O lamhidyddion i balod, morloi i bibyddion y dorlan, morfilod i adar gwyllt, mae gan y Llwybrau Celtaidd gyfoeth o fywyd gwyllt, diolch i'r tirweddau sydd heb eu difetha a'r dyfroedd clir fel grisial. Dyma gipolwg ar y bioamrywiaeth gyfoethog y gallech ddisgwyl dod ar ei thraws ar eich teithiau…
Mae Bae Ceredigion yn enwog am ei ddolffiniaid trwynbwl, gyda phoblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y tiroedd bwydo toreithiog, y cynefin tawel a'r dyfroedd glân. Mae'n bosibl gweld dolffiniaid trwynbwl drwy gydol y flwyddyn, ond mae eich rhagolygon ar eu gorau yn yr haf pan fydd digon o fecryll yn y dyfroedd i'r dolffiniaid eu bwyta. Yn ystod y misoedd hyn mae Ceinewydd yn fan canolog i wylio dolffiniaid, ac mae siawns dda y byddwch yn eu gweld o wal yr harbwr.
Gallwch gynyddu'ch siawns o'u gweld ymhellach drwy fynd ar daith cwch siarter allan i Fae Ceredigion. Mae'n gyfle gwych i weld cytrefi o adar môr hefyd. Mae dolffiniaid trwynbwl yn hynod o ddeallus ac yn gymdeithasol iawn a byddant yn aml yn neidio wrth ymyl cychod ac yn nofio ar y don flaen – sy'n golygu bod sylwi arnynt o agos yn llawer o hwyl. Cyn i chi gychwyn, beth am alw heibio yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion – mae'n rhad ac am ddim – lle gallwch ddysgu sut i adnabod dolffiniaid a'r anifeiliaid mawr eraill sydd i'w gweld ym Mae Ceredigion - llamhidyddion yr harbwr a morloi llwyd yr Iwerydd.
Mae gan Sir Benfro saith ynys i gyd: Ynys Bŷr, Gwales, Middleholm, Ynys Dewi, Sgogwm, Sgomer ac Ynys y Santes Farged. Credir bod pobl yn byw ar bob un ohonynt yn y cyfnod cynhanesyddol ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu ffermio ymhell i'r 20fed ganrif. Fodd bynnag, nid oes neb yn byw arnynt bellach heblaw am Ynys Bŷr, er bod llawer ohonynt yn warchodfeydd natur gyda wardeiniaid yn bresennol. Sgomer, Ynys Dewi ac Ynys Bŷr yw'r ynysoedd mwyaf hygyrch, gyda theithiau cwch dyddiol o'r tir mawr rhwng y Pasg a mis Hydref, ond gellir gweld y lleill yn agos o gwch.
Caiff Ynys Sgomer, Sgogwm a Gwales eu grwpio gyda'i gilydd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd eu poblogaethau o balod, adar drycin Manaw a huganod.
Mae holl arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin yn hafan i adar mudol ac mae gan y sir lawer o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol gan gynnwys Cei Cydweli a'r Gwlyptiroedd yn y Bynea.
Saif Cei Cydweli ar lan ogleddol aber Afon Gwendraeth, heb fod nepell o Gastell Cydweli sydd mewn cyflwr da o hyd. Mae'r glannau tywodlyd a mwdlyd yn denu nifer fawr o adar gan gynnwys rhydwyr ac adar gwyllt. Canolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli yw'r unig ganolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir yng Nghymru, gyda 450 erw o olygfeydd hardd a nodweddion naturiol eithriadol sy'n creu hafan i fywyd gwyllt. Gallwch ddisgwyl gweld adar gwlyptir ac adar gwyllt gan gynnwys rhostog cynffonddu, gwyddau mudol, teloriaid, cornchwiglod, pibyddion y dorlan ac os ydych chi'n ffodus – yr hebog tramor a'r bod tinwen.
Yr Hydref yw'r adeg orau o'r flwyddyn i sylwi ar un o famaliaid mwyaf poblogaidd Sir Benfro, sef morlo llwyd yr Iwerydd. Nid yn unig dyma'r adeg o'r flwyddyn pryd y daw'r benywod i'r lan i roi genedigaeth, ond mae siawns dda iawn y byddwch yn cael gweld eu lloi bach gwyn blewog hefyd. Mae'r lloi fel arfer yn cyrraedd rhwng diwedd mis Awst a dechrau mis Tachwedd, gan ddechrau eu bywyd gyda ffwr gwyn meddal fel sidan. O fewn y mis cyntaf, bydd llo yn cynyddu ei bwysau geni deirgwaith diolch i laeth llawn braster y fam. Yna, mae'n diosg ei ffwr babi gwyn, gan dyfu yn ei le got oedolyn drwchus, dywyllach sy'n dal dŵr. Mae'r llo wedyn yn barod i fentro i'r tonnau a dysgu dal pysgod drosto'i hun.
Pen Cemaes, yng Ngogledd Sir Benfro, yw'r clogwyn môr uchaf yng Nghymru ac mae'n safle bridio pwysig, lle caiff llawer o loi eu geni. Y traeth caregog anhygyrch o dan y clogwyni yw lleoliad yr ymgynulliad mwyaf o forloi llwyd Iwerydd yn Sir Benfro, lle gall hyd at 200 o forloi a'u lloi fod ar y lan ar unrhyw adeg.
Wedi iddo gael ei erlid bron i ddifodiant yn y DU, dim ond yng Nghanolbarth Cymru y gellid dod o hyd i'r Barcud Coch ar un adeg. Ar ôl i'w niferoedd gynyddu'n aruthrol, nid yw hyn bellach yn wir. Mae rhaglenni ailgyflwyno'r Barcud Coch wedi'u cynnal ledled y DU, ac mae un o'r safleoedd diweddaraf hyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae ardal Ystradffin, gyda'i chymoedd cul a'i mynyddoedd uchel, yn cynnig un o'r cynefinoedd gorau ar gyfer yr aderyn ysglyfaethus godidog hwn.
Crwydrwch y llwybrau pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ardal 2,000 erw o wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol ger Tregaron. Mae'r warchodfa'n cynnwys tair cyforgors - ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd. Mae'n un o'r systemau cyforgors gorau ym Mhrydain. Mae'r gwelyau cyrs gwyllt, y glaswelltiroedd gwlyb, y coetir, yr afonydd, y nentydd a'r pyllau dŵr yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt a phaled lliwiau o goch, melyn a brown sy'n newid o hyd ac sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r bryniau gwyrdd cyfagos.
Mae'r traddodiad Celtaidd hynafol o fyw mewn cytgord â byd natur yn parhau yng Ngwarchodfa Adar Gwyllt Wexford. Sefydlwyd y warchodfa, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 yn 2019, fel noddfa yn y Gaeaf ar gyfer gwyddau talcenwyn yr Ynys Las. Wedi'i lleoli ar dir fferm gwastad a gafodd ei adennill o'r môr yn y 1840au, mae'n gorchuddio tua 200 hectar o Slob y Gogledd ac mae'n rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig ehangach Slobiau a Harbwr Wexford. Mae 40% o boblogaeth y byd o Wyddau Talcenwyn yr Ynys Las yn dod o hyd i gysgod a bwyd yma, ynghyd â miloedd o adar gwyllt, rhydwyr ac adar eraill. Yn wir, mae dros 250 o rywogaethau o adar wedi eu cofnodi yma.
Mae mis Tachwedd yn nodi dechrau'r tymor gwylio morfilod oddi ar Hook Head. Yn ôl yng ngaeaf 2010, roedd adroddiadau bod nifer o forfilod asgellog a morfilod cefngrwm wedi'u gweld oddi ar yr arfordir yn Hook Head. Mae'r morfilod wedi dychwelyd bob blwyddyn ers hynny, ac mae'r morfil cefngrwm bellach yn cael ei gysylltu'n arbennig â'r ardal. Mae'r balconi coch ar ben Goleudy Hook yn gwneud man gwylio delfrydol gydag ysbienddrych neu gallwch fynd ar daith siartredig mewn cwch i wylio'r morfilod.
Mae morfilod cefngrwm ymhlith yr anifeiliaid mwyaf ar y ddaear, gan dyfu hyd at 16 metr o hyd a phwyso hyd at 40 tunnell. Yn ddiweddar, mae arbenigwyr wedi dod o hyd i fagwrfa ar gyfer y morfilod cefngrwm ‘Gwyddelig’ yn ynysoedd Cape Verde. Mae hyn yn golygu eu bod yn teithio bron i 5,000km bob blwyddyn, trwy rai o lonydd cludo prysuraf y byd i gyrraedd y tiroedd bwydo cyfoethog hyn.
Mae Hook Head hefyd yn Ardal Warchodedig Arbennig i adar. Ceir yno geoamrywiaeth helaeth, clogwyni môr â llystyfiant a ffosiliau.
Mae Ardmore yn lleoliad ardderchog i wylio adar yng ngorllewin Swydd Waterford. Mae Bae Ardmore a'r clogwyni i'r gorllewin yn dda ar gyfer adar môr, gan gynnwys adar bridio ac adar alltraeth, a cheir cynefin ardderchog ar gyfer golfanod mudol yn Ardmore Head ac yn y pentref ei hun. I'r dwyrain, cyn belled â Mine Head a thu hwnt, ceir amrywiaeth o gymoedd arfordirol â digon o lystyfiant sy'n darparu cynefinoedd rhagorol i adar mudol. I'r gorllewin, mae aber Blackwater, gwlyptiroedd neu callows Blackwater a'u coetiroedd cyfagos yn cynnig llawer o gyfleoedd i wylio adar.
Ymhlith yr adar nodweddiadol y mae adar drycin y graig a gwylanod coesddu yn nythu yn Ram Head gerllaw; trochyddion a rhydwyr ym mae Ardmore; gellir gweld y coegylfinir yn y gwanwyn; gwenoliaid y bondo yn nythu yn y clogwyni; teloriaid mudol a'r dryw eurben.
Ymhlith y rhywogaethau mwy prin a welir y mae'r trochydd gyddf-ddu, yr hwyaden fwythblu, y pibydd llydandroed gyddfgoch, y fôr-wennol ddu, y durtur, y gopog, y corhedydd melyn, y tingoch du, y telor aur, y llwydfron fach, y telor aelfelyn, y dryw penfflamgoch, y gwybedog brith, a'r croesbig.
Fel ardal sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio copr, anfarwolwyd y dyffryn gan Thomas Moore yn y gân ‘The Meeting of the Waters’. Y dyfroedd dan sylw yw afonydd Avonmore ac Avonbeg, sy'n cwrdd tua 2 filltir o bentref Avoca. Mae hefyd yn nodi man cychwyn tro cerdded esmwyth ar hyd gwaelod y dyffryn. Yn ogystal â bod yn enwog am wehyddu â llaw, Avoca oedd pentref ffuglennol ‘Ballykissangel’ yn y gyfres o’r un enw a ddarlledwyd gan y BBC tua diwedd y 90au.
Bydd llwybr y Barcud Coch yn mynd â chi trwy goetir hyfryd a gallwch weld y pentref o lwybr y fforest sy'n edrych drosto, dilynwch yr arwyddion coch sy'n dangos y ffordd. Nid yn unig y bydd cerddwyr wrth eu bodd â'r llwybr 2.5km hwn, bydd adarwyr ar ben eu digon hefyd! Yn 2009, ail-gyflwynodd y Golden Eagle Trust set o farcudiaid coch i Fforest Kilmagig. Erbyn 2014 roedd 30 o barau bridio wedi ymgynefino o amgylch Llwybr y Barcud Coch, sy'n rhan o'r fforest.
Mae Swydd Wicklow yn adnabyddus am ei llwybrau cerdded ac mae'r llwybr arfordirol o Bray i Greystones ymhlith y gorau. Mae'r llwybr sy'n mynd am 7km ar hyd y clogwyni yn rhedeg yn agos i reilffordd Dulyn-Wexford, a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif. Adeiladwyd y llwybr gan weithwyr y rheilffordd er mwyn cludo offer a deunyddiau i'r lein islaw. Ar yr un pryd gwnaethant hefyd greu un o'r llwybrau clogwyn harddaf ar arfordir y dwyrain. Fel arall, ewch ar y llwybr o Bray i ben Bray Head, i gael golygfeydd panoramig o Bray, Gogledd-ddwyrain Wicklow a Bae Dulyn, yn ogystal â mynyddoedd cyfagos y Great a'r Little Sugar Loaf.
Ynghyd â'r golygfeydd trawiadol, mae'r clogwyni dramatig yn Bray Head yn gartref i amrywiaeth o adar gan gynnwys adar drycin y graig ac adar ysglyfaethus megis yr hebog tramor a'r cudyll coch.