o hanfodion diwylliant Cymru. Nid oes rhyfedd iddo gael ei alw’n ‘Abaty San Steffan Cymru’. Yn yr haf, efallai y gallwch ymuno â gwaith cloddio archaeolegol.

 

Tregaron

Mae Tregaron yn ymgorffori Ysbryd Mynyddoedd Cambria. Trwy’r oesau, mae’r mynyddoedd a’r ardal wledig Gymreig o’i chwmpas wedi llunio cymeriad y dref wirioneddol Gymreig hon. Byddai porthmyn, ffermwyr a merlotwyr yn ymgasglu yma gan ddod â sŵn a bywiogrwydd i’r lle. Byddent yn dod i fasnachu, i gymdeithasu ac i adrodd straeon. Ac yn Nhregaron, fe ddewch o hyd i straeon ym mhob twll a chornel. Hanesion am eliffantod, tangnefeddwyr a lladron. Efallai mai’r enwocaf ohonynt yw Twm Siôn Cati – Robin Hood Cymru. Ar sgwâr y dref, fe welwch gerflun ohono wedi’i naddu o bren. Mae siop emwaith fyd-enwog Rhiannon ar y sgwâr hefyd. Mae Rhiannon Evans wedi bod yn dylunio ac yn creu gemwaith wedi’i ysbrydoli gan y byd Celtaidd ers dros 40 mlynedd. Mae llawer o’i darnau wedi cael eu dylanwadu gan etifeddiaeth y Celtiaid: eu hiaith, eu llên gwerin a’u traddodiadau. Ar y safle, fe ddewch o hyd i amgueddfa ac oriel gelf ac mae cyfle i wylio’r gemyddion wrth eu gwaith.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Yn ôl y chwedl, mae corff eliffant o syrcas deithiol wedi’i gladdu rhywle o dan ardd gwrw Gwesty’r Talbot yn Nhregaron.

 

Ffordd Amgen: Capel Soar y Mynydd

Os ydych yn ddigon dewr i fentro ar hyd y ffyrdd mynyddig sy’n codi y tu ôl i Dregaron, cewch eich gwobrwyo ag un o’r teithiau mwyaf cofiadwy yng Nghymru. Ewch tuag at Gapel Soar y Mynydd – y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru. Saif Soar y Mynydd yng nghwm Afon Camddwr, a hynny’n uchel ym Mynyddoedd Cambria ger ffin ddwyreiniol Ceredigion. Efallai ei fod yn anghysbell, ond byddwch yn dilyn taith a wnaed gan gyn-Arlywydd UDA, Jimmy Carter, a ddaeth i’w weld yn ystod ei wyliau yn pysgota yng Nghymru yn 1986. Mae darlun o’r capel gan yr arlunydd lleol, Wynne Melville Jones, yn rhan o gasgliad celf y cyn-Arlywydd.

 

Gadewch Dregaron ar yr A485 ac ewch i’r de i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.

4. Dydd #4
Rhan 4 – Llanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin

Llanbedr Pont Steffan

Mae Llanbedr Pont Steffan yn dref brifysgol ac yn dref farchnad. Saif ar y ffin â Sir Gaerfyrddin. Dyma’r dref brifysgol leiaf ym Mhrydain. Saif y dref mewn basn naturiol, wedi’i gwarchod gan y bryniau a’r mynyddoedd cyfagos, a hynny’n agos at Afon Teifi. Mae Llanbedr Pont Steffan yn gartref i Ganolfan Cwiltiau Cymru. Yn draddodiadol, mae’r cwiltiau Cymreig yn llawn gwlân lleol, sy’n rhoi gwedd gweadog iddynt, a dyna sy’n eu gwneud yn unigryw. Syrthiodd Jen Jones, sy’n wreiddiol o New England, mewn cariad â’r cwiltiau Cymreig pan ddaeth i Gymru yn 1971. Sefydlodd Ganolfan Gwiltiau Cymru yn Hen Neuadd y Dref, Llanbedr Pont Steffan. Gall ymwelwyr weld rhai o gwiltiau gorau’r byd yno, a dysgu mwy am y traddodiad.

 

Wrth i chi adael Llanbedr Pont Steffan, byddwch yn croesi’r bont sydd wedi rhoi i’r dref ei henw Cymraeg. Wrth groesi Afon Teifi, byddwch yn gadael Ceredigion ac yn cyrraedd Sir Gaerfyrddin. Dilynwch yr A482 ac ewch i gyfeiriad Pumsaint.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Y tu allan i Bumsaint, fe ddewch o hyd i Fwynfeydd Aur Dolaucothi. Dechreuwyd cloddio am aur yma ychydig ar ôl i’r Rhufeiniaid gyrraedd Sir Gaerfyrddin tua 70 OC. Wrth ymweld â Dolaucothi, byddwch yn cael eich tywys ar daith danddaearol a fydd yn datgelu cyfrinachau’r dirwedd ddiwydiannol hon. Bydd hyd yn oed cyfle i chi olchi aur trwy badell. Bydd angen i chi archebu eich taith ymlaen llaw.

 

Parhewch ar yr A482 hyd at gyffordd yr A40. Trowch i’r dde ac ewch tuag at Landeilo.

 

Ffordd Amgen: Llanymddyfri

Rydych yn agos at dref farchnad Llanymddyfri. Mae’r dref wedi’i lleoli yn agos at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar un adeg, roedd gan y dref fwy o dafarnau y pen nag unman arall. Mae’r llu hwn o dafarnau yn deillio o dreftadaeth y dref fel tref y porthmyn. Credir bod mwy na chant yn y dref yn ystod yr 1700 ganrif. Mae llawer yma hyd heddiw, a gan fod hon yn ardal amaethyddol, gallwch fwynhau lluniaeth lleol gyda’r cwrw a wnaed â llaw. Y tu ôl i bob cornel, byddwch yn darganfod cysylltiadau â threftadaeth y porthmyn. Lleolwyd Banc yr Eidion Du ar Stryd Cerrig. Roedd y banc, a sefydlwyd yn 1799, yn dosbarthu ei bapurau arian ei hun a oedd yn cynnwys arwyddlun eidion. Roeddent yn ddull o dalu ar gyfer y porthmyn, ond yn gwbl ddi-werth i unrhyw ladron pen ffordd, lladron neu fôr-ladron a fyddai eisiau cymryd eu helw.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Byddai’r porthmyn yn defnyddio cŵn i’w helpu i reoli’r stoc, a byddent weithiau yn cael eu hanfon adref ar eu pennau eu hunain ar ôl y daith, gan olrhain eu llwybr yn ôl, a byddent yn cael eu bwydo mewn tafarnau neu ar y ffermydd lle byddai’r porthmyn yn aros. Byddai’r porthmyn yn talu am eu bwyd yn ystod eu siwrnai nesaf.

 

Llandeilo

Saif Llandeilo ar fryn yn edrych dros Afon Tywi. Ymestynna strydoedd cul y dref a’r tai Sioraidd lliw pastel i lawr at y bont gerrig un bwa drawiadol islaw. Heddiw, mae Llandeilo yn gyrchfan siopa boblogaidd ymhlith ymwelwyr a phobl leol, fel ei gilydd. Cânt eu denu yma am nad oes gan Landeilo lawer o siopau cadwyn, sy’n rhan annatod o nifer o drefi eraill ym Mhrydain, a gwelant hynny fel chwa o awyr iach. Yn hytrach, mae gan Landeilo ddewis gwych o fasnachwyr annibynnol, siopau hen bethau hynod ac orielau celf. Mae perchnogion y siopau yn cymryd y gwaith o baratoi’r ffenestr siop o ddifrif ac, yn aml, mae yna gystadleuaeth ar gyfer yr arddangosfeydd tymhorol mwyaf cain ac unigryw. Llandeilo yw cartref gwreiddiol y brand rhyngwladol ar gyfer dillad a nwyddau ffordd o fyw, sef Toast. Heddiw, mae Stryd Rhosmaen a’r strydoedd cysylltiol yn llawn o siopau a bwticau o safon.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Ar un adeg, pont gerrig Llandeilo oedd y bont un bwa hiraf yn y byd. Fe’i hadeiladwyd yn 1848 ac fe’i hystyriwyd bryd hynny, a hyd heddiw, yn un o ryfeddodau Cymru.

 

O Landeilo, parhewch ar yr A40 tuag at Gaerfyrddin.

 

Ffordd Amgen: Castell Carreg Cennen

O Landeilo, ewch ar yr A483 a throwch i’r chwith tuag at bentref Trap. Rydych ’nawr ar ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyn hir, byddwch yn gweld yr hyn y mae nifer yn ei gredu yw castell godidocaf Cymru yn esgyn yn y pellter. Dyma hefyd un o’r cestyll y tynnwyd ei lun amlaf yng Nghymru. Saif y castell ar graig o galchfaen ac mae’n edrych i lawr dros y cwm islaw. Mae hud a mawredd yn perthyn i Garreg Cennen.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae’n dipyn o daith i gerdded i fyny at y castell felly bydd arnoch angen eich esgidiau cerdded. Mae yna hefyd ddwy daith gylchol (un fer ac un hir) yn agos at y castell a fydd yn eich galluogi i archwilio’r rhan hon o’r Parc Cenedlaethol ar droed.

5. Dydd #5
Rhan 5 – Caerfyrddin i Hwlffordd

Caerfyrddin

Saif Caerfyrddin ar lannau Afon Tywi, tua wyth milltir cyn i’r afon hardd hon lifo i mewn i Fae Caerfyrddin. Yma, mae afon hiraf Cymru yn dal i fod yn llanwol, a dyna pam ar un adeg y dywedwyd mai Caerfyrddin oedd porthladd mwyaf Cymru. Dros y canrifoedd, mae’r afon wedi llywio hanes y dref, gan ddarparu, amddiffyn, cynnig cyfleoedd hamdden a chynnal ffyrdd o fyw. Un o drigolion cynnar amlycaf Caerfyrddin oedd y Dewin Myrddin. Mae enw tref Caerfyrddin yn golygu Caer Myrddin, ac mae llawer yn credu bod y dref wedi’i henwi ar ôl dewin y Brenin Arthur. Mae Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif hynaf a ysgrifennwyd yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, yn cynnwys cerddi am Myrddin. Mae Caerfyrddin wedi bod yn dref farchnad ers oes y Rhufeiniaid ac mae’r farchnad dan do fodern yn gwerthu popeth o gelf a chrefft i fwyd a diod lleol. Y tu hwnt i’r farchnad, mae Caerfyrddin yn llawn siopau annibynnol diddorol, siopau hen bethau, a lleoedd gwych i fwyta.

 

Gan adael Caerfyrddin, bydd y llwybr yn eich tywys i’r gorllewin ar yr A40 tuag at Sanclêr.

 

Ffordd Amgen

Ewch ar yr A484 tua’r de. Rydych yn mynd i gyfeiriad arfordir hudolus sy’n aml yn cael ei anwybyddu gan ymwelwyr â Chymru. Bydd y ffordd amgen hon yn mynd â chi i brofi trefi arfordirol diddorol, traethau hir a gwag, hanes cyfareddol ac, yn y pen draw, i dref yn llawn treftadaeth ddiwydiannol.

 

Glanyfferi

Ar ôl chwe milltir, trowch i’r dde ac ewch tuag at eich man aros posibl cyntaf. Roedd Glanyfferi yn bentref pysgota yng nghanol diwydiant casglu cocos Bae Caerfyrddin. Gelwir y pentref yn Glanyfferi oherwydd o’r oesoedd canol arferai fferi gysylltu’r pentref â Llansteffan sydd ar ochr arall moryd Afon Tywi. Gallwch wneud y siwrnai honno heddiw hefyd. Mae’r Glansteffan yn gerbyd tir a môr a ddyluniwyd yn benodol i ddelio â llanw uchel ac isel y Bae. Argymhellir y dylid archebu ymlaen llaw.

 

Cydweli

Wrth adael Glanyfferi, ewch tuag at Gydweli. Mae Castell Cydweli, sy’n sefyll ar gefnen serth yn edrych i lawr dros y dref, yn un o’r cestyll Normanaidd sydd wedi cadw orau yng Nghymru.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Cafodd golygfa agoriadol enwog ‘Monty Python and The Holy Grail ei ffilmio yng Nghastell Cydweli.

 

Ewch i gyfeiriad Pen-bre nesaf.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi’i leoli mewn 500 erw o barcdir godidog, a hynny ychydig funudau mewn cerbyd o’r pentref ei hun. Yn rhan ddeheuol Parc Gwledig Pen-bre mae twyni tywod a thraeth Cefn Sidan – traeth hiraf Cymru ac yn wyth milltir o hyd. Mae’n llecyn poblogaidd gan bobl sy’n dod i fwynhau’r haul, nofwyr a cherddwyr, fel ei gilydd. Mae yna nifer o lwybrau cerdded o gwmpas y parc a’r traeth. Pan fydd y llanw’n isel, cadwch olwg am longddrylliadau sy’n brawf o natur beryglus y môr yn y fan hon. 

 

Porth Tywyn

Y pentref nesaf yw Porth Tywyn. Adeiladwyd yr harbwr yn ystod yr 1830au i gludo glo o Gwm Gwendraeth. Datblygodd gweithfeydd tunplat, copr, arian a phlwm ochr yn ochr â hyn.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Daeth Amelia Earhart i’r lan ym Mhorth Tywyn pan laniodd ei hawyren fôr ‘Friendship’ ar foryd Afon Llwchwr ar ôl ei hediad ar draws yr Iwerydd a dorrodd record iddi. Caiff ei chyflawniad ei goffáu yng Ngerddi Amelia Earhart yng nghanol y dref.

 

Llanelli

Eich cyrchfan olaf ar y ffordd amgen hon fydd Llanelli. Caiff y dref hefyd ei hadnabod fel Tinopolis, oherwydd ddiwedd y 19eg ganrif roedd tua 90% o dunplat y byd yn cael ei wneud yn ne-orllewin Cymru a Llanelli oedd canolbwynt hynny. Gallwch ddysgu mwy am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal hon mewn sawl man, gan gynnwys ym Mhlas Llanelly ac Amgueddfa Parc Howard. 

 

A oeddech chi’n gwybod?

Yn ystod canol yr 20fed ganrif, Llanelli oedd y dref fwyaf yn y byd lle roedd mwy na hanner y boblogaeth yn siarad iaith Geltaidd.

 

Gan adael Caerfyrddin, bydd y llwybr yn eich arwain i’r gorllewin ar hyd yr A40 tuag at Sanclêr.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr, sy’n 1.5 milltir o hyd, yn cysylltu 12 o safleoedd hanesyddol ac yn eich tywys heibio i ddigon o siopau a lleoedd bwyta os oes arnoch angen hoe fach. Mae’n hawdd dilyn y llwybr gan ei fod wedi’i gyfeirbwyntio ag arwydd baedd, a hynny oherwydd ei fod yn symbol pwysig mewn llên gwerin Celtaidd. Mae’r Twrch Trwyth yn gysylltiedig â chwedl Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion, ynghyd â’r Brenin Arthur.

 

Gadewch Sanclêr ac ewch ar yr A4066 ar hyd ffyrdd gwledig hyfryd tuag at Dalacharn.

 

Talacharn

Mae Talacharn wedi’i leoli ar yr arfordir, a hynny mewn lleoliad dymunol ar y foryd lle mae Afon Taf yn llifo i mewn i Fae Caerfyrddin. Mae’n bosibl bod Talacharn yn fwyaf enwog am gysylltiad y lle â’r bardd o Gymru, Dylan Thomas. Bu Dylan yn byw yn Nhalacharn rhwng 1949 hyd at ei farwolaeth yn 1953. Mae dyfyniad enwog ganddo yn disgrifio’r dref fel “a timeless, mild, beguiling island of a town”. I lawer, y Tŷ Cwch (Boathouse) sy’n eu denu i’r dref. Nid yw’n syndod bod Dylan wedi dewis byw yn y tŷ hwn gan ei fod yn cynnig golygfeydd ysblennydd o foryd Taf – neu’r “heron priested shore”. Nid oes dim dwywaith bod hyn wedi cynnig llawer o ysbrydoliaeth greadigol iddo. Byddai’n mynd i ysgrifennu mewn sied fechan, yn agos at y prif dŷ. Heddiw, mae’r tŷ yn amgueddfa ac yn deyrnged i un o ddoniau llenyddol enwocaf Cymru.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae Llwybr Pen-blwydd Dylan, sydd tua thair milltir o hyd, yn ffordd wych o weld y dref a’r ardal gyfagos, a dyma hefyd y ffordd orau o fagu syched. Yn 1944, lluniodd Dylan ‘Poem in Octoberam daith ar ei ben-blwydd i droed Bryn Syr John. Mae’r gerdd hardd hon yn sôn am ei gariad at Dalacharn ac am fynd yn hŷn. Gallwch dorri eich syched wedyn yng ngwesty’r Brown’s Hotel, sef hoff fan yfed Dylan.

 

Ewch y tu hwnt i Dalacharn i yrru’n hamddenol ar hyd yr A4066 a’r B4314. Ychydig oddi ar y ffordd hon, fe ddewch o hyd i nifer o draethau gwych a llwybrau cerdded arfordirol os hoffech ymestyn eich coesau. Cadwch olwg am Draeth Pentywyn, Morfa Bychan, Traeth Marros a Thraeth Telpyn. Ar ôl croesi’r ffin i Sir Benfro ger Amroth, parhewch ar hyd y B4314 tua’r gogledd i gyfeiriad Arberth.

 

A oeddech chi’n gwybod? 

Gosododd Syr Malcolm Campbell record byd am gyflymder ar dir o 146.16 mya (235.22 km/awr) yn ei gar Blue Bird ar Draeth Pentywyn ar 25 Medi 1924. Gallwch ddysgu mwy yn yr Amgueddfa Cyflymder sydd gerllaw’r traeth.

 

Arberth

Mae Arberth yn dref farchnad fach hynod yng nghanol dwyrain Sir Benfro. Mae ganddi enw da cwbl haeddiannol fel paradwys i siopwyr. Mae’r siopau ar y Stryd Fawr yn falch o fod yn siopau annibynnol. Mae yna amrywiaeth o siopau, bwytai ac orielau diddorol a deniadol yno.

 

Ar ôl Arberth, ewch ar yr A40 tuag at Hwlffordd.

 

Ffordd Amgen: Archwilio Moryd Daugleddau

Ar ôl ychydig, ewch oddi ar yr A470 ac ymunwch â’r A4075. Yn fuan wedi hynny, trowch i’r dde a dilynwch y ffyrdd gwledig cul i archwilio rhannau uchaf Moryd Daugleddau. Mae pedair afon yn dod ynghyd ym Moryd Daugleddau, sef: Cleddau Wen, Cleddau Ddu, Caeriw a Cresswell, a hynny yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae rhannau uchaf y foryd yn arbennig o hardd, gyda llethrau serth, coediog bob yn ail â thir amaethyddol sy’n goleddu’n raddol.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae Coedwig Mynwar yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ardal hon, sy’n agos at y foryd ac yn cynnwys cyfuniad o ddŵr hallt a dŵr croyw, yn darparu cynefin amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt. O’r man gwylio uwchlaw’r foryd, cadwch olwg am adar y glannau tebyg i’r crëyr a glas y dorlan. Byddwch hefyd yn gweld adar y coetir, megis y gnocell fraith fwyaf a’r dringwr bach.

6. Dydd #6
Rhan 6 – Hwlffordd i Abergwaun

Hwlffordd

Hwlffordd yw tref sirol hynafol Sir Benfro. Prif nodweddion y dref yw Afon Cleddau Wen sy’n llifo trwy ei chanol a’r castell sy’n codi uwch ei phen. Mae’r castell wedi’i gadw’n arbennig o dda, a’r tu mewn fe ddewch o hyd i hen adran y carchar a’r cilborth. Mae archifdy’r sir ac amgueddfa y dref hefyd wedi’u lleoli y tu mewn i’r muriau, gan arddangos casgliadau o arteffactau lleol, sy’n cynnwys eitemau yn ymwneud â gorffennol y castell a gwaith artistiaid lleol.

 

Gan adael Hwlffordd, ewch ar yr A487 tuag at Dyddewi. Ar ôl naw milltir, byddwch yn cyrraedd Bae Sain Ffraid ar Draeth Niwgwl.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Mae Niwgwl yn lle da i adael y car ac archwilio rhan arall o Lwybr Arfordir Cymru. Cerddwch i’r de i gyfeiriad Nolton Haven a pharhewch trwy Druidston i bentref Aberllydan. Dyma ran hardd o’r arfordir yn cynnwys traethau croesawgar, pentrefi cysgodol, cildraethau cudd a phentiroedd creigiog. Cadwch olwg am Rickets Head, sef ffurfiant nerthol o greigiau.

 

Parhewch ar yr A487 am bedair milltir i harbwr a phentref Solfach sy’n ddarlun perffaith o le.

 

Solfach

Ar un adeg, roedd Solfach yn borthladd pysgota a masnachu bywiog a phan oedd ar ei anterth, rhwng tua 1750 a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn brysur gyda llongau masnachu, warysau a phoblogaeth o fwy na mil o bobl. Heddiw, mae’r llecyn bach dymunol hwn yn denu artistiaid a ffotograffwyr. Dyma le gwych i oedi a chrwydro o gwmpas y pentref, yr harbwr, a’r cwm gwyrddlas.

 

O Solfach, nid yw Tyddewi ond ychydig dros dair milltir i ffwrdd.

 

Tyddewi

Dyma ddinas leiaf Prydain a’r porth i rai o olygfeydd godidocaf y wlad. Mae Tyddewi yn lle braf yn llawn orielau, siopau diddorol, a lleoedd dymunol i fwyta ac yfed. Ond yr uchafbwynt yw’r eglwys gadeiriol o’r 12fed ganrif a godwyd ar safle adeiladau crefyddol llawer hŷn na hynny. Mae’n un o safleoedd crefyddol mwyaf eiconig Cymru ac mae’n sefyll mewn dyffryn cysgodol gerllaw Afon Alun. Gallwch ddysgu am hanes Dewi Sant yma neu ymhyfrydu yn yr heddwch.

 

A oeddech chi’n gwybod?

Geiriau olaf Dewi Sant oedd ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’ Mae ‘Gwnewch y pethau bychain’ yn dal i fod yn ddihareb adnabyddus yng Nghymru.

 

Ffordd Amgen: Ynysoedd Sir Benfro

Mae Tyddewi yn lle da i ddal cwch ac archwilio’r ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro. Dysgwch am hanes, daeareg a bywyd gwyllt yr ynysoedd rhyfeddol hyn. Mwynhewch y profiad o weld palod, palod Manaw, huganod, morloi a llawer mwy o bellter diogel.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Mae Iwerddon a Chymru wedi’u cysylltu gan y môr, y straeon a’r seintiau. Tyddewi yw’r gyrchfan olaf ar Lwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro. Mae’r llwybr yn dilyn ôl troed Sant Aeddan o Iwerddon a Dewi Sant o Gymru. Mae’n cysylltu Tyddewi ag Enniscorthy yn County Wexford. Rhowch gynnig ar ran fach o’r llwybr o Dyddewi i’r harbwr ym Mhorthclais. Ar hyd y ffordd, fe ddewch o hyd i Gapel y Santes Non, sef man geni traddodiadol Dewi Sant. Mae’r llecyn hwn yn safle hynod o ysbrydol ac atgofus. Mae yna wir ymdeimlad o gysylltiad wrth i chi ddilyn yn ôl troed pererinion dirifedi at y ffynnon sanctaidd a’r capel. Mae Porthclais yn harbwr hanesyddol y credir iddo gael ei adeiladu’n wreiddiol gan y Rhufeiniaid. Cyfeiriwyd at yr harbwr hefyd yn y Mabinogion.

 

Gadewch Dyddewi ar yr A487 a gyrrwch bum milltir i gyfeiriad Abereiddi.

 

Abereiddi a’r Morlyn Glas

Mae pentrefan Abereiddi yn swatio mewn bae cysgodol. Mae’r traeth hwn yn enwog am ei dywod du, sy’n llawn o ffosiliau mân. Mae gan nifer o wledydd Forlyn Glas, gan gynnwys Cymru. Ond morlyn gwyrdd yw ein Morlyn Glas ni mewn gwirionedd! Gallwch gerdded yma o Abereiddi. Hen chwarel lechi yw’r safle, sy’n esbonio pam y mae’n sgleinio’n wyrdd. Heddiw, mae’n hafan i bobl sy’n frwdfrydig dros chwaraeon dŵr. Wedi’i leoli yn harddwch Porth Mawr, dyma le i eistedd, rhyfeddu a theimlo’n agos at yr Ysbryd Celtaidd.

 

O Abereiddi, anelwch at ran olaf Llwybrau Celtaidd Cymru gan ddychwelyd i Abergwaun.

 

Ffyrdd Amgen

Mae’r rhan hon o arfordir Sir Benfro yn llawn traethau, cildraethau a harbyrau bach, ac mae pob un ohonynt yn lleoedd cofiadwy i ymweld â hwy. Cadwch olwg am arwyddion ar gyfer Porthgain, Tre-fin, Abercastell a goleudy Pen-caer.

Diwedd
Teithlen

Llwybrau’r Arwyr Iwerddon

Rosslare - Waterford - Dungarvan - Enniscorthy - Wicklow - Rosslare

Dechrau
1. Dydd #1
Man Dechrau a Gorffen: Rhan 1 – Rosslare i Waterford

Europort Rosslare
Dyma eich porth i Ddwyrain Hynafol Iwerddon. Datblygwyd yr harbwr yn 1906 i hwyluso traffig fferi stêm rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon. Erbyn heddiw mae gan yr harbwr, a elwir yn Europort Rosslare, gysylltiadau uniongyrchol â Ffrainc a Sbaen, yn ogystal â Chymru.

 

Rhan 1 – Rosslare i Waterford
Gadewch Europort Rosslare ar yr N25. Yna, cymerwch yr R736 tua’r gorllewin i Waterford.

Ffordd amgen – Fferi Saltee
Rhwng mis Ebrill a mis Hydref, mae Fferi Saltee yn hwylio’n ddyddiol rhwng Kilmore Quay ac Ynysoedd Saltee. Rhaid archebu ar-lein ymlaen llaw. Yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus arfordir de Wexford, mae Ynysoedd Saltee yn gartref i amrywiaeth o adar y môr, yn fwyaf enwog y palod a’r huganod.

A oeddech chi’n gwybod?
Ynysoedd Saltee yw lleoliad llyfr yr awdur Gwyddelig, Eoin Colfer’s, sef ‘Airman’. Daeth yr ynysoedd yn wladwriaeth sofran bwerus yn seiliedig ar y diwydiant diemwnt. Byddwch yn trysori eich atgofion o’ch ymweliad ag Ynysoedd Saltee.

 

Ffordd amgen – Fethard a Phenrhyn Hook
Wedi’i ddisgrifio fel porthladd lleiaf Iwerddon, mae cei Fethard yn un o’r harbyrau hynaf ar arfordir dwyreiniol Iwerddon. Mae’r harbwr, a adeiladwyd yn 1741, yn ddim ond 30 metr o led a 60 metr o hyd, ac yn cynnwys cei a dau bier. Nid oedd bwriad erioed iddo fod yn harbwr ar gyfer cychod pysgota, ond fe’i adeiladwyd yn bwrpasol i roi cysgod i un llong yn unig – King’s Barge – llong fordaith refeniw a oedd yn gyfrifol am blismona gweithgarwch smyglo. Yma, gellwch eistedd ac ymlacio ar wal y doc a theimlo’n agosach at yr Ysbryd Celtaidd.


Mae Penrhyn Hook yn lle o dawelwch a harddwch. Mae’n enwog am ei olygfeydd gwych a’i dirweddau a’i forluniau godidog. Mae yna draethau bendigedig hefyd. Ar y cyfan, dyma’r Iwerddon heb ei gyffwrdd rydych wedi’i ddychmygu erioed.

Gwisgwch eich esgidiau cerdded
Mae gan y penrhyn lawer o lwybrau sy’n eich galluogi i grwydro. Mae’r dirwedd isel yn cynnig llwybrau hawdd ar hyd y darn hwn o’r arfordir sy’n llawn harddwch garw a safleoedd treftadaeth. Mae archwilio’r goleudy gweithredol hynaf yn y byd yn hanfodol. Mae Goleudy Hook yn Wexford, a enwyd yn un o hoff atyniadau Iwerddon mewn pleidlais, yn unigryw. Fe’i adeiladwyd yn bwrpasol 800 mlynedd yn ôl gan William Marshal – Iarll Cyntaf Penfro yng Nghymru. Camwch yn ôl mewn amser a mwynhau taith dywys gan fwynhau hanesion o’r oesoedd canol a bywyd fel ceidwad y goleudy. Pan fydd arnoch eisiau bwyd, rhowch gynnig ar un o’r tafarnau a’r bwytai bwyd môr niferus. O brofiadau bwyta Michelin i bistros arobryn, mae yna rywbeth at ddant pawb.

 

Gan ddychwelyd i’r R736, mae’n daith fer i Waterford. Byddwch yn croesi’r ffin o County Wexford i County Waterford. Byddwch hefyd yn symud o dalaith Leinster i dalaith Munster yn Iwerddon.

2. Dydd #2
Rhan 2 – Waterford i Dungarvan

Waterford
Mae Waterford yng nghanol Dwyrain Hynafol Iwerddon. Dyma ddinas hynaf Iwerddon ac mae’n drysorfa o arteffactau hynafol, pensaernïaeth ysblennydd a bwyd lleol gwych. Sefwch ar y ceiau yn ninas Waterford, anadlwch yr aer hallt a dychmygwch fwrlwm y llongau’n llwytho ac yn dadlwytho nwyddau yn yr 1700eg ganrif. Denodd masnach â Newfoundland fasnachwyr cefnog i ymsefydlu yma yn niwedd y 18fed ganrif, gan droi’r ddinas yn un o borthladdoedd mawr Iwerddon a rhoi hwb i’r twf adeiladu. Ewch am dro o gwmpas canol dinas Waterford ac fe welwch lu o adeiladau pensaernïol hardd sy’n dyddio o’r cyfnod hwn. Ond i gael y darlun llawn, bydd angen i chi dreiddio’n bellach yn ôl – i gyfnod sefydlu’r ardal gan y Llychlynwyr yn 914. Maent wedi helpu i lunio hanes Iwerddon. Saif Triongl Llychlynwyr Waterford, sy’n rhan o ardal treftadaeth y ddinas, ar seiliau anheddiad cyntaf y Llychlynwyr. Credir bod ‘1,000 o flynyddoedd o hanes o fewn 1,000 o gamau’, gyda thair amgueddfa yn arddangos hanes y Llychlynwyr, yr Oesoedd Canol a chyfnod Sioraidd y ddinas. 

A oeddech chi’n gwybod?
Y cynnwys plwm uchel, 33-1/3 y cant, sy’n rhoi’r gloywder a’r disgleirdeb y mae Crisial
Waterford yn enwog amdano. Gellwch ddarganfod rhagor yn House of Waterford. Archebwch daith ac ewch i weld y crefftwyr wrth eu gwaith.

 

Gadewch Waterford ar yr R675 ar gyfer rhan nesaf eich taith i Dungarvan.


Ffordd amgen – Dunmore East
Gadewch Waterford ar yr R683 a’r R684 ac ewch i gyfeiriad Dunmore East. Mae Dunmore East, sy’n enwog am ei leoliad ar yr harbwr, yn gyrchfan boblogaidd, a hynny ymhlith iotiau sy’n ymweld yn yr haf. Mae hefyd yn lleoliad lle gellwch fynd ar deithiau cwch o gwmpas moryd Waterford. Mwynhewch y ddyfrffordd wych hon wrth gael eich cyflwyno i hanes, treftadaeth a llên gwerin gyfoethog yr ardal, yn ogystal â hanesion am longddrylliadau, môr-ladron a chwedlau lleol, ac efallai dolffin neu ddau hefyd.

 

Copper Coast
Wrth i chi gyrraedd Tramore, byddwch yn cychwyn ar ‘Dungarvan & The Copper Coast Drive’. Mae’n cynnwys morluniau, clogwyni, baeau a childraethau panoramig rhwng Tramore a Dungarvan. Byddwch yn dod o hyd i bentrefi glan môr cartrefol a thraethau’r Faner Las. Mae gan yr ardal gyfoeth o harddwch, sydd eto heb ei ddarganfod, ynghyd â childraethau a thraethau cudd. Mae gan bob un stori i’w hadrodd. Cymerodd fwy na 460 miliwn o flynyddoedd i greu’r Copper Coast, felly cymerwch eich amser i ymweld â’r ardal a’i harchwilio.

Daw enw’r Copper Coast o’r mwyngloddiau helaeth a oedd ar waith yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded
Mae’r Copper Coast bellach yn Geoparc UNESCO Fyd-eang. Mae’n cynnig cipolwg unigryw a hynod o ddiddorol ar y modd yr oedd bodau dynol yn cysylltu â thirweddau, a hynny o gyfnodau hynafol hyd at heddiw. Mae’n llawn llwybrau cerdded hyfryd at ddant pawb. Gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yng Nghanolfan Geoparc y Copper Coast. Un o’r llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd yw Llwybr Treftadaeth Annestown. Gellwch gerdded i gastell Dunhill o draeth Annestown trwy ddilyn y llwybr hwn. Mae’r castell yn un o’r mannau aros ar y daith sy’n eich tywys trwy’r pentref ac ar hyd dyffryn hardd Anne. Mae hon yn daith gylchol, sy’n cymryd tua 90 munud i’w chwblhau.

Parhewch ar hyd yr R675 hyd nes y byddwch yn cyrraedd tref Dungarvan.

3. Dydd #3
Rhan 3 – Dungarvan i Enniscorthy

Dungarvan
Mae Dungarvan yn dref harbwr wedi’i lleoli yng nghanol County Waterford. Mae enw Gwyddeleg y dref yn golygu ‘caer Garbhann’, sy’n cyfeirio at Sant Garbhann a sefydlodd eglwys yno yn y seithfed ganrif. Mae Dungarvan wedi’i leoli wrth aber afon Colligan. Saif Castell Dungarvan uwchlaw mynediad yr harbwr. Mae’n dyddio o ddyddiau cynnar yr anheddiad Eingl-Normanaidd yn Iwerddon. Fe’i adeiladwyd tua 1209 i ddiogelu’r mynediad i Harbwr Dungarvan. Dungarvan yw hen dref sirol County Waterford.


Gwisgwch eich esgidiau cerdded
Dungarvan yw dechrau’r Waterford Greenway. Mae’r hen rhwng rheilffordd Waterford City a Dungarvan wedi cael ei thrawsnewid yn llwybr beicio a cherdded 46km o hyd oddi ar y ffordd. Bydd y llwybr hwn yn eich tywys ar hyd 11 pont, tair traphont a thrwy dwnel 400 metr o hyd. Mae yna ddigon o bethau i’w gwneud a’u gweld ar hyd y daith hefyd.

Bydd rhan nesaf y daith yn mynd â chi i’r gogledd ar yr N25 i Fynyddoedd Comeragh.

 

Ffordd amgen – Ardmore a St Declans Way
Cyn mynd i’r gogledd, gellwch gymryd yr N25 i’r de tua Ardmore. Daeth Sant Declan o hyd i’r pentref yn y pumed ganrif – er iddo gael ei dywys yno gan garreg ar y tonnau yn hytrach na gan fap neu sat-nav. Yma, sefydlodd fynachlog. Erbyn heddiw, adfeilion y fynachlog honno yw anheddiad Cristnogol hynaf Iwerddon.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded.
Mae Llwybr Clogwyni Ardmore yn llawn golygfeydd godidog a threftadaeth ddiddorol. Mae’r llwybrau a’r lonydd ar hyd y clogwyni yn cynnig golygfeydd dramatig i chi, ynghyd ag holl awyr iach y môr y gallech fyth ddymuno amdano. Mae’r llwybr yn eich tywys at adfeilion Eglwys Sant Declan (o bosibl y safle yr enciliodd Sant Declan iddo fel meudwy erbyn diwedd ei oes). Yn agos at yr eglwys, gellwch hefyd weld ffynnon Sant Declan, gyda’r croesau diddorol ar ei phen o gyfnod diweddar yr oesoedd canol.


Wrth i chi anelu i’r gogledd-ddwyrain ar hyd yr N25, trowch yn Lemybrien ac ewch i gyfeiriad Mahon Falls ym Mynyddoedd Comeragh. Dim ond taith fer mewn cerbyd yw’r rhaeadrau o Lemybrien.

 

Mahon Falls a Mynyddoedd Comeragh

Gwisgwch eich esgidiau cerdded


Mae rhaeadr 80m o uchder yn disgleirio yn y pellter lle byddwch yn dechrau’r daith gerdded bleserus hon i droed Mahon Falls ym Mynyddoedd Comeragh. Mae’n daith gerdded bleserus i’r teulu cyfan, sy’n cynnig awyr iach y mynydd, golygfeydd godidog a llwybr treuliedig sy’n hawdd ei ddilyn. Mae’r rhaeadr yn disgyn o’r pwynt uchaf ym Mynyddoedd Comeragh. Mae’r gadwyn hon o fynyddoedd yn cynnwys 12 copa amlwg, ac mae yna amrywiaeth o lwybrau heicio a fydd yn eich arwain at gasgliad hyfryd o ddyffrynnoedd/lynnoedd o’r oes iâ.

Yn agos at Mahon Falls mae’r ffordd hud chwedlonol, sef ‘Magic Road’, lle gellwch stopio’r car a’i roi yn niwtral cyn cael eich syfrdanu wrth i’r car rolio i fyny’r rhiw.

Ewch i’r de-ddwyrain o Mahon Falls a dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad yr N25. Gyrrwch i’r gorllewin ar yr N25 am tua 20km.

A oeddech chi’n gwybod?
Mae’r gair Gwyddeleg “
cum” yn debyg iawn i’r gair Cymraeg “cwm”. Mae’r ddau yn golygu glyn neu ddyffryn. Dyma un enghraifft yn unig o’r cysylltiadau rhwng y ddwy iaith Geltaidd hyn.

 

Mount Congreve
Mae Mount Congreve yn blasty Sioraidd gyda gerddi o’r 18fed ganrif, ac mae wedi’i leoli ger pentref Kilmeaden yn County Waterford. Arferai’r gerddi gwreiddiol yn Mount Congreve gynnwys gardd deras syml gyda choetir yn llawn coed bytholwyrdd a chastanwydd pêr ar y llethrau a oedd yn ymestyn i lawr at yr afon. Dechreuodd Ambrose Congreve blannu rhai o’r rhain yn ei arddegau hwyr, a roddodd gychwyn ar y broses a arweiniodd Mount Congreve at gael ei adnabod fel un o’r ‘Gerddi Gorau yn y Byd’. Mae’r casgliad cyfan yn cynnwys mwy na 3,000 o goed a llwyni gwahanol. Nid yw geiriau’n ddigon i fynegi’r harddwch rhyfeddol y byddwch yn ei brofi yn un o erddi gorau’r byd.

Pan fyddwch yn gadael Mount Congreve, ewch ar yr N25 a’r N30 i dref Enniscorthy, sef cyrchfan olaf y rhan hon o’r daith.

4. Dydd #4
Rhan 4 – Enniscorthy i Wicklow

Enniscorthy
Saif Enniscorthy ar lannau afon droellog Slaney yn County Wexford. Mae’r dref yn gartref i Eglwys Gadeiriol Sant Aeddan. Fe’i adeiladwyd yn y 13eg ganrif, a chredir ers tro fod dyluniad yr adeilad yn seiliedig ar Abaty Tyndryn yng Nghymru. Yng nghanol y dref mae Castell Enniscorthy Castle – a fu’n gartref, ar adegau, i farchogion Normanaidd, ieirll Seisnig a theuluoedd masnachwyr lleol. Mae hefyd yn llawn hanes cythryblus. Byddai perchnogaeth o’r castell yn aml yn cael ei ddatrys trwy drais. Fe’i hawliwyd gan y Gwyddelod yn 1375, cyn iddo gael ei gymryd drachefn gan y Saeson yn 1536, ei losgi gan y Gwyddelod yn 1569, ei roi’n rhodd gan y Frenhines Elizabeth yn 1589, ei roi dan warchae gan luoedd Orwellian yn 1649, ac yna ei ddefnyddio fel carchar yn ystod Gwrthryfel 1798. Erbyn heddiw mae’n gartref i Amgueddfa County Wexford. Gellwch gyfuno eich profiad o’r castell ag ymweliad â safleoedd partner, tebyg i Vinegar Hill a chanolfan genedlaethol 1798 i gael darlun llawn o hanes y dref.


Gwisgwch eich esgidiau cerdded
Mae’r daith gerdded ger afon Enniscorthy (Enniscorthy Riverside Walk) yn un brydferth dros ben ar hyd glannau gorllewinol afon Slaney. Mae’r llwybr yn dechrau ar hyd y promenâd yn rhan ddeheuol y dref, yn mynd heibio maes chwarae, yn croesi pont droed ger afon Urrin ac yn dilyn llwybr graean trwy ddôl rannol wyllt sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig helaeth. Mae’r afon a’r ddôl yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig afon Slaney, sy’n cynnwys prysgwydd trwchus a glaswellt wedi’i ddominyddu â haenau o berlysiau. Mae’r afon a’r ddôl hefyd yn rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Harbwr Wexford a Slobs ar gyfer adar, a dim ond sŵn peraidd yr adar a’r bywyd gwyllt fydd yn tarfu ar lonyddwch y daith gerdded hon.

 

Gadewch Enniscorthy ar yr N11 ar gyfer y daith fer i Ferns.

Ferns
Ferns yw Prifddinas Hynafol Leinster. Saif ar fryn glas yn edrych dros afon Bann yng ngogledd Wexford ac mae’n ardal arbennig. Mae’n arbennig am fod y pentref bach hwn wedi cael dylanwad mawr ar y genedl. Yma, mae’r llinynnau niferus o straeon hynafol sy’n llunio Iwerddon fodern yn dod ynghyd. Gellwch glywed hanesion am briodasau ac ysbeilwyr. Dysgwch am fywydau’r mynachod a’r brenhinwyr. Ewch ati i olrhain camau’r Seintiau, y Celtiaid, y Llychlynwyr a’r Normaniaid. Darganfyddwch straeon trwy dapestri neu realiti rhithwir. O fewn pellter byr, byddwch yn darganfod cenedlaethau o hanes. Ewch i weld Eglwys Gadeiriol Sant Edan, Ffynnon Mogues a Chastell Ferns. Ferns hefyd yw man cychwyn Ffordd Pererindod Wexford-Sir Benfro sy’n cysylltu tref fechan ond bwerus Ferns â dinas leiaf Prydain, sef Tyddewi yng Nghymru.

Gadewch Enniscorthy ac ewch i gyfeiriad Carnew ar yr R745. O’r fan hon, bydd y llwybr yn eich arwain ar yr R748 a’r R747 trwy bentrefi gwledig Wicklow, gan groesi’r ffin yn ôl ac ymlaen â Wexford. Dilynwch yr R747 i’r gyffordd â’r N81. Ar yr N81, ewch i’r gogledd a byddwch yn gweld Mynyddoedd Wicklow yn codi yn y pellter.

 

Ffordd amgen – Pipers Stone
Gadewch yr N11 ger Arthgreany. Mae’r ‘Pipers Stone’ yn gylch cerrig o’r Oes Efydd sy’n sefyll ar fryncyn ger Athgreany. Mae’r cylch yn cynnwys 16 o feini gwenithfaen, ac mae yna un garreg fwy o faint ar y cyrion – sef y pibydd (piper) – gyda’r cerrig llai sy’n weddill yn ffurfio cylch o tua 22 metr mewn diamedr. Dyma’r dawnswyr. Yn ôl y chwedl leol, mentrodd y grŵp hwn o ddawnswyr ddawnsio i diwn y pibydd ar y Saboth pan gawsant eu troi’n gerrig gan Dduw fel cosb.


Parhewch ar yr N11 i gyfeiriad Llynnoedd Blessington.

Llynnoedd Blessington
Mae Llynnoedd Blessington, sydd wedi’u lleoli wrth droed Mynyddoedd Wicklow, yn gronfa 5,000 o erwau a ffurfiwyd yn yr 1940au wrth adeiladu argae a gorsaf bŵer hydrodrydanol Poulaphouca. Yn ogystal â bod yn brif ffynhonnell dŵr yfed Dulyn, mae’n fan poblogaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr, megis pysgota, hwylio a chaiacio. Bydd y llwybr yn eich tywys ar daith 26km o gwmpas y cwm lle arferai afon y Kings River gwrdd ag afon Liffey.

A oeddech chi’n gwybod?
Disgrifiodd y nofelydd a’r awdur Gwyddelig,
Brendan Behan, ei daith i Lynnoedd Blessington fel ‘taith at goron Wicklow’.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded 
Mae llwybr cerdded Blessington Greenway yn cysylltu tref hynafol Blessington â phlasty Palladian yn Russborough House. Mae’r llwybr yn dechrau yn Blessington ac yn mynd i’r de ar hyd glannau Llynnoedd Blessington a thrwy fforest a choetir naturiol. Mae’r Greenway yn dechrau yn rhan ddeheuol y dref ac yn arwain ymlaen ar hyd y glannau, yn croesi cylch-gaer hynafol o’r oesoedd canol, yn defnyddio’r llwybr cerdded ar hyd yr N81 cyn dychwelyd yn ôl i’r fforest ar lôn Burgage Moyle. Mae wedyn yn croesi ffordd Valleymount (R758) ac yn anelu at Russellstown Bay sydd gerllaw Russborough House. Ar hyd y daith, bydd cyfle i chi werthfawrogi golygfeydd godidog a bywyd gwyllt yr ardal.

O Lynnoedd Blessington, cymerwch yr R758. Ar ôl gyrru am gyfnod byr, trowch i’r chwith ar yr R756. Byddwch nawr yn anelu at Barc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow, sy’n hynod o hardd, a’ch cyrchfan nesaf fydd Glendalough.

Glendalough
Wedi’i gerfio gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, mae Glendalough neu Gleann dá Loch, sy’n golygu ‘Dyffryn y Ddau Lyn’, yn cyfuno harddwch naturiol eithriadol â llonyddwch nefolaidd. Nid oes rhyfedd i Sant Kevin sefydlu anheddiad mynachaidd yma yn y chweched ganrif. Dywedir iddo dreulio saith mlynedd ar ei ben ei hun mewn ogof ger y llyn uchaf (Upper Lake), sy’n cael ei hadnabod fel Gwely Sant Kevin. Ond er mai dyma un o dlysau twristiaeth coron Dwyrain Hynafol Iwerddon, ac yn wir Iwerddon ei hun, ni fydd angen i chi grwydro ymhell i ddod o hyd i’r heddwch a’r profiad ysbrydol a ddenodd y mynachod yma ganrifoedd yn ôl.

 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded 
Mae Glendalough yng nghanol Ffordd Wicklow (Wicklow Way). Mae’r llwybr hwn yn gorffen ychydig i’r de o Ddulyn, ac er ei fod yn agos at y brifddinas, mae’n cynnwys llawer o gilometrau o lwybrau mynyddig rhyfeddol a digyffwrdd, a Ffordd Wicklow yw’r mwyaf adnabyddus ohonynt. Mae Glendalough yn fan da i archwilio rhannau o Ffordd Wicklow. Ar gyfer cerddwyr profiadol, byddem yn awgrymu llwybr cerdded Spinc a Glenealo Valley, a elwir hefyd yn iWhite Route’. Ar ôl dringfa heriol, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd godidog o ddyffryn Glendalough ac ucheldir Wicklow. Byddwch yn mynd heibio rhaeadr Poulanass cyn ymuno â llwybr a grisiau pren a fydd yn eich arwain at olygfan sy’n edrych dros y llyn uchaf (Upper Lake). Mae’r llwybr yn amlinellu copa’r clogwyni cyn disgyn i lawr i bentref diffaith y glowyr ac yn dychwelyd ar hyd glannau’r llyn uchaf.

O Glendalough dilynwch yr R763 i Wicklow.

A oeddech chi’n gwybod?
Mynyddoedd
Wicklow oedd lleoliad y gyfres deledu boblogaidd ‘Vikings’ ar yr History Channel a Netflix. Adeiladwyd y pentref Llychlynnaidd dychmygol, Kattegat, ar lannau Lough Tay.

5. Dydd #5
Rhan 5 – Wicklow i Rosslare

Wicklow
Tref Wicklow yw prifddinas County Wicklow. Yn ôl hanes lleol, sefydlwyd y dref tua 795 OC gan y Llychlynwyr. Saif adfeilion Black Castle, sy’n edrych i lawr ar yr harbwr, yno i’ch atgoffa o oresgyniad y Normaniaid. Yn aml, bydd ymwelwyr yn cael eu denu at yr harbwr dymunol. Mwynhewch y cyfle i grwydro ar hyd un o’r pierau neu mentrwch ymhellach ar hyd y Murrough, gwlyptir arfordirol, sy’n boblogaidd iawn ymhlith cerddwyr a phobl sy’n hoff o fyd natur, lle gellwch fwynhau golygfeydd hardd o’r dref a’r arfordir. Mae carchar Wicklow yn un o’r adeiladau mwyaf eiconig a chythryblus yn Iwerddon. Mae’n arddangos yr amodau caled a ddioddefodd donnau gwahanol o garcharorion rhwng y 17eg ganrif a 1924, pan adawodd y carcharor olaf. Gellwch ddysgu am Wrthryfel 1798 yn Iwerddon, y Newyn Mawr a’r alltudiaeth i Awstralia, lle anfonwyd nifer o’r carcharorion. 


Ffordd amgen – Bray
Bydd rhan nesaf Llwybrau Celtaidd Iwerddon yn eich tywys i’r de. Ond mae mynd allan o’ch ffordd a dilyn y ffordd tua’r gogledd i dref arfordirol Bray yn opsiwn da. Dyma eich cyfle i deithio ar drên – mae’n daith fer hardd iawn 26km o hyd o Wicklow.

 

Bray
Tref Bray, sydd wedi’i chynnwys ymhlith y 14 cyrchfan teithio sydd wedi’u tanbrisio fwyaf yn y byd yn rhifyn mis Mawrth 2023 o TimeOut Magazine, yw tref fwyaf County Wicklow. Mae’n adnabyddus fel y porth i Wicklow o Ddulyn, a dyma dref glan môr hynaf Iwerddon. Mae yno draeth diogel o dywod a cherigos i chi gerdded arno, ynghyd â rhodfa lan môr eang. Mae Bray Head yn dwyn lle blaenllaw yn yr olygfa.

Gwisgwch eich esgidiau cerdded – Llwybr y Clogwyni
Mae Llwybr y Clogwyni, ar ochr ddwyreiniol Bray Head, yn dilyn traciau’r rheilffordd. Er gwaethaf rhai tirlithriadau, mae’n dal yn ddiogel i chi gerdded cyn belled â grisiau Windgates. Mae llwybr y clogwyni yn rhedeg yn agos at y rheilffordd. Adeiladodd gweithwyr y rheilffordd y llwybr i gludo offer a nwyddau i’r lein islaw. Yn rhan o’r fargen, fe wnaethant hefyd greu un o lwybrau clogwyni harddaf arfordir y dwyrain. Fel arall, dilynwch y llwybr o Bray i ben uchaf Bray Head i gael golygfeydd panoramig o Bray, gogledd-ddwyrain Wicklow a Bae Dulyn, yn ogystal â’r mynyddoedd gerllaw, sef Great a Little Sugar Loaf.  

A oeddech chi’n gwybod?
Dewisodd y gantores
Sinaed O’Connor fyw yn Bray am 15 mlynedd. Yn 2023, daeth sêr megis Bono o U2 a Bob Geldof i’w hangladd yn y dref, ac roedd y strydoedd yn llawn galarwyr a oedd yno i dalu teyrnged iddi.

 

O Wicklow, cymerwch yr L1102 a’r R750 i Brittas Bay.


Brittas Bay

Credir mai traeth Three Mile Water yn Brittas Bay oedd man glanio cyntaf Sant Padrig yn Iwerddon. Heb unrhyw bentiroedd i darfu ar rythm ysgafn y tonnau’n torri yn erbyn y tywod, mae’r traeth pum cilometr o hyd hwn yn berffaith ar gyfer nofio, hwylio a cherdded. Ac eithrio yn yr haf, y traeth hwn ar y cyfan yw’r lle delfrydol ar gyfer unigedd a myfyrdod mynachaidd. Treuliwch amser i deimlo’n agosach at yr Ysbryd Celtaidd.
Dilynwch ffordd arfordirol yr R750 tuag at dref Arklow.

Ffordd amgen – Avoca
Fel arall, gellwch ddilyn yr R773 i’r mewndir i gyfeiriad Avoca. Mae’r pentref hynod hwn yn gartref i felin weithredol hynaf Iwerddon, a dyma fan geni gwehyddion llaw Avoca. Yn ei gerdd enwog, ‘The Meeting of the Waters’, disgrifiodd Thomas Moore ddyffryn Avoca fel a ganlyn: “There is not in the wide world a valley so sweet, as that vale in whose bosom the bright waters meet”. Ar ddiwrnod clir o garreg Motte sydd gerllaw, gellwch weld y pum sir ffiniol, yn ogystal â Chymru. Yn ôl y chwedl, fe’i defnyddiwyd fel pêl hyrddio gan Fionn Mac Cumhaill, sef heliwr-rhyfelwr chwedlonol mwyaf Iwerddon. Yn ôl llên gwerin, dywedir bod y Motte yn rholio i lawr i gwrdd â’r dŵr bob Calan Mai. Dilynwch ei lwybr i lawr i’r man cwrdd i bori yn yr Oriel Grefftau a mwynhau paned haeddiannol.

A oeddech chi’n gwybod?
Avoca yw lleoliad ffilmio drama deledu’r BBC, sef Ballykissangel. 

 

Arklow
Arklow oedd un o borthladdoedd prysuraf Iwerddon a chanolfan enwog ar gyfer adeiladu cychod a physgota môr, ac mae gan y dref draddodiad gwych yn y diwydiant crochenwaith. Mae cymeriad y pentref pysgota dal yn amlwg mewn ardal a elwir yn “The Fisheries”, ac mae gan y porthladd fflyd sylweddol o gychod pysgota o hyd. Treuliwch amser i ymweld ag Amgueddfa Forwrol Arklow lle cewch eich amgylchynu gan genedlaethau o bethau cofiadwy, arteffactau, straeon a chofnodion llygad-dystion, yn ogystal â llyfrgell hanesyddol sydd wedi’i stocio’n dda.


Wrth adael Arklow, cymerwch yr M11 i’r de, gan groesi ffin Wicklow/Wexford unwaith eto. Trowch i ffwrdd ger Gorey a chymerwch yr R742 tuag at Courtown.

Gwisgwch eich esgidiau cerdded – Courtown
Mae’r goedwig 60 erw yn Courtown yn lle cysgodol i gymryd seibiant o’r traeth gerllaw. Mae coetir Courtown, sydd wedi’i leoli rhwng Afon Owenavorragh ar yr ochr ogleddol a’r gamlas ar ochr y môr i’r dwyrain, yn dyddio’n ôl i gyfnod cyn y Newyn, ac roedd unwaith yn gartref i goed derw ac ynn. Gellwch ddewis o blith pedwar llwybr hawdd trwy rannau gwahanol o’r goedwig.

 

Parhewch ar yr R742 ar hyd arfordir Wexford. Ar hyd y daith fe welwch draethau, cildraethau a phentrefi a fydd yn eich annog i adael y car a mynd i’w harchwilio.

 

Curracloe
Efallai mai traeth Curracloe yw’r traeth mwyaf trawiadol. Mae’r traeth hwn, sydd wedi ennill gwobr y Faner Las, yn ymestyn 11km o Raven Point i Ballyconigar, a hynny ger Blackwater. Mae’n enwog am ei dywod meddal, ei dwyni gwasgarog a’i garthen ddiddiwedd o foresg, a’r cyfan yn denu bywyd gwyllt ac ymwelwyr sydd wrth eu boddau yn ymgolli ynddynt.

A oeddech chi’n gwybod?
Roedd traeth Curracloe yn eilydd addas ar gyfer traeth Omaha yn Normandi yn ystod golygfeydd agoriadol dramatig ‘Saving Private Ryan’.

Parhewch ar yr R742 i Wexford.

 

Wexford
Mae tref arfordirol ddiwylliannol Wexford yn dyddio’n ôl i gyfnod y Llychlynwyr. Yn gartref i safleoedd hanesyddol a’r Tŷ Opera Cenedlaethol, mae yna ddigon i’w ddarganfod yn y gymuned hon, a fu unwaith â muriau o’i chwmpas. Fe welwch hefyd dafarnau yn llawn cymeriad a bwytai o’r radd flaenaf. Mae yna lawer o siopau annibynnol ar hyd y strydoedd bychain, cul. Mae Main Street yn rhedeg yn gyfochrog â’r harbwr, a gall fod yn lle bywiog iawn, yn enwedig gyda’r nos wrth i’r tafarnau lenwi. Mae yna ddigon o’r rhain i’w cael yn Wexford – hyd yn oed yn ôl safonau Iwerddon. Mae tŵr treftadaeth West Gate yn dollborth o’r 13eg ganrif a adferwyd. Mae wedi’i leoli gerllaw hen furiau’r dref ac adfeilion Abaty Selskar o’r 12fed ganrif. Mae gan farchnad y Bullring, a fu unwaith yn safle baetio teirw, gerflun i nodi Gwrthryfel 1798 yn erbyn rheolaeth Prydain.

O Wexford, mae’n daith fer ar hyd yr N25 a’r R740 i Europort Rosslare ac i ddiwedd y daith.

Diwedd