Gyda llwybrau cerdded trawiadol ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn, a mwy, mae'r Llwybrau Celtaidd yn baradwys i gerddwyr o bob gallu. Crwydrwch yn rhydd. Archwiliwch. Ymgollwch ym myd natur.

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Sir Benfro

Gyda 186 milltir o lwybr arfordir i ddewis ohono, gall y teithiau cerdded hyn fod mor hir neu mor fyr ag y dymunwch.
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn troi ac yn troelli am 186 o filltiroedd o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Mae'n cynnwys bron pob math o dirwedd arfordirol, o bentiroedd o greigiau folcanig, bwâu calchfaen, tyllau chwythu a staciau môr, i gilfachau rhewlifol cul. Caiff llinellau o glogwyni tywodfaen coch a llwyd eu gwahanu gan draethau tywodlyd. Mae'r llwybr yn dangos digonedd o flodau arfordirol a bywyd adar, yn ogystal â thystiolaeth o weithgarwch dynol o'r cyfnod Neolithig hyd at y presennol. Ond nid yw cerdded y llwybr cyfan ar yr un pryd yn rhywbeth i'r gwangalon. Mae'n cymryd rhwng 10 a 15 diwrnod i gerdded darn Sir Benfro o lwybr yr arfordir, gyda thros 10,000 metr o esgyniadau a disgyniadau – sy'n cyfateb i ddringo Everest!

Darganfod Mwy

Foel Drygarn

Sir Benfro

1.8 milltir i gyrraedd y copa – tua 1 awr 20 munud.
Fel yr awgryma'r enw, Foel Drygarn neu 'Moel y Tair Carn', ceir tair carnedd gladdu enfawr o’r Oes Efydd ar y copa 363 metr o uchder. Yn ystod yr Oes Haearn, ychwanegwyd bryngaer gyda rhagfuriau amddiffynnol a chytiau. Dengys ffotograffau o'r awyr gannoedd o bantiau crwn yn y ddaear, y credir eu bod yn sylfeini'r cytiau. Yn ôl y chwedl dywedir fod yna gelc o aur o dan y garreg wastad a elwir yn Fwrdd y Brenin. Ond rydyn ni'n meddwl y bydd y golygfeydd 360 gradd o Ddyffryn Teifi, Mynyddoedd y Preseli ac - ar ddiwrnod clir - Môr Iwerddon, yn ddigon o wobr i chi am eich ymdrech.

Darganfod Mwy

Linnte Teifi

Ceredigion

O Abaty Ystrad Fflur i Lynnoedd Teifi – llwybr cylchol 9 milltir o hyd drwy'r Mynyddoedd Cambriaidd - tua 4-5 awr.
Mae tarddle Afon Teifi, un o'r afonydd hiraf yng Nghymru, i'w gael yng ngogledd Ceredigion. Mae Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill - Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant - yn gorwedd ynghudd yn y bryniau, ar lwybr anghysbell y mynachod o Abaty Ystrad Fflur. Y grŵp hudolus hwn o lynnoedd rhewlifol dwfn yw'r lle perffaith i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd bob dydd.

Darganfod Mwy

Pumlumon

Ceredigion

Mae digon o lwybrau i ddewis o'u plith i gyrraedd y copa uchaf – beth am roi cynnig ar ddechrau yn Eisteddfa Gurig a cherdded y llwybr cylchol 5 milltir o hyd – tua 3 awr.
Mae Pumlumon, sy’n golygu ‘Pum Copa’, yn grib o gopaon yn y Mynyddoedd Cambriaidd, a’r uchaf ohonynt yw Pen Pumlumon Fawr sydd yn 752 metr o uchder. Er nad dyma'r uchaf o fynyddoedd Cymru, mae llawer o bobl yn ystyried ei fod yn em yng nghoron Cymru. Mae hynny oherwydd, ar ddiwrnod clir ar y copa, gellir gweld Cymru gyfan yn agor o flaen eich llygaid. I'r gorllewin, mae Eryri yn cysylltu â'r Preseli drwy Fae Ceredigion ac, i'r dwyrain, mae cadwyni'r Berwyn a'r Aran yn cysylltu â Bannau Brycheiniog ar hyd y ffin â Lloegr. Pumlumon hefyd yw tarddle Afon Hafren, afon hiraf Prydain, yn ogystal â'r Cymorth Rheidiol.

Darganfod Mwy

Llyn y Fan Fach

Sir Gaerfyrddin

Rhowch gynnig ar y llwybr cylchol 4 milltir o hyd sy'n codi'n raddol o'r maes parcio ger Llanddeusant – tua 2 awr.
Yn Llyn y Fan Fach ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog byddwch yn dod o hyd i lyn rhewlifol hudolus. Cysylltir y Llyn â chwedl 'Morwyn y Llyn' o'r 14eg ganrif. Yn y stori hon, mae ffermwr ifanc yn priodi merch hardd sydd wedi dod allan o'r llyn, gan addo na fyddai'n ei tharo dair gwaith. Wedi iddi gael ei daro ganddo dair gwaith (er byth mewn dicter), mae hi'n mynd yn ei hôl i'r llyn. Mae hi'n dychwelyd am gyfnod byr i gyfarwyddo ei meibion, sy'n mynd ymlaen i fod yn feddygon, a adwaenir heddiw fel 'Meddygon Myddfai’.

Darganfod Mwy

Dyffryn Tywi

Sir Gaerfyrddin

Mae digon o ddewis o lwybrau cerdded yn Nyffryn Tywi, rhowch gynnig ar y llwybr 2 filltir i Gastell Carreg Cennen, neu'r llwybr drwy Goed y Castell i Gastell Dinefwr.
Mae gan ddyffryn trawiadol Tywi doreth o atyniadau treftadaeth a diwylliannol, a hynny yng nghanol rhai o'r golygfeydd harddaf yng Nghymru. Mae Castell Carreg Cennen, sy'n sefyll ar ben clogwyn calchfaen 90 metr o uchder, i'w weld yn amlwg yn erbyn y gorwel am filltiroedd. Saif Castell Dryslwyn ar fryn creigiog arall, a gysylltir am byth â thywysogion y Deheubarth. Mae gerddi Elisabethaidd Aberglasne yn teimlo'n wahanol iawn i erddi enfawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ond eto nid yw nepell i ffwrdd. Yn ogystal, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sawl eiddo yn yr ardal, megis Tŵr Paxton sydd ar arddull Neo-Gothig, a Phlas Dinefwr neu Dŷ Newton, yng nghanol ystâd Dinefwr.

Darganfod Mwy

Bray i Sugarloaf

Wicklow

Llwybr diwrnod llawn – neu gellir ei dorri'n deithiau cerdded byrrach o'ch dewis.
Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi dros Bray Head, ar hyd y Belmont Way a'r Sugarloaf Way.
Mae'r llwybr newydd gwych hwn yn awr yn cysylltu ac yn ymestyn nifer o lwybrau adnabyddus eraill i greu tro cerdded hir a heriol. Mae'r Traciau a'r Llwybrau sydd newydd gael eu creu yn dilyn llwybr ar draws tir amrywiol gan gynnwys llwybrau mynydd garw, llwybrau coedwig gwastad a thawel, tir amaeth ffrwythlon a ffyrdd gwledig. Mae'r llwybr, y gellir ei gwblhau mewn diwrnod gan gerddwr profiadol, neu ei dorri'n deithiau cerdded byrrach, yn datgelu tirweddau gorau Wicklow, o olygfeydd syfrdanol o'r môr i olygfeydd gwledig godidog sy'n cwmpasu caeau, mynyddoedd a'r awyr.

Darganfod Mwy

Beddrod Seefin Passage

Wicklow

Mae sawl opsiwn i gyrraedd y brig, ond mae'r mwyaf uniongyrchol yn dechrau ychydig i'r de o Wersyll Milwrol Kilbridge ar hyd ymyl y goedwig – 5 milltir ac mae'n weddol serth, felly byddwch yn barod.

Yn eistedd ar ben bryn 650 metr uwchben lefel y môr, mae Sedd Fionn neu 'Suidh Fhionn' yn dyddio o rhwng 3300 a 3000 cyn Crist. Gallech ofyn pam y cafodd ei adeiladu ar gymaint o uchder, a fyddai wedi bod yn dasg enfawr yn y cyfnod Neolithig? Ond pan fyddwch yn cyrraedd y copa, cyn hir daw'r rheswm yn amlwg. Mae bryniau tonnog, clytwaith caeau a llynnoedd gloyw Swydd De Dulyn a Wicklow yn agor o flaen eich llygaid.

Darganfod Mwy

Llwybr Wicklow Way

Wicklow

Mae'r llwybr cyfan yn 79 milltir o hyd a bydd yn cymryd 7-10 diwrnod i'w gwblhau. Ond mae hyn yn rhoi digon o ddewis ar gyfer teithiau cerdded byrrach i'r rhai sydd eisiau taith undydd neu lai.

Ychydig i'r de o Ddulyn, mae Swydd Wicklow - a elwir yn Ardd Iwerddon - yn ehangder gwyllt o arfordir, coetir a mynyddoedd mawreddog a thrwyddo rhed llwybr cerdded mwyaf poblogaidd y wlad. Llwybr y Wicklow Way yw llwybr hynaf Iwerddon, gweledigaeth y cerddwr enwog J B Malone, a agorwyd ym 1980. Mae llwybr y Wicklow Way yn dechrau ym maestref ddeheuol Rathfarnham yn Nulyn cyn ymddolennu ar draws ucheldiroedd Dulyn a Wicklow, ac yna trwy fryniau tonnog de-orllewin swydd Wicklow, cyn gorffen ym mhentref bach Clonegal ar y ffin rhwng Wicklow a Carlow, 127km yn ddiweddarach. Mae cyfuniad o barcdir maestrefol, llwybrau coedwig, llwybrau mynydd a chefn gwlad bryniog yn cynnig profiad amrywiol ac, ar brydiau, heriol i gerddwyr am 7-10 diwrnod. Ar y ffordd byddwch chi'n mynd heibio i lynnoedd hardd, gerddi ysblennydd, plastai cain o'r 18fed ganrif ac adfeilion treflan fynachaidd Gristnogol cynnar.

Darganfod Mwy

Mynydd Congreve

Waterford

Gyda bron i 10 milltir o lwybrau cerdded, ceir yma rywbeth i gerddwyr o bob gallu.
Mor ymroddgar oedd Ambrose Congreve i'w erddi fel yr enillodd ddim llai na 13 medal aur yn Sioe Flodau Chelsea. Bellach yng ngofal y wladwriaeth, mae'r Gerddi (yr ystyrir eu bod ymhlith y gorau yn y byd) yn cynnwys rhyw 70 erw o goetir wedi'i blannu'n ddwys, gardd furiog 4 erw a 16km o lwybrau cerdded. Mae'r casgliad cyfan yn cynnwys dros 3,000 o wahanol goed a llwyni, mwy na 2,000 o rododendronau, 600 o goed camelia, 300 o gyltifarau acer, 600 o goed conwydd, 250 o blanhigion dringo a 1,500 o blanhigion llysieuol, ynghyd â llawer mwy o rywogaethau tyner sydd i'w gweld yn y tŷ gwydr Sioraidd.

Darganfod Mwy

St Declan ac Ardmore

Waterford

Mae'n werth cerdded y llwybr clogwyn 2.4 milltir sy'n dechrau ac yn gorffen yn y pentref i ymweld â Ffynnon St Declan – llai nag 1 awr yn fras.
Yn y 5ed ganrif, daeth Sant Declan ar draws pentref Ardmore - dywedir iddo gael ei dywys yno gan garreg a gariwyd ar y tonnau - a sefydlodd fynachlog. Ei adfeilion yw treflan Gristnogol hynaf Iwerddon. Heddiw, erys sawl safle o'i ddinas fynachaidd.

Mae yna areithfa o'r 8fed ganrif lle credir bod y sant wedi'i gladdu a thŵr crwn 29 metr o uchder o'r 12fed ganrif, a weithredai fel clochdy a lloches. Mae yna hefyd yr eglwys gadeiriol o'r 12fed ganrif, gyda gwaith bwaog Romanésg â ffigyrau'n darlunio golygfeydd o'r Hen Destament a'r Newydd - anarferol iawn yn Iwerddon. Y tu mewn i'r eglwys gadeiriol ceir dwy garreg Ogam sy'n cynnwys y ffurf gynharaf o ysgrifennu yn Iwerddon.

Darganfod Mwy

Coumshingaun

Waterford

Mae Llwybr Cylchol Coumshingaun yn llwybr cymedrol 4.6 milltir o hyd o amgylch y gefnen – tua 2 awr.
Mae Coumshingaun yn un o’r enghreifftiau gorau o beiran (neu ‘coum’, yn y Wyddeleg) yn Ewrop, a dyma dirnod mwyaf adnabyddus Mynyddoedd Comeragh. I'r rheiny sydd wedi anghofio eu gwersi Daearyddiaeth yn yr ysgol, peiran yw pant siâp cadair freichiau a geir yn ochr mynydd, lle ffurfiodd rhewlif. Ar hyd y llwybr, cewch olygfeydd godidog o'r lough tywyll 365 metr isod. Pan fydd hi'n glir, efallai y byddwch yn gallu gweld cyn belled â Phont Afon Suir yn Ninas Waterford.
Roedd gan y lleidr pen-ffordd o'r 18fed ganrif William Crotty gysylltiad cryf â'r ardal, ac roedd yn cuddio rhag y gyfraith mewn ogofâu yma. Ni ddaeth i ddiwedd da, serch hynny. Yn y diwedd cafodd ei ddal, ei roi ar brawf a'i grogi, a rhoddwyd ei ben ar bigyn y tu allan i garchar y sir fel rhybudd. Os oes gennych amser, gallwch chwilio am ei drysor yn y lough a'r ogof a enwyd ar ei ôl.

Darganfod Mwy

Llwybrau Coetir Courtown

Wexford

Bellach mae 4 llwybr hawdd gydag arwyddion i ddangos y ffordd yn ymdroelli trwy'r coetir, gyda phob un rhwng 1 ac 1.9km o bellter.
Er ei fod yn bentref glan môr yn bennaf, mae'r goedwig 60 erw yn Courtown yn fan i gael seibiant cysgodol o'r traeth cyfagos.
Yn ystod y 1860au a'r 70au, sefydlodd James Stopford, 5ed Iarll Courtown, binwyddlan ar dir Courtown House. Ymhlith y coed sy'n weddill o'i gasgliad mae coeden goch Califfornia, cypreswydden gors, cedrwydd Siapaneaidd, cedrwydden Libanus a nifer o binwydd, coed yw a gwir gypreswydd. Cadwch lygad am goeden ywen a blannwyd fel rhan o'r casgliad, ond a gwympwyd flynyddoedd yn ôl, ac sy'n parhau i dyfu wrth ymyl Llwybr yr Afon.

Darganfod Mwy

Goleudy Hook

Wexford

Llwybr cylchol 3.7 milltir o Harbwr Slade sy'n mynd ar hyd arfordir Penrhyn Hook i lawr i'r Goleudy – tua 2 awr ac nid yw'n rhy anodd.
Pan ddaw'n fater o oleudai, nid oes gan yr un ohonynt hanes hwy o amddiffyn morwyr na Goleudy Hook. Hwn yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sydd wedi sefyll am dros 800 mlynedd. Roedd coelcerth wedi bod yno ers y 6ed ganrif, gyda mynachod yn gofalu amdani, ond adeiladodd y marchog pwerus William Marshall y goleudy rhwng 1210 a 1230 i dywys llongau i'w borthladd yn Ross. Coelcerth o dân glo oedd y golau gwreiddiol, nes iddo gael ei ddisodli gan lamp a losgai olew morfil ym 1791. Cafodd honno yn ei thro ei chyfnewid am oleuadau nwy ym 1871 ac ym 1972, newidiwyd y golau i ddefnyddio trydan. Ym 1996 daeth y goleudy yn gwbl awtomatig a gadawodd ceidwaid olaf y goleudy o'r diwedd.

Darganfod Mwy