Haul Iwerddon

.

**Itinerary**

Haul Iwerddon

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Llun

AM – Gyrru o adre i Bray.

Gwybodaeth am Benrhyn Bray: Mae Swydd Wicklow yn adnabyddus am ei llwybrau cerdded, ac mae'r llwybr arfordirol o Bray i Greystones ymhlith y goreuon. Mae'r daith 7 km ar hyd y clogwyni yn rhedeg yn agos at reilffordd Dulyn-Wexford, a adeiladwyd yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd y llwybr gan weithwyr y rheilffordd er mwyn cludo offer a deunyddiau i'r lein islaw, ond roeddent hefyd wedi creu un o'r llwybrau cerdded harddaf ar hyd clogwyni arfordir y dwyrain. Os bydd yn well gennych beidio â cherdded i Bray, gallwch ddal y trên o Greystones.

Fel dewis arall, dilynwch y llwybr o Bray i ben Penrhyn Bray i gael golygfeydd panoramig o Bray, Gogledd-ddwyrain Wicklow a Bae Dulyn, yn ogystal â'r mynyddoedd cyfagos, y Great Sugar Loaf a'r Little Sugar Loaf.

Cyfeiriad a pharcio: Talu ac arddangos ar Strand Road gyferbyn â Chasino Star and Leisure. Neu gallwch barcio ym Maes Parcio Cliff Walk, Raheen Park, Newcourt, Bray, Swydd Wicklow – talu ac arddangos eto.


PM –
Gyrru i Black Castle.

Cyfeiriad: Black Castle, S Quay, Corporation Lands, Swydd Wicklow

 

Gwybodaeth am Black Castle: Mae adfeilion Black Castle yn sefyll ar bentir creigiog sy'n edrych allan dros Dref Wicklow ac arfordir Gogledd Wicklow. Adeiladwyd Black Castle tua 1176 yn dilyn goresgyniad y Normaniaid, ac mae'n gastell arall ac iddo hanes cythryblus; ymosodwyd arno'n aml gan y penaethiaid lleol, penaethiaid y llwythi O’Toole ac O’Byrne yn bennaf. Cafodd ei losgi gan y llwyth O’Byrne yn 1295 ac yn 1315. Llwyddodd y castell i oroesi tan tua 1645, pan ymosodwyd arno unwaith eto a'i ddymchwel yn y pen draw.

 

Awgrym ar gyfer cinio ar y ffordd 'nôl o Black Castle: Becws a Chaffi Firehouse

Cyfeiriad: Old Delgany Inn, Delgany, Swydd Wicklow, A63 T285

Gwybodaeth: caffi a becws artisan sy'n gweini brechdanau, cawl, pizzas a bara fflat cartref.
*cadwch eich derbynebau*

 

Aros dros nos yn BrookLodge a Phentref Macreddin

Cyfeiriad: Dwyrain Macreddin, Pentref Macreddin, Swydd Wicklow, Y14 A362

Gwybodaeth: gwesty gwledig moethus a leolir ym mhentref prydferth Macreddin ac a amgylchynir gan gefn gwlad godidog Wicklow.

Cofrestru: 16:00
Ymadael: 11:00

8:45pm Swper: La Taverna Armento, BrookLodge a Phentref Macreddin
Gwybodaeth: Mae gan La Taverna Armento fwydlen lawn o Dde'r Eidal yn seiliedig ar y bwydydd gwych sy'n dod o'r cefn gwlad o amgylch Pentref Armento yn nhalaith Basilicata.

Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Mawrth

AM
Gyrru o BrookLodge i Fae Brittas (35 munud)

Cyfeiriad: Maes Parcio Bae Brittas, Brittas, Swydd Wicklow.
Gofalwch fod gennych newid ar gyfer y maes parcio.

Gwybodaeth am Fae Brittas: Three Mile Water yw un o'r traethau gorau ar arfordir y dwyrain, a chredir mai ym Mae Brittas y glaniodd Sant Padrig gyntaf yn Iwerddon. Heb unrhyw bentiroedd i darfu ar rythm y tonnau'n torri ar y traeth, mae'r darn 5 km o hyd hwn yn berffaith ar gyfer nofio, hwylio a cherdded. Am chwe wythnos yn ystod yr haf, Bae Brittas yw maes chwarae natur, lle gall plant rasio trwy'r twyni a dod allan yn syth ar y traeth. Fodd bynnag, am weddill y flwyddyn mae'r traeth yn lle perffaith, ar y cyfan, i fyfyrio ar eich pen eich hun.

Gyrru o Fae Brittas i Draeth Curracloe (55 munud)

Cyfeiriad: Coolrainey, Curracloe, Swydd Wexford
Parcio: Parcio di-dâl ger y traeth

Gwybodaeth am Draeth Curracloe: Mae'r traeth hwn, sydd wedi ennill gwobr y Faner Las, yn ymestyn dros 11 km o Raven Point i Ballyconigar, ger Blackwater. Mae'n enwog am ei dywod meddal, ac mae'r twyni gwasgarog a'r flanced ddi-ben-draw o foresg yn dynfa i fywyd gwyllt, yn ogystal â'r ymwelwyr, sy'n cael pleser yn rholio i lawr eu llethrau! Roedd Traeth Curracloe yn ddewis amgen da ar gyfer Traeth Omaha yn Normandi pan gafodd golygfeydd agoriadol Saving Private Ryan eu ffilmio yno.

PM
Gyrru o Draeth Curracloe i Enniscorthy (30 munud)


Cyfeiriad: Castle Hill, Enniscorthy, Swydd Wexford

Parcio: nid oes yna le i barcio'n union ger Castell Enniscorthy, ond mae yna lawer o leoedd parcio cyhoeddus am dâl mewn sawl lleoliad yn y dref. Mae yna faes parcio di-dâl ar gyfer ceir a bysiau yn y National 1798 Rebellion Centre, Y21 PY03 (taith 9 munud ar droed i'r castell).

 

Awgrym ar gyfer cinio (taith 5 munud ar droed o Gastell Enniscorthy): The Wilds
*cadwch eich derbynebau*

Cyfeiriad: 23 Weafer St, Enniscorthy, Swydd Wexford, Y21 K702

Gwybodaeth: caffi arobryn sy'n gweini coffi artisan, te dail rhydd, cacennau cartref a bwydlen ginio dymhorol.


Gwybodaeth am
Gastell Enniscorthy: *gwisgwch fasg wyneb trwy gydol eich ymweliad*

Mae gan Gastell Enniscorthy hanes cythryblus a dweud y lleiaf.

Cafodd y castell ei adeiladu'n wreiddiol yn 1190 gan y teulu Normanaidd, de Prendergast, a fu'n byw yno mewn heddwch cymharol am tua 200 mlynedd. Wedi hyn, daeth y cwestiwn ynghylch pwy oedd perchennog y castell i fod yn fater dadleuol iawn, a châi ei benderfynu'n aml trwy drais. Cafodd ei hawlio gan y Gwyddelod yn 1375, ei ailfeddiannu gan y Saeson yn 1536, ei losgi i'r llawr gan y Gwyddelod yn 1569, ei roi'n rhodd gan y Frenhines Elizabeth yn 1589, ei ddal dan warchae gan luoedd Cromwell yn 1649, ac yna ei ddefnyddio fel carchar yn ystod gwrthryfel 1798. Mae 'nawr yn gartref i Amgueddfa Swydd Wexford.

Aros dros nos yng Ngwesty Riverside Park

Cyfeiriad: The Promenade, Enniscorthy, Swydd Wexford, Y21 T2F4

Gwybodaeth: Mae Riverside Park yn westy 4 seren yn Wexford, sy'n swatio ar lannau Afon Slaney yn nhref brydferth Enniscorthy, nid nepell o'r castell.

Cofrestru: 16:00
Ymadael: 11:00

8:30pm Swper: Bwyty The Moorings, Gwesty Riverside Park
Gwybodaeth: Yn defnyddio cynnyrch lleol Wexford ac yn edrych dros Afon Slaney.
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

3. **Day** #3
Diwrnod 3, dydd Mercher

AM

Gyrru o Westy Riverside Park i Ddinas Waterford (1 awr)

Cyfeiriad ac opsiynau o ran parcio: Maes Parcio Exchange Street, Exchange St, Waterford, X91 VK09, Iwerddon; mae yna ddigon o feysydd parcio o gwmpas y lle yn Ninas Waterford, felly dewiswch pa un bynnag sydd hawsaf.

Ymweld â Thriongl Llychlynnaidd Waterford
Gwybodaeth: Er nad oes unrhyw amheuaeth bod y Llychlynwyr wedi cael eu denu i Iwerddon i ysbeilio'r mynachlogydd cyfoethog, roeddent yn llawer mwy na rhyfelwyr gwyllt. Wrth i amser fynd yn ei flaen, aethant ati i aneddu, ffurfio cynghreiriaid a sefydlu llwybrau masnachu – gan ddod yn rhan bwysig o hanes Iwerddon. Yn 914, glaniodd fflyd fawr o oresgynwyr yn yr hyn yr ydym 'nawr yn ei alw'n Ddinas Waterford. Mae Triongl Llychlynnaidd Waterford, sy'n rhan o ardal ddiwylliannol a threftadaeth y ddinas, wedi'i leoli yn ôl troed gwreiddiol yr anheddiad. Dywedir bod yna ‘1,000 o flynyddoedd o hanes mewn 1,000 o gamau’, gyda thriawd o amgueddfeydd yn arddangos hanes Llychlynnaidd, Canoloesol a Sioraidd y ddinas.

Awgrym ar gyfer cinio: The Granary Cafe
Cyfeiriad: Hanover Street, Dinas Waterford (taith 5 munud ar droed o'r Triongl Llychlynnaidd)
Gwybodaeth: Yng nghanol Dinas Waterford, mae The Granary wedi'i leoli mewn ysgubor hardd a hudolus ar ymyl y cei, a adeiladwyd yn 1870. Mae'n defnyddio cynhwysion ffres, tymhorol, a'r cyfan yn lleol. Mae ganddo ddewis o salad, brechdanau, prif gyrsiau a phwdinau.
*cadwch eich derbynebau*

PM

Gyrru o Ddinas Waterford i gwrdd â Marie, y Garddwr Môr erbyn 2:30 (taith 26 munud mewn car – awgrymir y dylid gadael Waterford ychydig cyn 2 o'r gloch)

Cyfeiriad: Traeth Annestown, Copper Coast – parciwch ym maes parcio'r Strand: R675, Swydd Waterford

Gwybodaeth am y Garddwr Môr: Mae Marie Power wedi bod yn cynnal gweithdai gwymon a digwyddiadau'n ymwneud â bywyd gwyllt ers nifer o flynyddoedd, a hynny yn wirfoddol. Mae 'nawr yn cynnal gweithdai yn rheolaidd, gan gyflwyno pobl i sut i chwilota am wymon a bwyd gwyllt, a'u coginio, i'r we ecolegol ehangach ar y glannau caregog, ac i ffyrdd cynaliadwy o chwilota.

Rhif ffôn symudol ar gyfer Marie: 086 8124275

Byddwch yn cymryd rhan yn y gweithdy Go Wild with Seaweed: dwyawr o chwilota gyda Marie ar Draeth Annestown, lle byddwch yn dysgu am wymon ac yn coginio/bwyta eich gwymon eich hun.

Pwysig: gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd (dillad cynnes, ac ati); bydd arnoch angen esgidiau gwrth-ddŵr hefyd – esgidiau glaw neu hen esgidiau cerdded/rhedeg.

Gyrru o Draeth Annestown i Westy'r Cliff House (1 awr 15 munud)

Aros dros nos yng Ngwesty Cliff House

Cyfeiriad: Middle Road, Dysert, Ardmore, Swydd Waterford, P36 DK38

Gwybodaeth: gwesty pum seren, moethus, preifat a ystyrir yn un o'r gwestai moethus bach gorau yn Iwerddon.

Cofrestru: 16:00
Ymadael: 12:00

8pm Cinio yn The House Restaurant yng Ngwesty'r Cliff House

Gwybodaeth: Cuisine Gwyddelig â seren Michelin. Mwynhewch fwydlen blasu wyth cwrs; byddwn ni'n talu eich bil.

4. **Day** #4
Diwrnod 4, dydd Iau

AM
Ymweld â St Declan ac Ardmore gyda thaith gerdded ddewisol

Gwybodaeth: Yn y 5ed ganrif, darganfu Sant Declan bentref Ardmore – dywedir iddo gael ei arwain yno gan garreg ar y tonnau – a sefydlodd fynachlog. Adfeilion y fynachlog hon yw anheddiad Cristnogol hynaf Iwerddon. Mae nifer o safleoedd ei ddinas fynachaidd yn dal i fodoli heddiw.

Mae yno dŷ gweddi yn dyddio o'r 8fed ganrif, y credir bod y sant wedi'i gladdu oddi tano, ynghyd â thŵr crwn 29 m o uchder o'r 12fed ganrif, a arferai fod yn glochdy ac yn noddfa. Mae yna hefyd gadeirlan o'r 12fed ganrif ac iddi arcedau Romanésg â ffigurau'n darlunio golygfeydd o'r Hen Destament a'r Testament Newydd, fel ei gilydd – sy'n anarferol iawn yn Iwerddon. Mae yna ddwy garreg Ogam yn y gadeirlan, sy'n dangos y math cynharaf o ysgrifen yn Iwerddon.

 

Mae'r daith 4 km ar hyd y clogwyni, sy'n dechrau ac yn gorffen yn y pentref, yn werth ei dilyn i ymweld â Ffynnon Sant Declan, lle mae pererinion wedi talu teyrnged ers cannoedd o flynyddoedd ar 24 Gorffennaf, sef dydd gŵyl y sant.

Dewisol: Ar eich ffordd adre, gyrrwch o Ardmore i Faes Parcio Coumshingaun Lough (42 munud).

Cyfeiriad: Maes Parcio Coumshingaun Lough, Cutteen, Swydd Waterford

Gwybodaeth am Coumshingaun: Mae Coumshingaun yn un o'r enghreifftiau gorau o beiran (neu ‘coum’ yn y Wyddeleg) yn Ewrop, a dyma dirnod mwyaf adnabyddus Mynyddoedd Comeragh. Pant siâp cadair freichiau yn ochr mynydd yw peiran, lle roedd rhewlif wedi ffurfio.

Os bydd arnoch awydd, gallwch fynd ar Daith Gylchol Coumshingaun, sy'n llwybr cymedrol 7.5 km o hyd o amgylch cefnen a llwyfandir yr amffitheatr naturiol hon, lle cewch olygfeydd gwefreiddiol o'r loch tywyll 365 m islaw. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld mor bell â Phont Afon Suir yn Ninas Waterford a Hook Head yn Swydd Wexford.

Roedd gan y lleidr pen-ffordd o'r 18fed ganrif, William Crotty, gysylltiad agos â'r ardal am iddo fod yn cuddio mewn ogofâu yma rhag y gyfraith. Fodd bynnag, ni chafodd ddiwedd hapus. Yn y pen draw, cafodd ei ddal, ei roi ar brawf, a'i grogi; rhoddwyd ei ben ar bigyn y tu allan i garchar y sir, yn rhybudd. Os bydd gennych amser, gallwch chwilio am ei drysor yn y loch a'r ogof a enwyd ar ei ôl.

**End**