Mae arfordir Cymru yn enwog am ei fannau syrffio eithriadol, a gellir dadlau bod yma rai o'r goreuon yn y DU. Mae 3 milltir o dywod a graean bras yn gwneud y Borth yn lle cyffrous, ychydig yn wyllt i syrffio. Mae'r profiad gorau i'w gael adeg llanw uchel, yn enwedig os yw'n ddiwrnod stormus gydag ymchwydd mawr yn y de-orllewin. Cadwch lygad am weddillion coedwig suddedig hynafol Cantre'r Gwaelod - ar lanw isel byddwch yn gallu gweld boncyffion coed cynhanesyddol a mawn yn y tywod.