Sant Catholig oedd Sant Colman O'Ficra a fu'n byw yn y 7fed ganrif. Sefydlodd fynachlog ar safle presennol Eglwys Sant Colman yn Templeshanbo, Swydd Wexford.
Rhwng dwy fynwent ceir ffynnon sanctaidd ac yn y fan hon ar un adeg roedd pwll mawr a oedd yn cael ei lenwi â dŵr o'r ffynnon. Am lawer o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Sant Colman, roedd nifer o hwyaid yn byw ar y pwll a chredid eu bod yn cael eu gwarchod gan y Sant. Roedd Sant Colman wedi bod yn hoff o adar, a hwyaid oedd ei ffefrynnau. Roedd yr hwyaid yn cael eu trin ag anwyldeb a thynerwch mawr, a daethant yn ddof iawn. Byddent hyd yn oed yn bwyta bwyd yn uniongyrchol o ddwylo'r pererinion fyddai’n ymweld.
Gan fod yr hwyaid hyn dan warchodaeth o'r fath, na allai dim eu niweidio yn ôl y chwedl – er na fyddai unrhyw un o'r pentrefwyr yn mentro cyffwrdd ag un bluen ar eu pennau. Fodd bynnag, gan fod yr hwyaid mor ddof, byddai rhywun oedd yn nôl dŵr o'r pwll ar noson dywyll weithiau'n mynd adref gyda mwy na'r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl. Heb sylweddoli, byddent yn taflu cynnwys y llestr, gan gynnwys yr aderyn, i mewn i grochan dros dân i'w ferwi. Ond waeth pa mor hir y llosgai’r tân, neu faint o goed a roddwyd arno, arhosai’r dŵr yn oer. Ar ôl archwiliad pellach, byddai'r hwyaden yn cael ei gweld yn nofio yn y crochan ac yn cael ei dychwelyd i'r pwll heb unrhyw niwed ar ôl ei phrofiad, a dyna pryd y byddai'r crochan yn cynhesu a'r dŵr yn berwi heb oedi pellach.
Yn y 12fed ganrif, cofnododd Gerallt Gymro ragor o'r straeon hyn am hwyaid yn ei ddisgrifiad o Iwerdon 'Topograpia Hibernica', a ysgrifennodd fel adroddiad o'i daith i Iwerddon gyda John, mab Brenin Harri II. Mae un stori o'r fath yn dweud pe byddai unrhyw un yn dangos amharch at yr Eglwys neu'r clerigwyr, neu hyd yn oed at yr hwyaid eu hunain, byddai'r haid gyfan yn hedfan i ffwrdd ac yn ymgartrefu ar lyn arall. Bron ar unwaith, byddai dŵr y pwll yn mynd yn cymylu ac yn dechrau drewi, gan ei wneud yn anaddas i bobl ei yfed. Ar ôl i'r troseddwr gael ei ganfod a'i gosbi'n briodol, byddai'r hwyaid yn hedfan yn ôl i'r pwll yn syth ar ôl iddynt ddychwelyd byddai'r dŵr yn dod yn glir ac yn addas i'w yfed unwaith eto.
CYSYLLTIADAU CELTAIDD
Nid anifeiliaid yn unig oedd dan warchodaeth arbennig yn ôl y chwedl. Safai Derwen Myrddin yng nghanol tref Caerfyrddin a dywedwyd bod dewin y Brenin Arthur wedi gwneud proffwydoliaeth amdani:
“Y Gaerfawr, ti gei oer fore Daear a'th lwnc, daw dŵr i'th le.”
Bu farw'r goeden ym 1856 o ganlyniad i wenwyno bwriadol. Fodd bynnag, arhosodd y boncyff yno tan 1978, pan gafodd ei ddinistrio gan dân. Maes o law, cafodd tref Caerfyrddin ei tharo gan y llifogydd gwaethaf ers cyn cof. Cyd-ddigwyddiad – neu'r broffwydoliaeth?
Y naill ffordd neu'r llall, cedwir gweddillion Derwen Myrddin yn ddiogel yn y neuadd ddinesig.