Gyrru o adre i Geredigion
Ceinewydd i gael pryd gyda'r nos a gwylio'r dolffiniaid (dilynwch [SA45 9NR] i gyrraedd maes parcio'r harbwr – parcio am dâl; mae yna beiriant cardiau yn y maes parcio hwn os na fydd gennych newid)
Gwybodaeth: Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, gyda'i boblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin heb ei gyffwrdd, a'r dyfroedd glân.
Mae'n bosibl gweld dolffiniaid trwyn potel trwy gydol y flwyddyn, ond mae'r rhagolygon yn well yn yr haf pan fo digon o fecryll yn y dŵr iddynt eu bwyta. Ac mae Ceinewydd yn fan canolog i ddolffiniaid, fwy neu lai, lle mae yna siawns go dda y byddwch yn eu gweld o wal yr harbwr.
*Awgrym – o brofiad, yr adeg orau i weld dolffiniaid yw diwedd y prynhawn a gyda'r nos.
Awgrym ar gyfer pryd gyda'r nos: Pysgod a Sglodion o'r Lime Crab: wedi'i leoli nesaf at yr harbwr
*Fel y trafodwyd, beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud ar gyfer eich pryd gyda'r nos, cadwch eich derbynneb a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.
Aros dros nos yn Cuddfan yn Wildernest
Cyfeiriad: Wildernest, Blaengor, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru SA48 7QR
Eich gwesteiwyr yw Hugh a Jude, a chan eu bod yn byw ar y safle, byddant yn cwrdd â chi pan fyddwch yn cyrraedd.
Yr amser cofrestru ar ddydd Sadwrn yw 4pm
Yr amser ymadael ar ddydd Llun yw 10:30am
Instagram: @wildernestwales
Facebook
Ymweld ag Abaty Ystrad Fflur a thaith gerdded ddewisol i Lynnoedd Teifi
Abaty Ystrad Fflur i Lynnoedd Teifi – taith gylchol 9 milltir trwy Fynyddoedd Cambria – tua 4 awr. Y man cychwyn yw'r maes parcio ger Abaty Ystrad Fflur.
Cyfeiriad: Heol yr Abaty, Ystrad Fflur, Ystrad Meurig, SY25 6ES
Gwybodaeth: Mae tarddiad Afon Teifi, un o afonydd hiraf Cymru, i'w ganfod yng ngogledd Ceredigion. Mae'r llyn tawel, Llyn Teifi, ynghyd â'r llynnoedd eraill – Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant – yn gorwedd ynghudd yn y bryniau, ar hyd Llwybr y Mynachod o Abaty Ystrad Fflur.
Aros dros nos yn Cuddfan yn Wildernest
Awgrymiadau ar gyfer pryd gyda'r nos: y Falcondale – Llanbedr Pont Steffan; The Pepper Pot, Penwig, a'r Blue Bell – i gyd yng Ngheinewydd
Mae yna hefyd ddwy archfarchnad yn Llanbedr Pont Steffan: Co-op a Sainbury’s
*Fel y trafodwyd, beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud ar gyfer eich pryd gyda'r nos, cadwch eich derbynneb a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.
Ymadael erbyn 10:30am
AM Gyrru i Dyddewi (tua 1 awr 40 munud)
Ymweld ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi (dilynwch [SA62 6RD] i gyrraedd yno – mae yna faes parcio di-dâl ger tafarn The Bishop wrth i chi fynd heibio iddi ar y chwith; yn union o'ch blaen yn y maes parcio byddwch yn gweld yr eglwys gadeiriol)
Yn agored: 10am-3pm
Gwybodaeth: Mae dinas ac eglwys gadeiriol Tyddewi yn dominyddu penrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Dyma fan gorffwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac mae'r eglwys gadeiriol wedi bod yn fan cysegredig i bererinion ers dros 800 mlynedd. Yn yr Oesoedd Canol, dywedid bod dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Rufain.
Mae'r eglwys gadeiriol bresennol wedi'i hadeiladu ar safle'r fynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6ed ganrif i addysgu cenhadon i ledaenu Cristnogaeth. Wrth i enw da Dewi Sant ledaenu, tyfodd ei fynachlog a datblygodd cymuned. Yn anffodus, tynnodd y fynachlog sylw'r Llychlynwyr hefyd, a'i hysbeiliodd sawl gwaith yn ystod y canrifoedd dilynol. Yn y pen draw, cipiodd y Normaniaid y fynachlog a
dechrau adeiladu'r eglwys gadeiriol bresennol yn 1181. A hithau wedi goroesi ei thŵr yn disgyn, daeargryn a'r Diwygiad Protestannaidd, mae'r eglwys gadeiriol yn parhau i swyno ac ysbrydoli ei hymwelwyr, hyd yn oed ar ôl 800 mlynedd.
1.30 PM: Chwilota arfordirol gyda Craig Evans
Gwybodaeth: Bydd Craig yn cwrdd â chi ym maes parcio eich gwesty, Tŵr y Felin [SA62 6QT] a gallwch ei ddilyn i'r safle chwilota cyntaf. Byddwn yn awgrymu dod â newid ar gyfer y maes parcio – gellir cysylltu â Craig ar 07989 143868
Oherwydd amserau'r llanw a rhagolygon y tywydd, nid yw'r profiad chwilota llawn yn bosibl ar y dyddiad hwn; fodd bynnag, bydd y canlynol yn dal i fod ar gael: Chwilota am blanhigion arfordirol a gwymon. Bydd Craig yn dod â chocos, cregyn gleision, cregyn blacen, ac ati, ac yn eu coginio fel arfer ar Stof Solfach, a elwir hefyd yn Gannwyll Sweden.
Bydd y lleoliadau'n cynnwys traethau Nolton Haven a Niwgwl.
Instagram: @coastal_foraging_with_craig
Facebook: @CoastalCraig
Aros dros nos yng ngwesty Tŵr y Felin, Tyddewi, Sir Benfro
Cyfeiriad: Tŵr y Felin, Ffordd Caerfai, Tyddewi, Hwlffordd SA62 6QT
Gwybodaeth: Mae yna le parcio di-dâl ar y safle.
Noder: mae gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob ardal gymunedol megis y dderbynfa a'r cyntedd
Brecwast yn gynwysedig
Gellir cofrestru o 4pm:
Rhaid ymadael erbyn 11am
Instagram: @twryfelinhotel_stdavids
Facebook: @TwryFelinHotel
Twitter: @TwrYFelin
Ymweliad dewisol ag Abereiddi ar y ffordd i swper
(dilynwch [SA62 6DT] i gyrraedd yno – mae'n £4 i barcio'r car yn ystod y dydd)
Gwybodaeth: Mae Abereiddi, neu Y Shinc, yn hen chwarel, fymryn i'r gogledd o'r traeth ym Mae Abereiddi, a gafodd ei gadael a'i llenwi â dŵr yn 1910 wrth i'r graig a oedd yn ei gwahanu o'r môr gael ei chwalu, gan adael i'r tonnau lifo i mewn.
Heddiw, mae'r Shinc yn fan poblogaidd i ddringwyr ac i glybiau y mae eu haelodau'n neidio oddi ar y creigiau i mewn i'r dŵr oer, dwfn hwn â'i liw glas nodweddiadol. Gall fod yn ddiddorol iawn gwylio'r campau hyn, hyd yn oed i'r rheiny nad ydynt am gymryd rhan. Caiff y Shinc a'r morlin cyfagos eu
defnyddio hefyd gan grwpiau arforgampau a chaiacio.
Mae'r ardal amgylchynol yn dal i fod yn frith o adfeilion cyn-adeiladau'r chwarel, yn cynnwys y rhes o dai gweithwyr. Mae'r ardal yn boblogaidd ymhlith cerddwyr, gyda Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio i'r Shinc, a llwybrau syfrdanol o hardd i'w cael ar hyd pennau'r clogwyni gerllaw.
Swper yn y Sloop Inn: Bwrdd i ddau wedi'i archebu ar gyfer 7pm
Cyfeiriad: Porth-gain, Hwlffordd SA62 5BN – mae digon o leoedd parcio di-dâl ar gael
*Cadwch eich derbynebau, a byddwn ni'n ad-dalu costau eich prydau gyda'r nos i chi.
Instagram: @sloopporthgain
Facebook: @SloopPorthgain
Ymadael erbyn 11am
AM: Gyrru i Draeth Marloes a cherdded am hanner milltir ar hyd y clogwyni i'r traeth – taith o tua 50 munud mewn car
(dilynwch [SA62 3BH ] i gyrraedd yno – maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd angen newid)
Gwybodaeth: Cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang â digon o le, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân a pherdys, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm. Mae'r tywod gwastad yn berffaith ar gyfer gemau traeth, ac mae'r dŵr, sydd mor glir â chrisial, yn dda ar gyfer syrffio (ond gwyliwch rhag y llanw terfol). Natur sy'n darparu'r holl ddifyrrwch yma – nid unrhyw arcedau.
Gyrru i Landeilo (dilynwch [SA19 6EN] i gyrraedd yno) tua 1 awr 30 munud mewn car
Aros dros nos yn y Cawdor, Sir Gaerfyrddin
Cyfeiriad: Stryd Rhosmaen, Llandeilo SA19 6EN
Gwybodaeth: Mae gan y Cawdor faes parcio preifat, wedi'i leoli y tu cefn i'r gwesty. Gallwch stopio'r car y tu allan i adael eich bagiau wrth y dderbynfa, a byddwn yn eich cyfeirio at ein cyfleusterau parcio. Nodwch fod y Cawdor yn adeilad rhestredig ac nad oes ynddo lifft.
Brecwast yn gynwysedig
Gellir cofrestru o 3pm ymlaen:
Rhaid ymadael erbyn 11am
Swper yn y Cawdor: Bwrdd i ddau wedi'i archebu ar gyfer 7:30pm
*Cadwch eich derbynebau, a byddwn ni'n ad-dalu costau eich prydau gyda'r nos i chi.
Twitter: @TheCawdor
Instagram: @thecawdor
Ymadael erbyn 11am
Dringo Llyn y Fan Fach
Gyrru i'r maes parcio ger Llanddeusant (dilynwch [SA19 9UN] i gyrraedd yno)
Llwybr cylchol 9 milltir o hyd o'r maes parcio ger Llanddeusant – tua 4.5 awr
Gwybodaeth: Byddwch yn dod o hyd i lyn rhewlifol hudolus Llyn y Fan Fach ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r llyn yn gysylltiedig â'r chwedl ‘Merch Llyn y Fan’ o'r 14eg ganrif. Mae'n adrodd hanes ffermwr ifanc sy'n priodi menyw brydferth a ddaeth allan o'r llyn ac sy'n addo peidio â'i tharo deirgwaith. Wedi iddi gael ei tharo deirgwaith (nid mewn dicter serch hynny), mae'n dychwelyd i'r llyn. Daw yn ei hôl am gyfnod byr i addysgu ei meibion, sy'n mynd yn eu blaenau i fod yn feddygon; erbyn heddiw rydym yn adnabod y meibion fel Meddygon Myddfai.
Gyrru adre
Cadwch y derbynebau am bob pryd gyda'r nos, parcio (lle bo hynny'n bosibl), a phetrol, ynghyd â nodyn o gyfanswm y milltiroedd, a byddwn yn ad-dalu'r costau i chi.