Llwybrau Celtaidd ar y sgrîn fawr (a'r sgrîn fach!)

Llwybrau Celtaidd ar y sgrîn fawr (a'r sgrîn fach!)

Cymaint yw harddwch a drama'r Llwybrau Celtaidd fel eu bod wedi cael eu defnyddio fel cefndir i ddwsinau o ffilmiau (a sioeau teledu) dros y degawdau.

Enniscorthy, Wexford, Iwerddon

Brooklyn, 2015

Yn seiliedig ar nofel yn dwyn yr un enw gan Colm Tóibín, ffilmiwyd 'Brooklyn', gyda Saoirse Ronan yn y brif ran, ar strydoedd Enniscorthy ac mae'n cynnwys llawer o ardaloedd eiconig o bob cwr o'r dref. Dewch i weld y dref Wyddelig hardd hon drwy lygaid addasiad Nicky Hornby o Brooklyn a chael llun o gastell eiconig Enniscorthy â'i hanes cythryblus.

Traeth Curracloe, Wexford, Iwerddon,

Saving Private Ryan, 1998

Mae'r traeth hwn sydd wedi ennill Gwobr y Faner Las yn ymestyn dros 11km o Raven Point i Ballyconigar, ger Blackwater. Mae'n enwog am ei dywod meddal, y twyni gwasgarog a'r flanced ddiddiwedd o foresg, sydd i gyd yn atynfa i fywyd gwyllt ac i'r ymwelwyr sy'n cael pleser mawr wrth rolio i lawr! Bu Traeth Curracloe yn lleoliad addas i gyfleu Traeth Omaha yn Normandi yng ngolygfeydd agoriadol dramatig ‘Saving Private Ryan’ a ffilmiwyd yno.

Yr Arfordir Copr, Waterford, Iwerddon

The McKenzie Break, 1970

Mae'r stori arw hon, sy'n digwydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn hanes carcharorion rhyfel o'r Almaen wrth iddynt geisio dianc o wersyll rhyfel McKenzie. Er bod y stori yn digwydd yng ngogledd yr Alban, cafodd y ffilm ei ffilmio'n bennaf yn Iwerddon, gyda'r diweddglo yn cael ei ffilmio ar Arfordir Copr trawiadol Iwerddon.

Llynnoedd Blessington, Wicklow, Iwerddon

P.S. I Love You, 2007

Gadewch i'r ffilm hardd hon eich tywys o amgylch Wicklow. Cecelia Ahern, a anwyd yn Iwerddon, yw awdur y nofel ‘P.S. I Love You’ a gyrhaeddodd frig y gwerthiannau llyfrau yn fyd-eang ac a addaswyd yn ddiweddarach yn ffilm lwyddiannus dros ben. Cafodd y stori ei hysbrydoli gan lawer o leoliadau yn Wicklow sydd yn ymddangos yn y nofel gan gynnwys llynnoedd eiconig Blessington, Lacken a Mynyddoedd Wicklow, a ddefnyddiwyd i gyd fel lleoliadau ffilmio.

Lough Tay, Wicklow, Iwerddon

Vikings, 2013 – Y presennol (cyfres)

Lough Tay yw un o'r mannau mwyaf eiconig yn Iwerddon - a'r un sy'n ymddangos fwyaf mewn lluniau. Mae'n addas felly fod y lleoliad hwn yn cael ei ddefnyddio i osod yr olygfa ar gyfer un o arwyr mwyaf oesol hanes, Ragnar Lothbrok yn y gyfres deledu, 'Vikings’.

Traeth Freshwater West, Sir Benfro, Cymru

Harry Potter and the Deathly Hallows

Mae'r traeth hwn yn adnabyddus am nifer o resymau; mae'n wych am syrffio, mae yma ddigonedd o wymon o fath penodol a ddefnyddir i wneud Bara Lawr, un o arbenigeddau bwyd y Cymry, ac mae hefyd yn enwog fel man claddu un o ffrindiau anwylaf Harry Potter, y coblyn tŷ Dobby. Defnyddiwyd Freshwater West fel y cefndir syfrdanol o hardd ar gyfer Shell Cottage yn 'Harry Potter and the Deathly Hallows’. Adeiladwyd y bwthyn ar y safle gan gadw at y manylion lleiaf gan gynnwys y gwymon. Mae'r bwthyn bellach wedi'i dynnu i lawr wrth gwrs, ond gallwch ail-fyw'r eiliad drwy wylio'r ffilm dro ar ôl tro.

Traeth Marloes, Sir Benfro, Cymru

Snow White and the Huntsman, 2012

Cafodd stori glasurol y Brodyr Grimm, Eira Wen, ei hailddychmygu yn y ffilm gothig ganoloesol hon gyda Charlize Theron, Chris Hemsworth a Kristen Stewart yn y prif rannau. Dewiswyd Traeth Marloes, gyda'i ehangder enfawr o dywod gwastad a'i olygfeydd panoramig trawiadol, ar gyfer golygfa ddramatig ymosodiad y marchoglu yn y ffilm. Ymgollwch yn y ffantasi dywyll hon sy'n gyfuniad o stori serch a stori dylwyth teg a gwelwch sut y cafodd un o draethau mwyaf heddychlon Sir Benfro ei drawsnewid yn olygfa brwydr waedlyd.

Traethau Aberporth a Phenbryn, Ceredigion, Cymru

Die Another Day - James Bond, 2002

Gyda'i dywod euraidd hardd, mae traeth Penbryn heb ei ddifetha, yn arw ac yn naturiol. Ni fydd llawer o wylwyr yn adnabod y traeth, ond roedd yn ymddangos yn y ffilm Bond, 'Die Another Day’. Gwyliwch yn ofalus, ac efallai y bydd rhai'n sylwi nad yw Bond yng Ngogledd Korea fel yr arweiniwyd ni i gredu, ond yn hytrach ar un o draethau harddaf Ceredigion, Penbryn.

Y Mynyddoedd Cambriaidd, Ceredigion, Cymru

Man From U.N.C.L.E, 2015

O'r Mynyddoedd Cambriaidd, ar ddiwrnod clir ar y copa, gellir gweld Cymru gyfan yn agor o flaen eich llygaid. I'r gorllewin, mae Eryri yn cysylltu â'r Preseli drwy Fae Ceredigion ac, i'r dwyrain, mae cadwyni'r Berwyn a'r Aran yn cysylltu â Bannau Brycheiniog ar hyd y ffin â Lloegr. Efallai mai'r golygfeydd hyn oedd y rheswm pam y dewiswyd y Mynyddoedd Cambriaidd a'r ardaloedd cyfagos fel lleoliadau ffilmio ar gyfer y ras geir epig yn y ffilm 'Man from U.N.C.L.E’. Yr actor Henry Cavill sy'n cymryd y brif ran yn y ffilm gomedi hon, sydd yn seiliedig ar y gyfres deledu o'r un enw o'r 1960au. Mwynhewch olygfa chwim, llawn adrenalin o fynyddoedd Ceredigion o'ch soffa.

Talacharn, Sir Gaerfyrddin, Cymru

The Edge of Love, 2008

Fel tref sy'n enwog fel cartref yr awdur a'r bardd enwog, Dylan Thomas, mae Talacharn wedi ymddangos ar y sgrîn fawr fwy nag unwaith. Ffilmiwyd 'The Edge of Love', ffilm sy'n darlunio'n rhydd ddigwyddiadau ym mywyd Dylan Thomas, yn Nhalacharn ac mewn sawl lleoliad arall ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

 

Pentywyn, Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Caerfyrddin, Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, Cymru

Un Bore Mercher, 2017 - y presennol

Gall cefnogwyr Un Bore Mercher (a'r fersiwn Saesneg Keeping Faith) ddilyn yn ôl traed Faith ei hun gyda Llwybr Selogion Un Bore Mercher, sy'n cwmpasu lleoliadau allweddol a ddefnyddir yn y ddrama boblogaidd gan y BBC/S4C. Mae'r ‘Ffyddloniaid', fel y gelwir selogion y rhaglen, wedi bod yn heidio i aber hardd Talacharn, sef lleoliad tref ffuglennol 'Abercorran' sy'n gartref i Faith.