Mae harddwch a llonyddwch Glendalough yn Swydd Wicklow yn denu bron tri chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Dyma hefyd beth ddaeth â Sant Kevin yma yn y 6ed ganrif, i dreulio 7 mlynedd ar ei ben ei hun cyn sefydlu'r fynachlog.
Dewisodd fyw mewn ogof fetr o uchder ar lan y llyn uchaf. Gellir gweld Gwely Sant Kevin, fel y'i hadwaenir, o lannau'r gogledd o hyd. Dywedir ei fod yn gwisgo crwyn anifeiliaid yn unig, a'i fod yn eu tynnu yn ystod y gaeaf i drochi ei hun am oriau yn y llyn rhewllyd ac, i gael effaith debyg yn yr haf, y byddai'n plymio i goedwigoedd o ddanadl.
Roedd gan Sant Kevin gariad dwfn at natur a pharch at ei holl greadigaeth. Yn ôl un chwedl, wrth weddïo yn ei gell gyda'i fraich wedi'i hymestyn, daeth aderyn du i nythu yn ei law. Gorfodwyd Kevin i ddal ei law yno'n llonydd nes bod yr wyau i gyd wedi deor a'r cywion wedi tyfu a hedfan i ffwrdd.
Estynnodd ei letygarwch i'w gyd-ddyn hefyd. Er iddo dreulio 7 mlynedd ar ei ben ei hun, daeth pobl i'w adnabod fel dyn sanctaidd ac athro. Daeth eraill i Glendalough i ddilyn ei ffordd o fyw ac yn fuan sefydlwyd anheddiad mynachaidd, a fyddai'n dod yn un o ganolfannau ysbrydol mawr Cristnogaeth yn Iwerddon.
Roedd Kevin a'i fynachod yn darparu addysg a llety am ddim i uchelwyr a chominwyr fel ei gilydd. Yn wahanol i lawer o fynachlogydd eraill, roeddent hefyd yn fodlon derbyn y rheiny nad oeddent yn bwriadu bod yn fynachod, ond a oedd eisiau dysgu yn unig. Cafwyd tipyn o syndod ymhlith yr eglwyswyr mwy confensiynol pan ddaethant â gwaith paganaidd 'amheus' mewn Groeg neu Ladin i'w roi yn eu llyfrgelloedd.
Cyfeirir yn aml at stori Kevin fel taith o neilltuaeth i gymuned a gellir olrhain llawer o'r stori o hyd yn Glendalough. Er ei bod yn un o brif atyniadau twristaidd Dwyrain Hynafol Iwerddon, os nad Iwerddon gyfan, ni fydd rhaid i chi grwydro'n rhy bell i ddarganfod y llonyddwch a'r ymdeimlad ysbrydol a ddenodd fynachod i Glendalough ganrifoedd yn ôl.
CYSYLLTIADAU CELTAIDD
O bosibl y cysylltiad cryfaf rhwng Iwerddon a Chymru yw Sant Padrig. Er bod pawb yn derbyn mai Sant Padrig yw nawddsant Iwerddon – a bod llawer mwy o wledydd yn cynnal dathliadau ar 17 Mawrth – yr hyn sy'n llai adnabyddus yw na chafodd ei eni yn Iwerddon. Yn wir, mae'r dystiolaeth yn awgrymu iddo gael ei eni mewn rhan o Orllewin Prydain sy'n Dde Cymru erbyn hyn ac y siaradai'r iaith y tarddodd y Gymraeg ohoni. Felly, a yw hyn yn golygu bod Sant Padrig yn Gymro? Ddim yn hollol, na. Nid oedd Cymru, fel caiff ei hadnabod heddiw, yn bodoli yn ystod ei oes. Ac yn y pen draw, byddai'n mynd ymlaen i uniaethu ag Iwerddon a dod yn ymgorfforiad o bopeth Gwyddelig.