Dathlwch fywyd pysgodyn yng Ffiesta Mecryll Aberaeron

Dathlwch fywyd pysgodyn yng Ffiesta Mecryll Aberaeron

Cymru Ceredigion

Dathlwch fywyd pysgodyn yng Ffiesta Mecryll Aberaeron

Darganfod mwy

Does dim posibl fod yna lawer o wyliau lle mae'r dathliadau yn troi o amgylch angladd. Ac mae'n debyg nad oes yr un lle mae'r angladd honno ar gyfer pysgodyn papier-mâché 20 troedfedd o hyd. Ond dyma sut y mae trigolion tref harbwr bert Aberaeron yn nodi diwedd tymor y macrell tua diwedd mis Awst bob blwyddyn. Dyma eu ffordd nhw o roi diolch am y cyflenwad parhaus o scomber scombrus – neu'r macrell cyffredin – sydd wrth gyrraedd bob haf yn darparu bwyd ac incwm ac yn dod â'r dolffiniaid i Fae Ceredigion.

Mae amserlen y diwrnod fel rheol fel a ganlyn. Mae'r cynhebrwng – sy'n cynnwys model enfawr o facrell, a gaiff ei gario gan 6 o gludwyr – yn cyfarfod y tu allan i westy'r Harbwrfeistr. Gwahoddir galarwyr i ddilyn y parti angladd ar draws y dref i Glwb Hwylio Aberaeron, lle rhoddir bendith gan y ficer lleol. Yna cynhelir gwylnos (barbeciw, cerddoriaeth fyw a bar helaeth) ac wrth i'r haul fachlud caiff ein macrell ymadawedig ei gario i'r traeth a'i amlosgi.