Roedd y Celtiaid yn byw mewn cytgord â natur, gan eu bod yn credu bod gan ei holl elfennau hanfod ysbrydol. Ffordd o fyw sy'n amlwg iawn o hyd yn Swydd Wexford heddiw. Mae'r profiad hwn yn eich gwahodd i ymgolli yn y tir a'r môr i ddod yn agosach at bwy oeddem unwaith – ac yn dal i fod.

WexfordGallwch ddilyn y profiad hwn mewn un daith, dros gyfnod o 2 i 3 diwrnod. Neu gallwch ddewis gwneud yr hanner cyntaf, yna mynd i'r de-orllewin i Swydd Waterford, a dychwelyd i gwblhau'r ail hanner. Byddai hyn yn gweithio'n dda os ydych wedyn yn teithio ymlaen i Gymru drwy Rosslare.

Mae ein harhosiad cyntaf yn mynd â ni'n ôl mewn amser, i Blasty a Gerddi Wells yr 17eg ganrif. Yma gallwch ymuno â thaith fyw o amgylch y plasty a darganfod bywydau'r teuluoedd cyfoethog a phwerus a oedd unwaith yn byw yno. A chyda 450 erw arall o erddi a choetiroedd, gan gynnwys llwybr tylwyth teg a thro cerdded Gryffalo, ynghyd â fferm anifeiliaid a maes chwarae antur, nid yw'n fawr o syndod bod yr atyniad hwn wedi'i bleidleisio fel yr atyniad gorau am ddiwrnod allan yn Iwerddon.

Bydd ymweliad â Pharc Treftadaeth Cenedlaethol Iwerddon yn rhoi cyfle unigryw i chi brofi dros 9,000 o flynyddoedd o hanes Iwerddon a hynny mewn un lle. Byddwch yn teithio trwy Iwerddon gynhanesyddol, Iwerddon Gristnogol gynnar ac oes y Goresgyniadau gan y Llychlynwyr a'r Normaniaid. Byddwch yn archwilio aneddiadau Gwyddelig cynnar wedi eu hail-greu, yn cael chwilota fel ffermwr cynhanesyddol a thaflu bwyell fel Llychlynnwr. Gallwch hyd yn oed dreulio noson mewn crongaer ganoloesol.

Mae'r traddodiad Celtaidd hynafol o fyw mewn cytgord â byd natur yn amlwg iawn yng Ngwarchodfa Adar Gwyllt Wexford. Wedi'i sefydlu fel noddfa aeaf ar gyfer Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las, mae'n cynnwys tua 200 hectar o Slob y Gogledd. Mae 40% o boblogaeth y byd o Wyddau'r Ynys Las bellach yn dod o hyd i gysgod a bwyd yma, ynghyd â channoedd o rywogaethau o adar gwyllt, rhydwyr ac adar eraill.

Wexford imageMae ail hanner y profiad hwn yn ymwneud â'r cysylltiad Celtaidd â'r môr. Lle da i amgyffred y cyfan yw Slieve Coillte, sef y man uchaf ar Benrhyn Hook, 265 metr uwchlaw lefel y môr. Ar ddiwrnod clir, cewch olygfeydd godidog o'r penrhyn cyfan.

Daith 40 munud i ffwrdd mewn cerbyd, ar flaen y penrhyn, y mae Goleudy Hook. Nid oes gan unrhyw oleudy arall yn y byd hanes hirach o ddiogelu morwyr, ar ôl sefyll am dros 800 mlynedd. Mae yna stori ar gyfer pob un o 115 o risiau tro treuliedig y tŵr, a byddwch yn dysgu rhai ohonynt ar daith dywys o amgylch yr adeilad canoloesol unigryw hwn.

Os dewch i'r ardal yn ystod y 'tymor tawel', pan fydd y dyddiau'n oerach ac yn fyrrach, mae siawns dda y cewch eich gwobrwyo â chipolwg ar y morfil cefngrwm mawreddog. Mae mis Tachwedd yn nodi dechrau'r tymor gwylio morfilod pan fyddant yn ymweld â'n dyfroedd cynnes i fwydo. Ymhlith yr ymwelwyr eraill hefyd y mae'r morfil asgellog a'r morfil Minke, llamhidyddion harbwr, morloi a dolffiniaid. Mae'r balconi coch ar ben Goleudy Hook yn fan gwylio gwych gydag ysbienddrych, ond os ydych yn hapus ar gwch, byddem yn argymell eich bod yn eu gweld yn agosach drwy fynd ar daith gwch siartredig.

Os ydych chi'n brin o amser, mae'r daith 'Ring of Hook Coastal Drive' awr o hyd yn ffordd ddelfrydol o weld y prif olygfeydd ar hyd y penrhyn. O amgylch pob yn ail droad mae traeth tawel, caer adfeiliedig, abaty urddasol neu fwyty bwyd môr (heb anghofio Goleudy Hook). Erbyn diwedd y daith gylchol, rydym yn credu y byddwch yn cynllunio eich taith yn ôl yno i amgyffred y golygfeydd hyn yn llawn.