Cysylltiadau Llenyddol

Cysylltiadau Llenyddol

Ymgollwch yn y delweddau lliwgar a ysgogir gan straeon yr awduron enwog hyn ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yng Nghymru, a Wicklow, Waterford a Wexford yn Iwerddon.

Gwnewch gwpanaid o de i chi'ch hun, swatiwch yn glyd a phrofwch y Llwybrau Celtaidd drwy eiriau hiraethus yr awduron arbennig hyn o gysur eich cartref eich hun…

Cartref Dylan Thomas, Sir Gaerfyrddin

Cartref Dylan Thomas, Sir Gaerfyrddin

Dylan Thomas 

Cartref Dylan Thomas, Sir Gaerfyrddin

Mae bron yn amhosib sôn am dref Talacharn heb gyfeirio at 'Dylan Thomas' yn yr un gwynt. Mae'n gyfystyr â'r dref – roedd yn byw yma, roedd wrth ei fodd yma, bu'n yfed mewn llawer o'i thafarndai ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Sant Martin. Y Boathouse yw lle'r oedd Dylan yn byw gyda'i wraig a'i deulu ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Ar y llwybr ato y mae'r sied ysgrifennu sy'n edrych dros aber afon Taf, lle ysgrifennodd Thomas ei ddrama radio enwog, 'Under Milk Wood’. Mae wedi cael ei gadael fel petai Thomas newydd fynd allan am ychydig o awyr iach.

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Roald Dahl
Llwybr Arfordir Sir Benfro

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn troi ac yn troelli am 186 o filltiroedd o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Mae'n cynnwys bron pob math o dirwedd arfordirol, o bentiroedd o greigiau folcanig, bwâu calchfaen, tyllau chwythu a staciau môr, i gilfachau rhewlifol cul. Caiff llinellau o glogwyni tywodfaen coch a llwyd eu gwahanu gan draethau tywodlyd. Mae'r llwybr yn dangos digonedd o flodau arfordirol a bywyd adar, yn ogystal â thystiolaeth o weithgarwch dynol o'r cyfnod Neolithig hyd at y presennol.
Mae'n hawdd gweld pam mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn lle poblogaidd i ymwelwyr o bob math, gan gynnwys un o awduron mwyaf poblogaidd Prydain. Bob Pasg, arferai teulu Roald ymweld â thŷ a brynwyd ganddynt yn ddiweddarach o'r enw The Cabin, yn Ninbych-y-pysgod, sy'n parhau i fod ym meddiant y teulu heddiw. Mae 'My Year', a gyhoeddwyd ym 1991, yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn seiliedig ar ddyddiadur a ysgrifennodd Dahl yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd, lle mae'n cofio gydag anwyldeb ei wyliau Pasg yn Ninbych-y-pysgod.

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

R.S. Thomas
Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion
Canolbwyntiodd y bardd Cymreig a'r offeiriad Anglicanaidd, R.S. Thomas (1913-2000), ei waith o amgylch tirwedd naturiol a phobl Cymru. Dywedir i un o'i gerddi enwocaf, 'Welsh Landscape', gael ei hysbrydoli gan harddwch Ceredigion, o'r mynyddoedd i'r eglwysi. Ymgollwch yng ngherddi Thomas a gadewch i'ch hun gael eich cludo i Abaty Ystrad Fflur, 'Abaty Westminster Cymru’.
Mae Abaty Ystrad Fflur, neu yn Lladin 'Strata Florida', wedi sefyll mewn llonyddwch mynachaidd ar lannau Afon Teifi ers 1201. Wedi'i sefydlu gan fynachod Sistersaidd, yn fuan daeth yn eglwys enwocaf Cymru ar ôl Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn gonglfaen yn niwylliant Cymru. Mae'r adfeilion yn rhoi ambell i awgrym ynghylch hen gyfoeth yr Abaty, fel y drws cerfiedig rhamantus a arferai gysylltu'r corff â'r uwch allor. Dyma fan gorffwys 11 tywysog Dinefwr a'r bardd Dafydd ap Gwilym.

Llynnoedd Teifi, Ceredigion

Llynnoedd Teifi, Ceredigion

Caroline Clark
Llynnoedd Teifi, Ceredigion
 Mae tarddle Afon Teifi, un o'r afonydd hiraf yng Nghymru, i'w ganfod yng ngogledd Ceredigion. Mae Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill - Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant - yn gorwedd ynghudd yn y bryniau, ar lwybr anghysbell y mynachod o Abaty Ystrad Fflur. Y grŵp hudolus hwn o lynnoedd rhewlifol dwfn yw'r lle perffaith i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd bob dydd.
Nid yw'n anodd deall pam fod y man prydferth hwn yn ysbrydoliaeth i'r bardd Cymreig, Caroline Clark. Mae 'Out at the Bright Edge', casgliad o gerddi sy'n dwyn yr enw annwyl 'caneuon serch i dirwedd' gogledd Ceredigion, wedi'u hysbrydoli gan hanes, straeon a bywyd yr ardal rhwng afonydd Dyfi a Teifi.

Castell Enniscorthy, Wexford

Castell Enniscorthy, Wexford

Colm Tóibín
Castell Enniscorthy, Wexford
Ganed Colm Tóibín yn Enniscorthy, Swydd Wexford. Mae Tóibín, sy'n adnabyddus am ei ryddiaith farddonol, yn defnyddio ei sir frodorol i ddatblygu ymdeimlad cryf o ardal leol yn ei waith a elwir yn nofelau "Wexford" - 'The Heather Blazing', 'The Blackwater Lightship', 'Nora Webster' ac yn fwyaf nodedig, 'Brooklyn’.

Drwy'r nofelau hyn cewch ddarlun o Gastell Enniscorthy, sydd yn eiconig ac yn drwm gan hanes cythryblus.
Adeiladwyd y Castell yn wreiddiol ym 1190 gan deulu Norman De Prendergast, a fu'n byw yno'n gymharol heddychlon am tua 200 o flynyddoedd. Wedi hyn bu llawer o ddadlau ynglŷn â phwy oedd yn berchen ar y Castell ac yn aml byddai hyn yn cael ei setlo trwy drais. Cafodd ei hawlio gan y Gwyddelod ym 1375, cafodd ei gymryd yn ôl gan y Saeson ym 1536, llosgwyd y castell gan y Gwyddelod ym 1569, cafodd ei roi'n rhodd gan y Frenhines Elisabeth ym 1589, ei roi dan warchae gan luoedd Orwellaidd ym 1649 ac wedyn ei ddefnyddio fel carchar yn ystod Gwrthryfel 1798. Mae bellach yn gartref i Amgueddfa Swydd Wexford.

Lough Tay, Wicklow

Lough Tay, Wicklow

Cecelia Ahern
Lough Tay, Wicklow
Cecelia Ahern o Iwerddon yw awdur y nofel 'PS, I Love You', a gyrhaeddodd frig y gwerthiannau llyfrau yn fyd-eang, ac a ysbrydolwyd gan (ac sy'n cynnwys) llawer o leoliadau trawiadol Wicklow gan gynnwys Llynnoedd Blessington, Lacken, a Mynyddoedd Wicklow.

Ymgollwch yn stori serch grefftus a hyfryd Ahern, gan ddilyn camau'r prif gymeriad wrth iddi deithio drwy sir frodorol ei diweddar ŵr, Wicklow. Fel un o'r lleoliadau hyn, nid yw'n syndod mai Lough Tay yw un o'r mannau mwyaf eiconig yn Iwerddon - ac sy'n ymddangos fwyaf mewn lluniau.  Wedi'i leoli yng nghanol Mynyddoedd Wicklow, ar waelod dyffryn rhewlifol trawiadol, mae'r llyn yn hynod debyg i'r cynnyrch mwyaf a gaiff ei allforio o Iwerddon - mae'r dŵr tywyll mawnaidd, ynghyd â'i siâp hirgrwn a thraeth o dywod gwyn yn gwneud i Lough Tay edrych yn eithaf tebyg i beint enfawr o Guinness! Mae'r llyn yn rhan o ystâd y Luggala, sydd ers blynyddoedd lawer yn eiddo - fel y byddwch fwy na thebyg wedi dyfalu - i'r teulu Guinness. Cawsant dywod gwyn wedi'i fewnforio i roi i'r llyn ei wedd unigryw. Felly, caiff Lough Tay hefyd ei adnabod fel y ‘Llyn Guinness’.

Llynnoedd Blessington, Wicklow

Llynnoedd Blessington, Wicklow

Brendan Behan
Llynnoedd Blessington, Wicklow
Wrth odre Mynyddoedd Wicklow, cronfa ddŵr 5,000 erw yw Llynnoedd Blessington a ffurfiwyd dros 70 mlynedd yn ôl trwy adeiladu argae Poulaphouca a'r orsaf bŵer trydan dŵr. Yn ogystal â bod yn brif ffynhonnell dŵr yfed Dulyn, mae'n lle poblogaidd i ymarfer campau ar y dŵr megis pysgota, hwylio a mynd mewn caiac. Gallwch gerdded neu feicio'r Blessington Greenway 6.5km o hyd sy'n mynd gyda glannau'r llyn ac i goetir naturiol, neu yrru ar hyd y ffordd 26km o amgylch y dyffryn lle'r oedd Afon Kings unwaith yn cwrdd ag Afon Liffey. Disgrifiodd y nofelydd a'r bardd Brendan Behan ei daith i'r ardal fel 'taith at em Wicklow', yn y wasg Wyddelig ym mis Hydref 1952

Triongl Llychlynnaidd Waterford

Triongl Llychlynnaidd Waterford

Seán Dunne
Triongl Llychlynnaidd Waterford, Waterford
Mae Seán Dunne, a anwyd yn Waterford, yn fardd enwog o Iwerddon. Mor enwog yn wir fel bod Gŵyl Lenyddol Waterford ar un adeg yn cael ei henwi ar ei ôl. Mae ei gasgliad o gerddi, "In My Father's House" yn gofiant i fywyd fel yr oedd wrth dyfu i fyny yn Waterford. Hefyd o bwys y mae "Time and The Island", "The Sheltered Nest" ac "Against The Storm". Drwy ei gerddi byddwch yn cael ymdeimlad cryf o le ac yn dysgu am hanes bywyd yn ninas Waterford, sedd hynafol diwylliant a threftadaeth cyfoethog Swydd Waterford.