Rhowch gynnig ar fforio arfordirol yn Llansteffan

Rhowch gynnig ar fforio arfordirol yn Llansteffan

Cymru Sir Gaerfyrddin

Chwilota a Llansteffan

Darganfod mwy

Roedd gan y Celtiaid gwlwm ysbrydol â'r byd naturiol ac roeddent yn credu bod y môr yn ffynhonnell o iachâd a glanhad, o fwyd ac o gyfoeth. Felly pa ffordd well o ymgolli yn y byd hwn na thrwy chwilota? Ar brofiad o chwilota'r arfordir ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin, byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i gimychiaid, cregyn gleision, cocos, sampier gwyllt, anemonau'r môr a chwpan Robin goch. Y wobr am eich ymdrechion fydd eich cinio di-wastraff organig eich hun ar y traeth.

Mae pentref prydferth Llansteffan yn swatio rhwng glannau Aber Tywi a bryniau tonnog Sir Gaerfyrddin. Mae'n werth ymweld â thywod euraidd y prif draeth a childraeth diarffordd Bae Scott, pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi. Ewch ati i ddringo'r bryn lle saif castell Normanaidd o'r 12fed ganrif, a oedd yn rheoli croesfan yr afon. Daeth y gwasanaeth fferi olaf rhwng Llansteffan a Glanyfferi i ben yn yr 1950au, ond yn 2018, roedd gwasanaeth fferi newydd Glansteffan wedi adfer y groesfan 1,000 oed.