Mae harddwch y Llwybrau Celtaidd wedi ysbrydoli cariad a rhamant am filoedd o flynyddoedd. Mae yna ddigon o fythau, chwedlau a straeon caru bywyd go iawn. Rhai yn hapus, llawer yn rhai trasig.
Mae mytholeg Cymru yn dysgu am gytser Gemini nid fel efeilliaid, ond fel dau frawd, Gwyn a Gwyrthyr.
Dywedir bod y brodyr yn brwydro dros serch Creiddylad hardd, sef duwies serch a blodau Cymru - sy'n aml yn cael ei darlunio yn gwisgo coch. Yn ystod y cyfnod Celtaidd byddai'r briodferch yn gwisgo coch ar ei diwrnod priodas fel arwydd o'i rhinwedd.
Syrthiodd Gwyrthyr mewn cariad â Creiddylad ac roeddent wedi addunedu i briodi. Fodd bynnag, aeth ei frawd cenfigennus a milain Gwyn a dwyn Creiddylad oddi wrtho, gan adael Gwyrthyr wedi torri ei galon.
Yn ei gynddaredd, galwodd Gwyrthyr fyddin i fynd i ennill ei wir gariad yn ôl. Bu brwydr fawr a gwaedlyd, ond ofer fu hi yn y diwedd. Gwyn oedd yn fuddugol o hyd.
Cymerwyd eu hymryson i gynrychioli'r ornest rhwng yr haf a'r gaeaf.
Mae chwedl Wyddelig yn adrodd hanes coblyn o'r enw Coll, sy'n dod ar draws tylwythen deg o'r enw Aine a oedd wedi ei thrawsnewid yn goblyn hardd.
Dywedir eu bod wedi siarad am oriau, nes i ymerodres y tylwyth teg drwg fwrw melltith ar Aine, gan ei throi'n bioden.
Plediodd Coll gyda brenhines y tylwyth teg da ac addawodd hithau y byddai'n dad-wneud y swyn pe bai Coll yn dod o hyd iddi ac yn cyffesu ei gariad. Cytunodd, ac adferwyd Aine i'w ffurf flaenorol.
Ym mynwent Abaty Ystrad Fflur, er ei fod unwaith yn destun dadl, mae bedd Dafydd ap Gwilym, bardd Cymraeg toreithiog o'r 14eg ganrif.
Cyfansoddodd Dafydd ap Gwilym farddoniaeth Gymraeg fywiog am serch a natur, gan ddefnyddio mydrau soffistigedig. Ystyrir ei fod yn un o feirdd mwyaf Cymru.
Ceir honiadau mai Gwyddel o Swydd Wexford, William Lamport, oedd y Zorro go iawn. Ganwyd ef yn y 1600au, a chafodd ei ddal mewn cythrwfl o sgandal a rhamant gothig.
Dywedir ei fod wedi hwylio i dir newydd lle newidiodd ei enw i Guillén Lombardo ac yng nghanol giamocs gwleidyddol, cwympodd mewn cariad ag aeres fwyaf cymwys Dinas Mecsico.
Ym 1872 ysgrifennodd cadfridog Mecsicanaidd wedi ymddeol stori ramant hanesyddol yn seiliedig ar arwr o'i enw Guillén Lombardo; roedd y naratif yn dilyn anturiaethau Lamport yn glos. Defnyddiodd yr awdur, a oedd yn perthyn i'r Seiri Rhyddion, y llythyren "Z" fel symbol o'r gwreichionyn dwyfol sydd mewn bod dynol.
Ym 1919 mae'n debyg bod newyddiadurwr Americanaidd o'r enw Johnston McCulley wedi ailysgrifennu'r stori, gan roi enw newydd i'r cymeriad, Diego de la Vega, a gaiff ei adnabod hefyd fel Zorro.
Mae Parc Dinefwr wedi bod yn lleoliad i sawl stori serch ond mae un hanesyn rhamantus rhwng dau o weision y plas wedi dod yn annwyl i lawer – stori Lily Kite, y cogydd, a Basil Taylor, ceidwad y stablau.
Roedd y cariadon yn peryglu eu bywoliaeth drwy ganlyn eu serch, oherwydd bryd hynny roedd cael perthynas ramantaidd gyda chyd-aelod o staff yn golygu cael eich diswyddo ar unwaith.
Ond mae serch yn drech na phopeth, a phriododd y pâr ifanc yn Eglwys Llandyfeisant ar ystâd Dinefwr ym 1911 cyn symud Abercraf lle cafodd Basil waith fel glöwr i gynnal ei deulu newydd.
Adroddodd wyrion Lily a Basil stori serch eu tad-cu a'u mam-gu ar ymweliad â Phlas Dinefwr ym Mharc Dinefwr.
Mae'r nofel ramantus a'r ffilm a elwir yn llythyr caru i Iwerddon - 'PS, I Love You', yn ffefryn gan lawer.
Mae'n cynnwys rhai o'r lleoliadau mwyaf trawiadol ar arfordir y dwyrain gan gynnwys Mynyddoedd Wicklow, gyda'u heangderau grugog a'u golygfeydd mawreddog.
Ymgollwch yn stori serch hyfryd a chrefftus yr awdur Cecilia Ahern, gan ddilyn camau'r prif gymeriad wrth iddi deithio drwy sir frodorol ei diweddar ŵr, Wicklow.
Carreg Cennen yw adfail mwyaf rhamantaidd Cymru yn swyddogol – fel y pleidleisiwyd gan ddarllenwyr cylchgrawn Countryfile.
Yn sefyll yn uchel ar graig galchfaen fawr bron 300 troedfedd uwchlaw Afon Cennen, mae silwét dramatig Carreg Cennen yn amlwg am filltiroedd lawer ac oddi yno ceir golygfeydd trawiadol dros gefn gwlad godidog Sir Gâr.
Mae'r castell, y dywedir iddo gael ei adeiladu gan John Giffard, barwn ffyddlon Edward I ar ddiwedd y 13eg ganrif, yn ennyn ymdeimlad anhygoel o ddrama, ac i lawer, ymdeimlad o ramant.