Diwrnod 1
Wicklow Way
Mynd am dro ar hyd y Wicklow Way.
Mynd i Glendalough, dyffryn rhewlifol yn Wicklow sydd â golygfeydd godidog. Mae'n enwog am ei anheddiad mynachaidd o'r Oesoedd Canol Cynnar, a sefydlwyd yn y 6ed ganrif gan Sant Kevin. Mae Taith Gerdded Poulanass a Chell Sant Kevin yn ymestyn dros 1.2 km, yn cymryd tua 45 munud, a'r wobr a gewch fydd golygfeydd dros y Llyn Uchaf.
Mae llawer o lwybrau cerdded eraill o bellteroedd amrywiol o amgylch Glendalough – os hoffech edrych ar ddewisiadau eraill, ewch i https://visitwicklow.ie/?s=glendalough+walks
Bae Brittas
Credir mai ar y rhan 5 km hon o'r traeth y glaniodd Sant Padrig gyntaf yn Iwerddon.
Gyrru'n ôl tuag at y Perch yn Kilquiggin, oddeutu awr mewn car o Fae Brittas. Gwnewch yn siŵr eich bod yn troi oddi ar yr M11 ar Gyffordd 20 ac yn cymryd y llwybr trwy Avoca, ar gyfer llwybr mwy godidog ei olygfeydd.
Swper yn nhafarn y Dying Cow
Dros nos ym mwthyn y Perch.
Goleudy Hook
Ymadael â'r Perch a gyrru i Oleudy Hook oddeutu 2 awr yn y car.
Hook yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sy'n sefyll ers dros 800 mlynedd.
Cinio canol dydd: Caffi’r Lightkeepers House, a leolir yn hen dai'r ceidwaid wrth ymyl y Goleudy. Mae'r caffi'n adnabyddus am ei Gawl Bwyd Môr Penrhyn Hook a'i fara o'i fecws ar y safle.
Mwynhau taith dywysedig yn yr House of Waterford Crystal
Mae'r House of Waterford Crystal wedi'i leoli yn Waterford, Iwerddon, dinas Lychlynnaidd a adeiladwyd yn 914 OC. Y ffatri uchel ei pharch hon yw curiad calon diwydiant gweithgynhyrchu crisial moethus y byd, a dyma lle y bydd y darnau crisial mwyaf cywrain, dilys a meistrolgar yn dod yn fyw.
Gyrru i'ch llety dros nos yn Forth Mountain – FurtherSpace.
Swper: Hamper bwyd yn eich pod
Mwynhau bore hamddenol yn Swydd Wexford. Rhai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau:
The Makers House Wexford – Deunaw o Wneuthurwyr a Dylunwyr Wexford yn arddangos ac yn gwerthu amrywiaeth syfrdanol o waith celf, canhwyllau, cerameg, enamel, gemwaith, paentiadau, ffotograffiaeth, crochenwaith, printiadau, cerflunwaith, gwydr y môr, gwydr lliw a gwaith lledr yng nghanol tref Wexford.
Gwarchodfa Adar Gwyllt Wexford – Wedi'i lleoli ar dir fferm gwastad a gafodd ei adennill o'r môr yn yr 1840au, mae'n ymestyn dros tua 200 hectar o'r North Slob, ac mae'n rhan o Ardal Warchodedig Arbennig ehangach Slobs a Harbwr Wexford.
Cinio yn La Marine Bistro yng Ngwesty a Sba Kelly's Resort.
Gyrru i Borthladd Fferïau Rosslare yn barod i groesi gyda'r nos i Gymru.
Gyrru i'ch llety dros nos yn Sir Benfro.
Aros dros nos yng Ngwesty a Bwyty Llys Meddyg
Tyddewi
Ymweld ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi – oddeutu 45 munud mewn car.
Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r eglwys gadeiriol wedi bod yn fan cysegredig i bererinion ers dros 800 mlynedd. Yn yr Oesoedd Canol, dywedid bod dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Rufain.
Awgrymiadau ar gyfer cinio:
Grain – ar gyfer pizza â thinc lleol.
Whitesands Beach House – ar gyfer pysgod a sglodion go iawn ar y traeth. Byddai ymweliad â'r lle hwn yn cynnig man cychwyn da yn barod ar gyfer taith gerdded y prynhawn (manylion isod).
Cerdded rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro
6km, 1 awr 15 munud, mae’r llwybr hwn yn archwilio un o bentiroedd mwyaf dramatig Sir Benfro ac yn edrych allan tuag at forlun sy'n frith o ynysoedd, wrth i chi gerdded ar draws tirwedd wyllt yn llawn brigiadau creigiog, henebion cynhanesyddol, ac amrywiaeth wych o fywyd gwyllt arfordirol. Man Cychwyn: Maes Parcio Porth Mawr.
Swper yn Llys Meddyg.
Aros dros nos yng Ngwesty a Bwyty Llys Meddyg
Ymadael â Llys Meddyg a gyrru i Distyllfa Dha Mile – oddeutu 45 munud mewn car. Ar y ffordd, mynd i Siambr Gladdu Pentre Ifan, beddrod Neolithig hynafol.
Taith, cinio, a blasu chwisgi yn Nistyllfa Dà Mhìle am 12pm.
Gyrru i'ch llety dros nos yng Ngheredigion.
Aros dros nos yn Noyadd Trefawr.
Roedd Noyadd Trefawr yn un o'r tai a'r ystadau pwysicaf yng Ngorllewin Cymru am ran helaeth o'r 16eg, 17eg, 18fed a'r 19eg ganrif.
Swper yn Yr Hen Printworks.
Talacharn
Cofrestru yng ngwesty Brown's.
Cerdded yn ôl troed eicon diwylliannol Cymreig yng nghartref Dylan Thomas, y Boathouse. Mae bron yn amhosibl sôn am dref Talacharn heb grybwyll Dylan Thomas yn yr anadl nesaf. Mae'n gyfystyr â'r lle. Ac ni fyddai ymweliad â Thalacharn yn gyflawn heb bererindod i'r Boathouse, lle roedd Dylan yn byw gyda'i wraig a'i deulu ym mlynyddoedd olaf ei fywyd.
Cinio: Ystafelloedd Te y Boathouse.
Ar ôl cinio, mynd yn ôl tuag at y pentref a dilyn Taith Gerdded Pen-blwydd Dylan, a enwyd ar ôl iddi ddarparu'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei Gerdd enwog, Poem in October. Mae’n cychwyn yng nghastell Talacharn ac yn darparu golygfeydd hyfryd o aber Afon Taf.
Swper ym mwyty Dexters yn Brown's.