Mynd ar drywydd rhaeadrau ar draws y Llwybrau Celtaidd

Mynd ar drywydd rhaeadrau ar draws y Llwybrau Celtaidd

Mae nifer o raeadrau hardd, mawr a bach, i'w cael ar hyd siroedd y Llwybrau Celtaidd. O'r rhaeadrau hudolus a graddol sy'n cwympo i lawr y cwm o lyn rhewlifol trawiadol Llyn y Fan Fach, i raeadrau grymus trawiadol Cenarth, gyda'u rhu pan fydd yr afon yn llawn. Mae rheswm pam mae'r rhan hon o'r byd yn cael ei hadnabod fel gwlad y rhaeadrau.

Rhaeadr Cenarth

Sir Gaerfyrddin

Ar ffiniau tair sir – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – saif pentref hudolus Cenarth. Ei brif atyniad ers oes Fictoria yw'r rhaeadrau ar afon Teifi. Yn yr Hydref daw ymwelwyr o bell ac agos i wylio golygfa ryfeddol yr eogiaid yn llamu. Yn y ffenomen naturiol hon gwelir eogiaid mudol yn llamu am y gorau dros y rhaeadr a mynd i fyny'r afon i silio. Mae Cenarth hefyd yn un o'r ychydig leoedd sydd ar ôl ym Mhrydain lle defnyddir cwryglau o hyd. Mae pysgotwyr yn defnyddio'r cychod bach hyn â gwaelodion crwn, sydd wedi'u gwneud o bren helyg neu onnen a'u gorchuddio â deunydd sy'n dal dŵr, i deithio i lawr yr afon a dal eog a sewin.

Darganfod Mwy

Llyn y Fan Fach a Bannau Brycheiniog

Sir Gaerfyrddin

Yn Llyn y Fan Fach ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog byddwch yn dod o hyd i lyn rhewlifol hudolus. Cysylltir y Llyn â chwedl 'Morwyn y Llyn' o'r 14eg ganrif. Yn y stori hon, mae ffermwr ifanc yn priodi merch hardd sydd wedi dod allan o'r llyn, gan addo na fyddai'n ei tharo dair gwaith. Wedi iddi gael ei daro ganddo dair gwaith (er byth mewn dicter), mae hi'n mynd yn ei hôl i'r llyn. Mae hi'n dychwelyd am gyfnod byr i gyfarwyddo ei meibion, sy'n mynd ymlaen i fod yn feddygon, a adwaenir heddiw fel 'Meddygon Myddfai’.

Islaw'r bryniau saif tref farchnad hardd Llanymddyfri. Yma ceir cerflun 5 metr o uchder o Lywelyn ap Gruffydd Fychan wedi'i wneud o ddur gwrthstaen. Caiff ei adnabod fel 'Braveheart' Cymru, a chafodd ei ddienyddio yma gan Harri IV fel cosb am ei gefnogaeth i Owain Glyndŵr.

Darganfod Mwy

Pontarfynach

Ceredigion

Mae tair pont ar wahân yn rhychwantu rhaeadrau 90 metr Afon Mynach – un wedi'i hadeiladu ar ben y llall rhwng yr 11eg a'r 19eg ganrif. Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y diafol ei hun gan ei bod yn dasg rhy anodd i feidrolion. Cytunodd i adeiladu'r bont yn gyfnewid am enaid y cyntaf i groesi'r bont. Fodd bynnag, cafodd ei drechu gan hen wraig gyfrwys a'i alltudio o'r wlad am byth.

Darganfod Mwy

Rhaeadr Tre-saith

Ceredigion

Mae afon Saith yn cwympo dros y clogwyni i lawr i'r traeth islaw – delfrydol i gael cawod ffres ar ôl nofio! 

Darganfod Mwy

Llynnoedd Teifi

Ceredigion

Ar lwyfandir uchel yn y Mynyddoedd Cambriaidd, ger Llynnoedd Teifi anghysbell, mae un o raeadrau cudd Ceredigion yn cwympo i bwll tawel, lle arferai cawr, yn ôl y chwedl, olchi ei ddwylo.

Darganfod Mwy

Rhaeadr Mahon

Waterford

Mae Rhaeadr Mahon yn werth ei weld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n arbennig o drawiadol ar ôl glaw trwm, pan fydd y dŵr grymus i'w weld yn rhaeadru i lawr wyneb serth y graig i'r pyllau sawl can troedfedd islaw. Yng nghanol y gaeaf, yn dilyn rhew ac eira caled, mae'r rhaeadr weithiau'n rhewi'n gorn a gellir gweld dringwyr iâ yn gwneud y gorau o'r ffenomenon hon.  

Darganfod Mwy

Rhaeadr Powerscourt

Wicklow

Rhaeadr Powerscourt wrth droed Mynyddoedd Wicklow yw'r uchaf yn Iwerddon sef 121 metr (398 troedfedd) ac mae 5km o bellter o Ystâd a Gerddi Powerscourt.

Wrth i chi yrru o'r porthdy tuag at y rhaeadr rydych wedi'ch amgylchynu gan goed ffawydd, deri, llarwydd a phîn, rhai ohonynt wedi'u plannu dros 200 mlynedd yn ôl. Cadwch olwg am y coed coch, sy'n goed brodorol yng Ngogledd California ac sy'n tyfu hyd at 80 metr o uchder.

Darganfod Mwy

Rhaeadr Glenmacness

Wicklow

Mae Afon Glenmacnass yn dilyn yr Hen Ffordd Filwrol o Sally Gap i Laragh a Glendalough.  Mae Rhaeadr Glenmacnass yn lleoliad hardd dros ben ac yn llecyn poblogaidd i aros a chymryd lluniau gan ymwelwyr sy'n teithio ar hyd ucheldiroedd Bryniau Wicklow.

Darganfod Mwy