Lle bynnag mae pobl yn mynd, rydym yn gwneud ein marc. Nid oedd pobl hynafol Gogledd Sir Benfro yn eithriad hyn o beth, gan iddynt adael dim llai nag 8 safle cynhanesyddol yn yr ardal. Castell Henllys yw'r unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain a ailadeiladwyd ar yr union safle lle'r oedd ein hynafiaid Celtaidd yn byw 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Dilynwch y llwybr troednoeth trwy raean fflint, clai slwtshlyd a bonion coed a byddwch yn llythrennol yn cerdded yn ôl troed llwyth y Demetae.