Haul Iwerddon

.

Teithlen

Haul Iwerddon

Dechrau
1. Dydd #1
Diwrnod 1

AM

Bray

Mae Swydd Wicklow yn adnabyddus am ei llwybrau cerdded, ac mae llwybr yr arfordir o Bray i Greystones yn un o'r goreuon. Fel arall, dilynwch y llwybr o Bray i ben Bray Head i fwynhau golygfeydd panoramig o Bray, Gogledd-ddwyrain Wicklow a Bae Dulyn.

PM

Black Castle

Mae adfeilion Black Castle yn sefyll ar bentir creigiog sy'n edrych allan dros arfordir Gogledd Wicklow. Wedi'i adeiladu tua 1176 yn dilyn goresgyniad y Normaniaid, mae Black Castle yn gastell ac iddo hanes cythryblus; ymosodwyd arno'n aml gan y penaethiaid lleol.

Awgrym ar gyfer cinio: Firehouse Bakery and Café

Aros dros nos yn BrookLodge a Phentref Macreddin

Swper: La Taverna Armento, BrookLodge a Phentref Macreddin

2. Dydd #2
Diwrnod 2

AM

Bae Brittas a Thraeth Curracloe

Gyrru o BrookLodge i Fae Brittas (35 munud).

Three Mile Water yw un o'r traethau gorau ar arfordir y dwyrain, a chredir mai ym Mae Brittas y glaniodd Sant Padrig gyntaf yn Iwerddon. 

Gyrru o Fae Brittas i Draeth Curracloe (55 munud).

Mae'r traeth hwn, sydd wedi ennill gwobr y Faner Las, yn ymestyn dros 11 km o Raven Point i Ballyconigar, ger Blackwater. A hwythau'n enwog am eu tywod meddal, mae'r twyni gwasgarog a'r flanced ddi-ben-draw o foresg yn dynfa i fywyd gwyllt.

 

PM

Enniscorthy

Gyrrwch o Draeth Curracloe i Enniscorthy (30 munud) ac archwilio'r dref a'r castell.

Mae gan Gastell Enniscorthy hanes cythryblus a dweud y lleiaf.

Cafodd y castell ei adeiladu'n wreiddiol yn 1190 gan y teulu Normanaidd, de Prendergast, a fu'n byw yno mewn heddwch cymharol am tua 200 mlynedd. Wedi hyn, daeth y cwestiwn ynghylch pwy oedd perchennog y castell i fod yn fater dadleuol iawn, a châi ei benderfynu'n aml trwy drais.

Awgrym ar gyfer cinio: The Wilds

Aros dros nos yng Ngwesty Riverside Park

Swper: Bwyty The Moorings, Gwesty Riverside Park

3. Dydd #3
Diwrnod 3

AM

Dinas Waterford

Gyrru o Westy Riverside Park i Ddinas Waterford (1 awr)

Ymweld â Thriongl Llychlynnaidd Waterford – yn rhan o ardal ddiwylliannol a threftadaeth y ddinas, mae'r Triongl wedi'i leoli yn ôl troed gwreiddiol yr anheddiad o'r oes Lychlynnaidd gynnar. Dywedir bod yna ‘1,000 o flynyddoedd o hanes mewn 1,000 o gamau’, gyda thriawd o amgueddfeydd yn arddangos hanes Llychlynnaidd, Canoloesol a Sioraidd y ddinas.

Awgrym ar gyfer cinio: The Granary Cafe

PM

Traeth Annestown a phrofiad chwilota

Gyrru o Ddinas Waterford i gwrdd â Marie, y Garddwr Môr, ar Draeth Annestown.

Mae Marie Power wedi bod yn cynnal gweithdai gwymon a digwyddiadau bywyd gwyllt am flynyddoedd, i gyflwyno pobl i'r modd o chwilota am wymon a bwyd gwyllt a choginio ar y traeth, y we ecolegol ehangach ar y glannau caregog, a ffyrdd cynaliadwy o chwilota.

Gyrru o Draeth Annestown i Westy Cliff House lle byddwch yn aros dros nos.

Swper: Bwyty Gwesty Cliff House

4. Dydd #4
Diwrnod 4

AM

Sant Declan ac Ardmore

Yn y 5ed ganrif, darganfu Sant Declan bentref Ardmore – dywedir iddo gael ei arwain yno gan garreg a gludwyd ar y tonnau – a sefydlodd fynachlog. Adfeilion y fynachlog hon yw anheddiad Cristnogol hynaf Iwerddon. Mae nifer o safleoedd ei ddinas fynachaidd yn dal i fodoli heddiw.

Mae'r daith 4 km ar hyd y clogwyni, sy'n dechrau ac yn gorffen yn y pentref, yn werth ei dilyn i ymweld â Ffynnon Sant Declan, lle mae pererinion wedi talu teyrnged ers cannoedd o flynyddoedd ar 24 Gorffennaf, sef dydd gŵyl y sant.

PM

Coumshingaun

Mae Coumshingaun yn un o'r enghreifftiau gorau o beiran (neu ‘coum’ yn y Wyddeleg) yn Ewrop, a dyma dirnod mwyaf adnabyddus Mynyddoedd Comeragh. Pant siâp cadair freichiau yn ochr mynydd yw peiran, lle roedd rhewlif wedi ffurfio.

Yma gallwch fynd ar Daith Gerdded Gylchol Coumshingaun, sy'n llwybr cymedrol 7.5 km o hyd o amgylch cefnen a llwyfandir yr amffitheatr naturiol hon, lle cewch olygfeydd gwefreiddiol o'r loch tywyll 365 m islaw.

Diwedd