Darganfyddwch hanes cyfoethog Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Darganfyddwch hanes cyfoethog Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Cymru Sir Benfro

Darganfyddwch hanes cyfoethog Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Darganfod mwy

Dinas ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yw nodweddion amlycaf penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro.  Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r Eglwys Gadeiriol wedi sefyll fel man sanctaidd a chyrchfan pererindodau am dros 800 o flynyddoedd. Yn yr Oesoedd Canol credai pobl fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Rufain.

Adeiladwyd y gadeirlan bresennol ar safle mynachlog o'r 6ed ganrif a sefydlwyd gan Dewi Sant i ddysgu cenhadon i ledaenu Cristnogaeth. Credir mai un o'r cenhadon hynny oedd San Padrig. Wrth i enw da Dewi Sant ymledu, tyfodd ei fynachlog a datblygodd cymuned. Yn anffodus denodd sylw'r Llychlynwyr hefyd, a ddaeth yno droeon i'w hysbeilio dros y canrifoedd nesaf. Yn y diwedd cymerodd y Normaniaid reolaeth dros y fynachlog a dechreuasant adeiladu'r gadeirlan bresennol ym 1181.

Wedi goroesi cwymp ei thŵr, daeargryn a'r diwygiad Protestannaidd, mae'r gadeirlan yn parhau i wefreiddio ac ysbrydoli ei hymwelwyr, hyd yn oed ar ôl 800 mlynedd.