Ceir saith Ynys: Ynys Bŷr, Gwales, Middleholm, Ynys Dewi, Sgogwm, Sgomer ac Ynys y Santes Farged. Credir bod pobl yn byw arnynt yn y cyfnod cynhanesyddol ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu ffermio ymhell i'r 20fed ganrif. Fodd bynnag, nid oes neb yn byw arnynt bellach heblaw am Ynys Bŷr, er bod llawer ohonynt yn warchodfeydd natur gyda wardeiniaid yn bresennol.
Sgomer, Ynys Dewi ac Ynys Bŷr yw'r ynysoedd mwyaf hygyrch, gyda theithiau cwch dyddiol o'r tir mawr rhwng y Pasg a mis Hydref, ond gellir gweld y lleill yn agos o gwch.
Mae Ynys Sgomer, Sgogwm a Gwales yn driawd o ynysoedd cyfagos wedi'u grwpio gyda'i gilydd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, oherwydd eu poblogaethau o balod, adar drycin Manaw a mulfrain.
Ar y llaw arall, mae Ynys Bŷr yn ynys fach hyfryd oddi ar arfordir Dinbych-y-pysgod, gyda mynachlog Sistersaidd. Mae'r mynachod yn gwneud ac yn gwerthu eu persawr lafant a'u teisennau brau eu hunain a gallwch brynu eu stampiau post a'u harian eu hunain yn y swyddfa bost.