Gwyliwch emwaith yn cael ei greu yn Nhregaron

Gwyliwch emwaith yn cael ei greu yn Nhregaron

Cymru Ceredigion

Gwyliwch emwaith yn cael ei greu yn Nhregaron

Darganfod mwy

Mae Rhiannon Evans wedi bod yn dylunio ac yn gwneud ei gemwaith Celtaidd yn nhroedfryniau'r mynyddoedd Cambriaidd ers dros 40 o flynyddoedd. Mae llawer o'i darnau wedi'u dylanwadu gan etifeddiaeth y Celtiaid: yr iaith, y llên gwerin a'u traddodiadau. Ond yn hytrach na chopïo darganfyddiadau hanesyddol yn unig, mae hi'n dehongli dyluniadau hynafol yn ei dull unigryw ei hun. Caiff darnau eraill eu hysbrydoli gan y dirwedd a'r bywyd gwyllt a geir yn y rhan brydferth hon o Gymru.

Mae Rhiannon yn dal i wneud llawer o'r gemwaith ei hun, gyda chymorth eurofaint cynorthwyol a hyfforddwyd ganddi, ar y safle yn Nhregaron. Caiff eu creadigaethau eu gwneud o arian ac aur ac maent hefyd yn defnyddio aur Cymreig prin a gwerthfawr. Gallwch eu gwylio wrth eu gwaith yn eu gweithdai gwylio pwrpasol.