Gwyrddni'r Gwanwyn

Gwyrddni'r Gwanwyn

Bob blwyddyn yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill mae 'gwyrddni'r gwanwyn' yn cyrraedd y Llwybrau Celtaidd ac mae'r tirweddau toreithiog bras dod yn fyw, gan arddangos rhai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol a welwch unrhyw le yn y byd.

Mae dolydd ir, bryniau tonnog, coetiroedd deiliog, coedwigoedd trwchus, gerddi wedi'u tirlunio a thorlannau glaswelltog yno i'w darganfod, a dyma rai o'r llefydd gorau i weld gwyrddni'r gwanwyn ar ei orau yn y chwe sir.

Mynydd Congreve, Waterford, Iwerddon

Mynydd Congreve, Waterford, Iwerddon

Mor ymroddgar oedd Ambrose Congreve i'w erddi fel yr enillodd ddim llai na 13 medal aur yn Sioe Flodau Chelsea. Bellach yng ngofal y wladwriaeth, mae'r Gerddi'n cynnwys rhyw 70 erw o goetir wedi'i blannu'n ddwys, gardd furiog 4 erw a 16km o lwybrau cerdded. Mae'r casgliad cyfan yn cynnwys dros 3,000 o wahanol goed a llwyni, mwy na 2,000 o rododendronau, 600 o goed camelia, 300 o gyltifarau acer, 600 o goed conwydd, 250 o blanhigion dringo a 1,500 o blanhigion llysieuol, ynghyd â llawer mwy o rywogaethau tyner sydd i'w gweld yn y tŷ gwydr Sioraidd. Mae geiriau'n annigonol i gyfleu'r harddwch anghyffredin a welwch yn un o erddi mawr y byd.

Plasty a Gerddi Wells, Wexford, Iwerddon

Plasty a Gerddi Wells, Wexford, Iwerddon

Mae gan Blasty a Gerddi Wells hanes sy'n mynd yn ôl dros 400 o flynyddoedd. Adeiladwyd y plasty yn wreiddiol gan John Warren ar ddiwedd yr 17eg ganrif, a phrynwyd yr ystâd gan y teulu Doyne ar ôl ei farwolaeth. Yn y 1830au, comisiynwyd y pensaer enwog o Sais, Daniel Robertson, gan y teulu i ailgynllunio'r plasty a'r gerddi fel y mae'n edrych heddiw. Mae'r plasty wedi bod yn eiddo i deulu Rosler ers 1965 ac agorodd i'r cyhoedd yn 2012.  Ymunwch â'r daith o amgylch y plasty byw a darganfod gwir fywydau Lady Francis a thrigolion eraill y tŷ drwy lygaid eich tywysydd Fictoraidd.

Llandeilo a Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru

Llandeilo a Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru

Tref farchnad hardd Llandeilo, gyda'i strydoedd cul, ei thai Sioraidd wedi'u paentio a dewis o siopau bwtîc, siopau coffi ac orielau, yw'r man lle daw ffermwyr i gwrdd â steil cefn gwlad. Am ardal gymharol fach, mae Dyffryn Tywi oddi amgylch yn crynhoi nifer o atyniadau treftadaeth a diwylliant, wedi'u gosod yn rhai o'r golygfeydd mwyaf godidog yng Nghymru. Mae Castell Carreg Cennen, sy'n sefyll ar ben clogwyn calchfaen 90 metr o uchder, i'w weld yn amlwg yn erbyn y gorwel am filltiroedd. Saif Castell Dryslwyn ar fryn creigiog arall, a gysylltir am byth â thywysogion y Deheubarth. Mae gerddi Elisabethaidd Aberglasne yn teimlo'n wahanol iawn i erddi enfawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ond eto nid yw nepell i ffwrdd. Yn ogystal, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sawl eiddo yn yr ardal, megis Tŵr Paxton sydd ar arddull Neo-Gothig, a Phlas Dinefwr neu Dŷ Newton, yng nghanol ystâd Dinefwr.

Waterford Greenway, Waterford, Iwerddon  

Waterford Greenway, Waterford, Iwerddon  

Mae hen reilffordd Dinas Waterford i Dungarvan wedi'i thrawsnewid yn llwybr beicio a cherdded 46km oddi ar y ffordd. Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi ar draws 11 o bontydd, 3 traphont a thrwy dwnnel 400 metr o hyd. Mae digon o bethau i'w gwneud a'u gweld ar hyd y ffordd hefyd. Ceir yno anheddiad Llychlynnaidd Woodstown o'r 9fed ganrif, y gerddi addurnol byd-enwog yn Mount Congreve a Rheilffordd Dreftadaeth Waterford & Suir Valley. Neu gallwch ryfeddu at y tirweddau hardd wrth i chi fynd heibio iddynt, sy'n cynnwys Afon Suir, mynyddoedd Comeragh, yr Arfordir Copr a Bae Dungarvan.

Coedwig Mynwar, Sir Benfro, Cymru

Coedwig Mynwar, Sir Benfro, Cymru

Mae Coedwig Mynwar yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ger Arberth. Gan fod y safle yn agos at Aber Afon Cleddau, mae'r cyfuniad o ddŵr heli a dŵr croyw yn darparu cynefin amrywiol i fywyd gwyllt. Cadwch lygad am adar y glannau megis y crëyr glas a glas y dorlan o'r olygfan dros yr aber ac adar y coetir megis y gnocell fraith fwyaf a'r dringwr bach. Mae'r coetir hefyd yn cynnal ystod eang o fflora. Yn y gwanwyn, mae llwybrau'r coetir yn dod yn fyw gyda'r llygad Ebrill melyn llachar, a gwelir clytiau o glychau'r gog o dan y coed. Yn yr hydref mae lliwiau cynnes y coed deri coch a'r ffawydd, a'r ffyngau hynod eu ffurf, yn wledd i'r llygaid.

Llwybr Wicklow Way, Wicklow, Iwerddon

Llwybr Wicklow Way, Wicklow, Iwerddon

Ychydig i'r de o Ddulyn, mae Swydd Wicklow - a elwir yn Ardd Iwerddon - yn ehangder gwyllt o arfordir, coetir a mynyddoedd mawreddog a thrwyddo rhed llwybr cerdded mwyaf poblogaidd y wlad. Llwybr Wicklow Way yw llwybr nodedig hynaf Iwerddon, gweledigaeth y cerddwr enwog J B Malone, a agorwyd ym 1980. Mae'r Wicklow Way yn dechrau ym maestref ddeheuol Rathfarnham yn Nulyn ac yn teithio ar draws ucheldiroedd Dulyn a Wicklow, ac yna trwy fryniau tonnog de-orllewin swydd Wicklow, cyn gorffen ym mhentref bach Clonegal ar y ffin rhwng Wicklow a Carlow, 127km yn ddiweddarach. Mae cyfuniad o barcdir maestrefol, llwybrau coedwig, llwybrau mynydd a chefn gwlad bryniog yn cynnig profiad amrywiol ac, ar brydiau, heriol i gerddwyr am 7-10 diwrnod. Ar y ffordd byddwch chi'n mynd heibio i lynnoedd hardd, gerddi ysblennydd, plastai cain o'r 18fed ganrif ac adfeilion treflan fynachaidd Gristnogol cynnar.

Gerddi Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru

Gerddi Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru

Mae dwy ardd wahanol iawn, ond yr un mor apelgar, yn cystadlu am eich sylw yn y rhan hon o Sir Gaerfyrddin. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn safle 560 erw a agorodd yn 2000, gydag ystod o erddi ar thema a thŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd ymhlith ei atyniadau. O gymharu, byddwch yn cael maddeuant am feddwl eich bod wedi crwydro ar set drama gyfnod yng Ngerddi Aberglasne. Mae'r gerddi muriog ffurfiol yn dyddio o oes Elisabeth gyda gardd gloestr unigryw yn ganolog iddi.

Pumlumon, Ceredigion, Cymru

Pumlumon, Ceredigion, Cymru

Mae Pumlumon, sy’n golygu ‘Pum Copa’, yn grib o gopaon yn y Mynyddoedd Cambriaidd, a’r uchaf ohonynt yw Pen Pumlumon Fawr sydd yn 752 metr o uchder. Er nad dyma'r uchaf o fynyddoedd Cymru, mae llawer o bobl yn ystyried ei fod yn em yng nghoron Cymru. Mae hynny oherwydd, ar ddiwrnod clir ar y copa, gellir gweld Cymru gyfan yn agor o flaen eich llygaid. I'r gorllewin, mae Eryri yn cysylltu â'r Preseli drwy Fae Ceredigion ac, i'r dwyrain, mae cadwyni'r Berwyn a'r Aran yn cysylltu â Bannau Brycheiniog ar hyd y ffin â Lloegr. Pumlumon hefyd yw tarddle Afon Hafren, afon hiraf Prydain, yn ogystal â Rheidol.

Llwybrau Coetir Courtown, Wexford, Iwerddon

Llwybrau Coetir Courtown, Wexford, Iwerddon

Er ei fod yn bentref glan môr yn bennaf, mae'r goedwig 60 erw yn Courtown yn fan i gael seibiant cysgodol o'r traeth cyfagos.

Yn ystod y 1860au a'r 70au, sefydlodd James Stopford, 5ed Iarll Courtown, binwyddlan ar dir Courtown House. Ymhlith y coed sy'n weddill o'i gasgliad mae coeden goch Califfornia, cypreswydden gors, cedrwydd Siapaneaidd, cedrwydden Libanus a nifer o binwydd, coed yw a gwir gypreswydd. Cadwch lygad am goeden ywen a blannwyd fel rhan o'r casgliad, ond a gwympwyd flynyddoedd yn ôl, ac sy'n parhau i dyfu wrth ymyl Llwybr yr Afon.

Ym 1870, plannwyd coed derw ac ynn yn y coetir ymhellach i ffwrdd o'r tŷ. Roedd hyn yn eithaf nodweddiadol o goetir ystâd Fictoraidd; plannwyd y conwydd egsotig a'r coed cochion yng ngolwg y tŷ a'r coed derw ymhellach i ffwrdd.

Bellach mae pedwar tro cerdded hawdd gydag arwyddion i ddangos y ffordd yn ymdroelli trwy'r coetir, pob un ohonynt rhwng 1 ac 1.9km o bellter.

Glendalough a'r Llyn Uchaf, Wicklow, Iwerddon

Glendalough a'r Llyn Uchaf, Wicklow, Iwerddon

Ystyr Glendalough neu Gleann dá Loch yw 'Dyffryn y Ddau Lyn'. Cafodd y dyffryn hwn ei gerfio gan rewlifoedd yn ystod Oes yr Iâ diwethaf, a cheir yno harddwch dilychwin ynghyd â thawelwch nefolaidd. Nid yw'n fawr o syndod i San Cefin sefydlu treflan fynachaidd yma yn y 6ed ganrif. Dywedir iddo dreulio saith mlynedd ar ei ben ei hun mewn ogof ger y Llyn Uchaf, a adwaenir fel Gwely San Cefin.

Hyd yn oed fel un o brif atyniadau twristaidd Dwyrain Hynafol Iwerddon, os nad Iwerddon gyfan, ni fydd rhaid i chi grwydro'n rhy bell i ddarganfod y llonyddwch a'r ymdeimlad ysbrydol a ddenodd fynachod yma ganrifoedd yn ôl.