Papur newydd yr i

.

Teithlen

Papur newydd yr i

Dechrau
1. Dydd #1
Diwrnod 1

Ceinewydd

Gyrru i Geredigion a mynd i Geinewydd am bryd o fwyd gyda'r nos ac i geisio gweld dolffiniaid.

Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, sydd â phoblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin digyffwrdd, a'r dyfroedd glân.

 Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: Pysgod a sglodion o'r Lime Crab, sydd wedi'i leoli wrth ymyl yr harbwr.

Aros Dros Nos yn Cuddfan yn Wildernest.

2. Dydd #2
Diwrnod 2,

Abaty Ystrad Fflur a Phyllau Teifi

Ymweld ag Abaty Ystrad Fflur a chynnwys taith gerdded ddewisol i Byllau Teifi, llwybr cylchol naw milltir trwy Fynyddoedd Cambria – oddeutu pedair awr.

Mae tarddiad Afon Teifi, un o afonydd hiraf Cymru, i'w ganfod yng ngogledd Ceredigion. Mae'r llyn tawel, Llyn Teifi, ynghyd â'r llynnoedd eraill – Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant – yn gorwedd ynghudd yn y bryniau, ar hyd Llwybr y Mynachod o Abaty Ystrad Fflur.

Aros dros nos yn Cuddfan yn Wildernest

Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: Y Falcondale – Llanbedr Pont Steffan; The Pepper Pot, Penwig, a'r Blue Bell – i gyd yng Ngheinewydd 

3. Dydd #3
Diwrnod 3

AM

Tyddewi

Ymadael â Wildernest a gyrru i Dyddewi (oddeutu awr a 40 munud) ac ymweld ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Mae dinas ac eglwys gadeiriol Tyddewi yn dominyddu penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r eglwys gadeiriol wedi bod yn fan cysegredig ers dros 800 mlynedd.

 

PM

Mwynhau prynhawn yn chwilota ar yr arfordir gyda’r arbenigwr, Craig Evans, sy’n arwain cyrsiau proffesiynol ar hyd arfordiroedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cofrestru yng ngwesty Tŵr y Felin, Tyddewi Sir Benfro.

Ymweld ag Abereiddi ar y ffordd i gael cinio yn y Sloop Inn.

Mae Abereiddi, neu'r Shinc, yn hen chwarel y cefnwyd arni ac a foddwyd yn 1910 wrth i'r graig a oedd yn ei gwahanu o'r môr gael ei chwalu, gan adael i'r tonnau lifo i mewn. Heddiw, mae'r Lagŵn Glas yn fan poblogaidd i ddringwyr ac i glybiau y mae eu haelodau'n neidio oddi ar y creigiau i mewn i'r dŵr oer, dwfn hwn â'i liw glas nodweddiadol.

4. Dydd #4
Diwrnod 4

AM

Traeth Marloes

Ymadael â gwesty Tŵr y Felin a gyrru i Draeth Marloes a cherdded yr hanner milltir ar hyd y clogwyni i lawr i'r traeth, lle cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm.

PM

Llandeilo

Gyrru i Landeilo, oddeutu awr a 30 munud mewn car ac archwilio'r dref farchnad dlos, lle daw'r byd ffermio a steil cefn gwlad ynghyd, cyn cofrestru yn y Cawdor.

Aros dros nos yn y Cawdor.

Swper yn y Cawdor.

5. Dydd #5
Diwrnod 5

AM

Llyn y Fan Fach

Ymadael â'r Cawdor a mynd i Lyn y Fan Fach, lle byddwch yn dod o hyd i lyn rhewlifol hudolus Llyn y Fan Fach ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae yna nifer o lwybrau cerdded gwahanol yn y lleoliad ysblennydd hwn, felly dewiswch un sy'n gweddu orau i'ch gallu.

Diwedd