Ceredigion: Lle mae Anturiaethwyr yn Dod Ynghyd

Mae'r Tri Amgylchfyd yr oedd y Celtiaid yn eu haddoli – yr Awyr, y Tir a’r Môr – yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth arbennig iawn yn y rhan hon o Gymru. Ymgollwch mewn cymysgedd llesmeiriol o dirweddau a fydd yn eich syfrdanu a gweithgareddau cyffrous, yna dychwelwch adref gan deimlo bod eich corff wedi ymlacio a'ch meddwl wedi adfywio.

CeredigionMae Bae Ceredigion yn enwog am ei ddolffiniaid trwynbwl, gan fod poblogaeth breswyl fwyaf Ewrop yno. Gallwch eu gweld drwy gydol y flwyddyn, ond mae gennych fwyaf o siawns yn yr haf, pan fydd y mecryll y maent yn bwydo arnynt yn fwyaf niferus. Mae'n ymddangos bod tref glan môr boblogaidd Cei-newydd yn fan poblogaidd dros ben gan ddolffiniaid, lle gallech hyd yn oed weld un o wal yr harbwr, ac o'r fan hon y gallwch fynd ar daith cwch siarter i'w harsylwi'n agos. Cyn i chi gychwyn, cofiwch alw heibio yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, lle gallwch ddysgu sut i adnabod dolffiniaid a'r anifeiliaid mawr eraill sydd i'w gweld ym Mae Ceredigion - llamhidyddion yr harbwr a morloi llwyd yr Iwerydd.

Ewch tua'r gogledd i fyny'r arfordir, drwy dref harbwr bert Aberaeron sy’n hafan i’r rheiny sy’n hoffi eu bwyd, i dref brifysgol glan môr Aberystwyth, neu 'Aber’ fel y'i gelwir yn hoffus. Fel tref fwyaf Ceredigion, canolbwynt ar gyfer diwylliant Cymreig a rhyngwladol ar draws pob un o’r celfyddydau a phrifddinas y diwylliant Celtaidd fel y’i gelwir, mae'n sicr yn werth aros yno am seibiant byr. Heddiw, dyma eich man cychwyn er mwyn archwilio'r arfordir, gan gynnwys olion coedwig a foddwyd, tystiolaeth efallai o deyrnas goll chwedlonol 'Cantre'r Gwaelod', cyn anelu am y mewndir i’r Mynyddoedd Cambriaidd i gerdded i gopa Pumlumon, a neu reidio'r llwybrau beicio mynydd garw ym Mwlch Nant yr Arian. Ar ôl cael eich digon o ddringfeydd caled a thraciau sengl chwim, ewch draw i'r caffi ac efallai y byddwch mewn pryd i weld y barcud coch yn bwydo dros y llyn.

Ceredigion imageAr ôl noson dda o orffwys ac ymlacio yn Aberystwyth, byddwch yn mynd ar Reilffordd Dyffryn Rheidol i gyrraedd Rhaeadr Pontarfynach. Mae tair pont ar wahân yn rhychwantu rhaeadrau’r 90 metr o uchder, un wedi'i hadeiladu ar ben y llall rhwng yr 11eg a'r 19eg ganrif. Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y diafol gan ei bod yn dasg rhy anodd i feidrolion. Cytunodd i adeiladu'r bont yn gyfnewid am enaid y cyntaf i groesi'r bont; fodd bynnag, cafodd ei dwyllo gan hen wraig gyfrwys a’i alltudio am byth.

Daith 30 munud o Aberystwyth y mae abaty adfeiliedig Ystrad Fflur, neu Strata Florida yn Lladin. Wedi'i sefydlu gan fynachod Sistersaidd ym 1201, yr oedd unwaith yn eglwys enwocaf Cymru ar ôl Tyddewi ac yn gonglfaen yn niwylliant Cymru. Fel man gorffwys diwethaf 11 tywysog Dinefwr a'r bardd canoloesol o fyd natur a rhamant Dafydd ap Gwilym, mae'r abaty wedi cael ei alw'n 'Abaty Westminster Cymru’.

CeredigionYchydig filltiroedd o dawelwch mynachaidd Abaty Ystrad Fflur y mae unigedd llwm Llynnoedd Teifi. Mae Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill - Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant - yn gorwedd ynghudd yn y bryniau uwchben Abaty Ystrad Fflur. Os yw’r amser a'r lefelau egni'n caniatáu, byddem yn argymell eich bod yn cerdded y llwybr rhwng y ddau i brofi natur bellennig y fan mewn gwirionedd.

Dewis arall yn lle 'Aber' yw tref farchnad deg Aberteifi a safle sawl brwydr rhwng y Cymry a'r Normaniaid. Y castell oedd y cyntaf i gael ei adeiladu o gerrig gan dywysog Cymreig.  Mae gan y dref naws greadigol ac enw cynyddol dda am ei bwyd. Ewch i Oriel Canvas i weld gwaith gan artistiaid cyfoes o Gymru neu byddwch yn greadigol eich hun yng ngweithdai crefft Stiwdio 3. Amserwch eich ymweliad yn gywir (pan fydd yr amser yn iawn) a gallwch weld sioe yn Theatr Byd Bychan, ymgolli yng Ngŵyl Lleisiau Eraill (a gynhelir fel arfer ym mis Tachwedd) neu fwynhau rhaglen gerddoriaeth yr haf a gaiff ei churadu gan Theatr Mwldan ar dir y castell.