Oeddech chi'n gwybod bod rhai o'n hoff ddefodau a thraddodiadau Nadolig wedi deillio o arferion Celtaidd hynafol?
Mae addurno'r Goeden Nadolig yn hen ddathliad paganaidd Gwyddelig, lle'r oedd addurniadau'n symbolau o'r tri duwdod; byddai'r haul, y lleuad a'r sêr, ac addurniadau eraill hefyd yn cael eu gosod ar y goeden i gynrychioli eneidiau pobl a oedd wedi marw. Byddai'r boncyff Nadolig yn draddodiadol yn cael ei losgi yn ystod heulsafiad y gaeaf, a byddai'r Celtiaid yn gwneud hyn i gynnau golau ar adeg dywyllaf y flwyddyn pan oeddent yn credu bod yr haul yn sefyll yn llonydd am 12 diwrnod.
Ac yn ysbryd y Nadolig dyma ychydig mwy o straeon Nadoligaidd o bob rhan o'r Llwybrau Celtaidd i ddiddanu ac ysbrydoli.
Yn sefyll uwchlaw Dyffryn Tywi, i'r gogledd-ddwyrain o Landeilo, mae Bethlehem Cymru yn llecyn tawel a diarffordd, hynny yw heblaw adeg y Nadolig, pan fydd miloedd o bobl yn ymweld â'r pentref bach fel y gallant anfon eu cardiau Nadolig wedi'u stampio â'r marc post Bethlehem unigryw. Collodd Bethlehem ei swyddfa bost yn y 1980au, ond ers canol y 1960au roedd y traddodiad o bostio cardiau Nadolig o'r pentref wedi bod yn tyfu'n gryfach ac yn gryfach. O ganlyniad, ailagorwyd y swyddfa bost yn 2002 – ac fel y dywedodd rhywun unwaith, gallai fod wedi bod yn wyrth Nadolig.
"Yn y blynyddoedd hynny a drôdd o gwmpas cornel y dre glan môr, roedd un Nadolig mor debyg i'r llall; y blynyddoedd hynny sydd erbyn hyn y tu hwnt i sŵn, oni bai am siarad pell y lleisiau a glywaf weithiau cyn cysgu, fel na allaf yn fy myw gofio a fu hi'n bwrw eira am chwe niwrnod a chwe noson pan oeddwn i'n ddeuddeg ynteu a fu hi'n bwrw eira am ddeuddeg diwrnod a deuddeg noson pan oeddwn i'n chwech..."
Wedi'i ysgrifennu ym 1952 flwyddyn cyn ei farwolaeth, mae hanesyn telynegol Dylan Thomas o Nadolig ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru yn ddarlun hiraethus o gyfnod symlach. Mae'n debygol y byddai wedi ysgrifennu'r darn hwn o ryddiaith yn y Boathouse neu Gartref Dylan Thomas, sydd bellach yn gyfystyr â Thalacharn.
Roedd y Plygain, sy'n golygu 'caniad y ceiliog', yn wasanaeth crefyddol traddodiadol a gynhelid yn Eglwys y Plwyf am 3 o'r gloch bob bore Nadolig. Yn Ninbych-y-pysgod byddai dynion ifanc y dref yn cario ffaglau wedi'u goleuo wrth hebrwng y Rheithor o'r rheithordy i Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth y Plygain. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys gweddi, mawl, diolchgarwch, a chanu carolau. Ar ôl y gwasanaeth byddai'r ffaglau yn cael eu goleuo unwaith eto a byddai'r gynulleidfa'n hebrwng y Rheithor yn ôl i'w gartref gyda chloch yr eglwys yn canu'n barhaus tan adeg y gwasanaeth boreol arferol. Byddai gweddill y dydd yn cael ei neilltuo i bleser, chwarae gemau pêl-droed, a dod â hen gwerylon i ben.
Oeddech chi'n gwybod bod tref Aberteifi wedi cael ei hailenwi'n "Siwmper" dros dro yn ôl yn 2016 i gyd-fynd â Diwrnod Siwmper Nadolig? Cyhoeddodd y Maer Clive Davies y newid wrth i gyngor Aberteifi ymuno ag elusen Achub y Plant i hyrwyddo'r traddodiad blynyddol o wisgo Siwmper Nadolig. Dim ond tan Ddydd Nadolig y flwyddyn honno y parhaodd tref Siwmper, pan ddychwelwyd at enw gwreiddiol y dref, Aberteifi.
Gelwir y Piper's Stones hefyd yn Athgreany, sy'n golygu "Maes yr Haul", ac maent wedi'u neilltuo i arsylwi'r haul. Mae'r cerrig hyn, y credir eu bod yn galendr megalithig, wedi'u gosod yn y fath fodd fel bod cysgodion yr haul yn unioni'r cerrig â phrif ddigwyddiadau blynyddol yr haul; Heulsafiad y Gaeaf, Cyhydnos y Gwanwyn, Heulsafiad yr Haf a Chyhydnos yr Hydref.
Mae heulsafiad y gaeaf yn nodi ein noson hiraf o'r flwyddyn. Mae'r ŵyl heulol hon yn gyfle i fyfyrio'n dawel a thaflu goleuni yn ystod rhan dywyllaf y flwyddyn.
Mae Carol Wexford, y dywedir ei bod yn dyddio o'r 12fed ganrif, yn un o'r carolau Nadolig hynaf sydd wedi goroesi yn y traddodiad Ewropeaidd. Yn wreiddiol o Swydd Wexford, dim ond yn yr iaith Wyddeleg y bodolai'r garol tan ddechrau'r 1900au pan drawsgrifiodd y cyfansoddwr enwog Dr. W.H. Grattan Flood y garol gan ganwr lleol. Ni chafodd ei chyhoeddi tan flwyddyn ei farwolaeth ym 1928, fel Rhif 14 yn Llyfr Carolau Rhydychen. Efallai y bydd rhai bellach yn adnabod y garol fel Carol Enniscorthy, gan iddi gael ei recordio o dan y teitl hwn gan Gôr Eglwys Gadeiriol Crist, Dulyn mewn recordiad Nadolig ym 1997.
Addurn cyfarwydd sydd i'w weld ym mhob man yn ystod tymor yr Ŵyl, ond oeddech chi'n gwybod bod nifer o goed celyn newydd wedi'u datblygu yn Swydd Wicklow? Roedd Edward Hodgins yn feithrinwr enwog yn rhyngwladol a sefydlodd Hodgins Nursery ym 1794 yn Dunganstown. Roedd ei goed, ei blanhigion a'i flodau prin yn cyflenwi gerddi botanegol ac ystadau mawreddog, nid yn unig yn Iwerddon, ond hefyd yn Lloegr. Daeth ei waith o feithrin nifer o goed celyn newydd hefyd â llawer o sylw iddo. Creodd Edward dair celynnen newydd trwy groesi celynnen Madeira â chelynnen frodorol Wicklow i greu gwahanol fathau o'r planhigyn Nadoligaidd arbennig hwn. Mae ei etifeddiaeth yn parhau, fel meithrinwr gwybodus ac yn ein haddurniadau Nadolig.
Saif pentref Ballyknockan ar ochr ogledd-orllewinol mynyddoedd Wicklow gan edrych dros Lynnoedd Blessington. Erys naws pellennig hynafol yn y pentref, ynghyd â chymeriad unigryw a golygfeydd hardd. Ac ar gyrion y pentref saif y 'Tŷ mewn Dydd' neu 'House in a Day' fel y'i gelwir.
Ar fore Nadolig 1887, roedd landlord lleol yn benderfynol o droi gweddw dlawd a'i theulu allan o'u cartref. Aeth gwŷr y landlord ati i fwrw'r to oddi ar ei thŷ tra yr oeddent hwy yn yr offeren, gan roi hysbysiad ar unwaith iddynt i'w troi allan. Bryd hynny arferid cyfraith ryfedd a ddywedai pe bai tŷ yn cael ei adeiladu o fewn diwrnod gyda mwg yn dod allan o'r simnai, na ellid troi'r meddianwyr allan, felly daeth y cymdogion ynghyd ar Ddydd Nadolig i adeiladu tŷ. Unwaith yr oedd y tŷ wedi'i gwblhau cyneuwyd y tân, gan sicrhau na ellid troi'r weddw dlawd a'i theulu allan.