Mae sioe wirioneddol wych i'w gweld o'r Llwybrau Celtaidd ar ddechrau'r hydref, wrth i ddail y coed droi'n lliwiau coch, ambr, aur ac efydd. A pha ffordd well o fwynhau'r adeg hardd hon o'r flwyddyn na thrwy fynd am dro cerdded hydrefol?
Dyma rai llwybrau ar draws y Llwybrau Celtaidd sy'n dangos tymor yr hydref yn ei holl ogoniant.
Mae Coedwig Mynwar yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ger Arberth. Gan fod y safle yn agos at Aber Afon Cleddau, mae'r cyfuniad o ddŵr heli a dŵr croyw yn darparu cynefin amrywiol i fywyd gwyllt. Cadwch lygad am adar y glannau megis y crëyr glas a glas y dorlan o'r olygfan dros yr aber ac adar y coetir megis y gnocell fraith fwyaf a'r dringwr bach. Mae'r coetir hefyd yn cynnal ystod eang o fflora. Yn ystod yr hydref mae lliwiau cynnes y coed deri coch a'r ffawydd, a'r ffyngau hynod a rhyfeddol eu ffurf, yn wledd i'r llygaid.
Crwydrwch y llwybrau pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ardal 2,000 erw o wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol ger Tregaron. Mae'r warchodfa'n cynnwys tair cyforgors - ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd. Mae'n un o'r systemau cyforgors gorau ym Mhrydain. Mae'r gwelyau cyrs gwyllt, y glaswelltiroedd gwlyb, y coetir, yr afonydd, y nentydd a'r pyllau dŵr yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt a phaled lliwiau o goch, melyn a brown sy'n newid o hyd ac sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r bryniau gwyrdd cyfagos. Mae'r gwlyptir enfawr yn olygfa drawiadol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ond mae'r lliwiau ar eu gorau yn yr hydref. Ymhlith y bywyd gwyllt y gallech ddisgwyl ei weld yr adeg hon o'r flwyddyn y mae'r dyfrgi (neu'r dwrgi), y ffwlbart, amrywiaeth o adar sy'n gaeafu gan gynnwys pibydd y dorlan a'r gïach, ac adar ysglyfaethus gan gynnwys y bod tinwen a'r cudyll glas.
Mae gan Ddyffryn Tywi doreth o atyniadau treftadaeth a diwylliannol, a hynny yng nghanol rhai o'r golygfeydd harddaf yng Nghymru. Mae adfeilion Castell Carreg Cennen, sy'n sefyll ar ben clogwyn calchfaen 90 metr o uchder, i'w gweld yn amlwg yn erbyn y gorwel am filltiroedd. Saif Castell Dryslwyn ar fryn creigiog arall, a gysylltir am byth â thywysogion y Deheubarth. Mae gerddi Elisabethaidd Aberglasne yn teimlo'n wahanol iawn i erddi enfawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ond eto nid yw nepell i ffwrdd. Yn ogystal, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sawl eiddo yn yr ardal, megis Tŵr Paxton sydd ar arddull Neo-Gothig, a Phlas Dinefwr neu Dŷ Newton, yng nghanol ystâd Dinefwr. Daw'r dyffryn ei hun yn fyw yn yr hydref wrth i'r bryniau droi'n lliwiau brown cynnes a'r coedwigoedd yn felyngoch. Edrychwch yn ofalus ac efallai y gwelwch hefyd y barcut coch ar hyd eich ffordd.
Er ei fod yn bentref glan môr yn bennaf, mae'r goedwig 60 erw yn Courtown yn fan i gael seibiant cysgodol o'r traeth cyfagos. Yn ystod y 1860au a'r 70au, sefydlodd James Stopford, 5ed Iarll Courtown, binwyddlan ar dir Courtown House. Nid coed pinwydd yn unig oedd yn mynd â'i fryd, fodd bynnag, ac mae'r rhywogaethau eraill yn ei gasgliad yn cynnwys coeden goch Califfornia, cypreswydden gors, cedrwydd Siapaneaidd, cedrwydden Libanus a choed yw, ymhlith eraill. Cadwch lygad am goeden ywen a blannwyd fel rhan o'r casgliad, ond a gwympwyd flynyddoedd yn ôl, ac sy'n parhau i dyfu wrth ymyl Llwybr yr Afon. Ym 1870, plannwyd coed derw ac ynn yn y coetir ymhellach i ffwrdd o'r tŷ. Roedd hyn yn eithaf nodweddiadol o goetir ystâd Fictoraidd; plannwyd y conwydd egsotig a'r coed cochion yng ngolwg y tŷ a'r coed derw ymhellach i ffwrdd.
Ystyr Glendalough (Gleann Dá Loch) yw 'Dyffryn y Ddau Lyn' ac mae'r dyffryn rhewlifol hwn yn adnabyddus am dreflan fynachaidd ganoloesol gynnar a sefydlwyd yn y chweched ganrif. Ceir yno olygfeydd mynyddig hardd o lynnoedd dirgel dwfn, afonydd gwyllt a rhaeadrau trawiadol. Hyd yn oed fel un o brif atyniadau twristaidd Dwyrain Hynafol Iwerddon, os nad Iwerddon gyfan, ni fydd rhaid i chi grwydro'n rhy bell i ddarganfod y llonyddwch a'r ymdeimlad ysbrydol a ddenodd fynachod yma ganrifoedd yn ôl. Mae'r hydref yn un o'r adegau gorau i ymweld â'r ardal wrth i'r coed collddail a'r rhedyn droi'n lliwiau browngoch, oren a melyn cyfoethog, ac mae'r rhidiad ceirw ar ei anterth, sy'n golygu eu bod i'w gweld yn amlach.
Mae Glendalough wedi'i leoli ar hyd llwybr cerdded nodedig hynaf Iwerddon, Llwybr Wicklow (The Wicklow Way). Caiff y llwybr ei adnabod fel gardd Iwerddon, ac mae'n dilyn arfordir, coetiroedd, mynyddoedd mawreddog, llynnoedd, a gerddi ysblennydd, gydag ystadau cain o'r 18fed ganrif yn eu mysg.
Saif yr adeiladau urddasol hyn sydd ar arddull gothig ger Lismore, gyda llwybrau cerdded trwy goetir trwchus ac amrywiol ac ardaloedd picnic o'u hamgylch. Daw'r tyrau hudolus hyn â naws tylwyth teg i'r llecyn sy'n gwrthgyferbynnu â'r hanes trist sydd yma, gan iddynt gael eu hadeiladu mewn cyfnod yn hanes Iwerddon pan fodolai golud a newyn ochr yn ochr â'i gilydd. Roeddent wedi eu codi ar gyfer Landlord Eingl-Wyddelig, Arthur Keily-Ussher erbyn 1834. Roedd ganddo ystâd o ryw 8000 erw, a'r rhan fwyaf ohoni yn cael ei rhentu i denantiaid o ffermwyr, ond cadwodd rhyw 1000 erw fel meddiant personol. Y porthdyrau crand hyn oedd yr unig ran o'r castell arfaethedig i gael ei adeiladu, gan i'r arian ddod i ben yn fuan ar ôl iddynt gael eu cwblhau.