Uchafbwyntiau Celtaidd

.

Uchafbwyntiau Celtaidd

Uchafbwyntiau Celtaidd yw'r mannau lle byddwch yn dod o hyd i'r golygfeydd, yr ieithoedd a’r hanesion a luniodd ein rhan ni o'r byd. Bydd pob uchafbwynt yn cwmpasu pennod o'n hanes neu'n mynd â chi i le sy'n datgelu gogoniant ein tir a'n môr. Mae mannau eraill yn eich cyflwyno i’n diwylliant Celtaidd, ein pobl a'n hanesion. Wrth i chi gywain rhain at ei gilydd, byddwch yn raddol yn creu darlun llawn o'r rhanbarthau a'r bobl yr ydym heddiw - ac yn debygol o fod yn y dyfodol.

Yn naturiol, rhai o'r lleoedd hyn yw 'tlysau coron' ein twristiaeth. Ond dim ond drwy gymryd ffyrdd llai cyfarwydd y byddwch yn dod o hyd i lawer ohonynt, drwy ddiffodd y sat-nav a dibynnu ar eich greddf eich hun (ac efallai map hen ffasiwn da). Y pellach y crwydrwch oddi ar y trywydd twristaidd arferol, yr agosach y byddwch at ddod i’n hadnabod