Cylchgrawn OK! a phapur newydd yr Express
PM
Gyrru i Geredigion a chofrestru yng Ngwesty'r Falcondale
Ymweld â Cheinewydd i gael pryd gyda'r nos a gwylio'r dolffiniaid. Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, sydd â phoblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin digyffwrdd, a'r dyfroedd glân.
Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: Pysgod a sglodion o'r Lime Crab, sydd wedi'i leoli wrth ymyl yr harbwr.
Llangrannog
Ymadael â'r gwesty ac ymweld â thraethau Llangrannog a Chilborth.
Yn union i'r gogledd o draeth Llangrannog y mae cildraeth diarffordd Cilborth, y gellir ei gyrraedd naill ai o draeth Llangrannog ar lanw isel, neu i lawr y grisiau yn y clogwyn oddi ar Lwybr yr Arfordir.
Awgrym ar gyfer cinio: Caffi'r Beach Hut, Llangrannog
PM
Trwyn Cemaes a Llwybr Arfordir Sir Benfro
Ymweld â Thrwyn Cemaes a cheisio gweld morlo (mae'n fagwrfa bwysig) ar lwybr cerdded cylchol 2.5 milltir. Wedi i chi barcio, dilynwch yr arwyddion am Lwybr Arfordir Sir Benfro trwy fuarth y fferm. Dylai fod golygfeydd o Draeth Poppit ac Afon Teifi y tu ôl i chi, ac edrychwch ar draws yr aber i weld Ynys Aberteifi a chopa amlwg Mwnt.
Gyrru i westy Tŵr y Felin, Tyddewi a chofrestru.
Pryd gyda'r nos ym Mwyty Blas, Tŵr y Felin.
AM
Traeth Marloes
Gyrru i Draeth Marloes a cherdded yr hanner milltir ar hyd y clogwyni i lawr i'r traeth, lle cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân a berdys, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm.
PM
Ymweld ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mae dinas ac eglwys gadeiriol Tyddewi yn dominyddu penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r eglwys gadeiriol wedi bod yn fan cysegredig i bererinion ers dros 800 mlynedd.
Awgrym ar gyfer cinio: Deli Bwyd a Gwin Tyddewi ar gyfer baguettes cartref.
Awgrym ar gyfer hufen iâ: Parlwr Hufen Iâ y Bench
Aros dros nos yng ngwesty Tŵr y Felin
Pryd gyda'r nos: Grain – ar gyfer pizzas wedi’u gwneud â llaw a chwrw crefft.
AM
Traeth Pentywyn
Ymadael â'r gwesty a mynd i Draeth Pentywyn. Dethlir y darn 11 km hwn o draeth am ei hanes o recordiau cyflymder ar y tir.
PM
Talacharn
Awgrym ar gyfer cinio: Caffi Arthur
Ymweld â chartref Dylan Thomas, y Boathouse yn Nhalacharn. Mae bron yn amhosibl sôn am dref Talacharn heb grybwyll Dylan Thomas yn yr anadl nesaf. Ac nid oes unrhyw ymweliad â Thalacharn yn gyflawn heb bererindod i'w Boathouse. Ar eich ffordd yno, byddwch yn mynd heibio i'w sied ysgrifennu sy'n edrych dros Aber Afon Taf.
Taith gerdded ychwanegol: Ewch ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, sy'n ddwy filltir o hyd, ac archwilio hanes cyfoethog Talacharn, gan hefyd werthfawrogi golygfeydd dros yr aber, Penrhyn Gŵyr, Ynys Bŷr a Dinbych-y-pysgod.
Aros dros nos yn Brown's.
Pryd gyda'r nos: Dexters yn Brown's