Dinas ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yw nodweddion amlycaf penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r Eglwys Gadeiriol wedi sefyll fel man sanctaidd a chyrchfan pererindodau am dros 800 o flynyddoedd. Yn yr Oesoedd Canol credai pobl fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Rufain.
Adeiladwyd y gadeirlan bresennol ar safle mynachlog o'r 6ed ganrif a sefydlwyd gan Dewi Sant i ddysgu cenhadon i ledaenu Cristnogaeth. Credir mai un o'r cenhadon hynny oedd San Padrig. Wrth i enw da Dewi Sant ymledu, tyfodd ei fynachlog a datblygodd cymuned. Yn anffodus denodd sylw'r Llychlynwyr hefyd, a ddaeth yno droeon i'w hysbeilio dros y canrifoedd nesaf. Yn y diwedd cymerodd y Normaniaid reolaeth dros y fynachlog a dechreuasant adeiladu'r gadeirlan bresennol ym 1181.
Wedi goroesi cwymp ei thŵr, daeargryn a'r diwygiad Protestannaidd, mae'r gadeirlan yn parhau i wefreiddio ac ysbrydoli ei hymwelwyr, hyd yn oed ar ôl 800 mlynedd.