Mae bron pob ffordd yn y cornelyn hwn o'r byd yn eich arwain i dir yr hynafiaid. Cerddwch o amgylch dinas hynaf Iwerddon. Profwch fyd y Llychlynwyr mewn tŷ Llychlynnaidd wedi'i adeiladu â llaw. Dringwch dros greigiau a ffurfiwyd gan lenni iâ, anialdiroedd a llosgfynyddoedd tanfor. Crwydrwch o amgylch dinasoedd mynachaidd lle bu'r seintiau wrthi'n sefydlu'r aneddiadau Cristnogol cyntaf.

Waterford vikingsGlaniodd y Llychlynwyr yn y man yr ydym bellach yn ei alw'n Ddinas Waterford yn 914. Ni ellir gwadu eu bod wedi cael eu denu i Iwerddon i ysbeilio'r mynachlogydd cyfoethog, ond yr oeddent yn llawer mwy na rhyfelwyr terfysgol yn unig. Gwnaethant ymgartrefu yma, creu cynghreiriau a sefydlu llwybrau masnachu sefydledig – a ffurfio stori Iwerddon. Mae Triongl Llychlynnaidd Waterford, sy'n rhan o ardal dreftadaeth y ddinas, wedi'i leoli yn ôl troed gwreiddiol yr anheddiad Llychlynnaidd cyntaf. Dywedir bod yno '1,000 o flynyddoedd o hanes o fewn 1,000 o gamau', gyda thriawd o amgueddfeydd yn arddangos cyfnodau Llychlynnaidd, canoloesol a Sioraidd y ddinas.

Lai na thaith 20 munud mewn cerbyd o Ddinas Waterford y mae'r gerddi ym Mount Congreve. Gyda chasgliad o dros 3,000 o wahanol goed a llwyni, mwy na 2,000 o rododendronau, 600 o goed camelia, 300 o gyltifarau acer, 600 o goed conwydd, 250 o blanhigion dringo a 1,500 o blanhigion llysieuol (heb sôn am y rhywogaethau tyner sydd i'w gweld yn y tŷ gwydr), nid yw geiriau'n ddigonol i fynegi'r harddwch anghyffredin y byddwch yn ei ddarganfod yma.

Wrth i chi fynd tua'r gorllewin ar hyd yr N25, trowch i ffwrdd yn Lemybrien am Raeadr Mahon ym Mynyddoedd Comeragh, mae Rhaeadr Mahon yn hygyrch iawn a gellir ei fwynhau mewn sawl ffordd wahanol, ac mae llwybr coedwig crough yn fonws ychwanegol. Mae Rhaeadr Mahon yn un o’r rhyfeddodau sydd i’w darganfod ym Mynyddoedd Comeragh, dylai’r rheiny sydd ag ysbryd anturus chwilio am lwybrau cerdded Dyffryn Nire a Rathgormack a chychwyn i ddarganfod y trysorau niferus sydd wedi’u cuddio yn y mynyddoedd trawiadol hyn.

Mae Tref Dreftadaeth Lismore wedi cael ei siâr deg o ymwelwyr drwy'r oesoedd. Cyrhaeddodd Sant Carthag yma yn 635 a sefydlu Abaty Lismore, a ddenodd ysgolheigion o bob rhan o Ewrop. Yn anffodus, denodd cyfoeth yr abaty y Llychlynwyr llai dymunol hefyd, a aeth ati i ysbeilio'r dref a'i llosgi i'r llawr. Ar ôl y Llychlynwyr daeth y Normaniaid ac adeiladodd y Tywysog John, mab Harri II, Gastell Lismore ym 1185. Ymhlith yr ymwelwyr enwog mewn hanes mwy diweddar y mae'r awdur William Thackeray, John F Kennedy a Fred Astaire, a welwyd yn mwynhau Guinness tra oedd ar wyliau yma!

WaterfordBydd taith 30 munud mewn cerbyd i'r de o Lismore yn dod â chi i bentref arfordirol Ardmore. Daeth San Declan ar draws y pentref yn y 5ed ganrif - er ei fod wedi'i dywys yno gan garreg ar y tonnau, yn hytrach na map neu sat-nav - a sefydlu mynachlog. Heddiw, yr adfeilion yw treflan Gristnogol hynaf Iwerddon. Os byddwch yn digwydd bod yma ar 24 Gorffennaf, ei ddydd gŵyl, ymunwch â’r pererinion ar y daith gerdded 4km gydag ymyl y clogwyn i Ffynnon San Declan i dalu teyrnged.

Ar eich ffordd yn ôl ar hyd yr arfordir, arhoswch yng Nghanolfan Ymwelwyr Geoparc UNESCO yr Arfordir Copr yn Bunmahon. Mae'r Arfordir Copr yn cael ei enw o'r mwyngloddiau enfawr a weithiwyd yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif. Mae'r Geoparc yn cynnig golwg unigryw a diddorol ar y modd y mae pobl yn gysylltiedig â'r tirweddau, o'r hen amserau hyd heddiw.