Mae'r lleoliadau ysbrydol hyn ar draws y Llwybrau Celtaidd yn cyfuno crefydd, treftadaeth a'r awyr agored.

Siambr Gladdu Pentre Ifan

Sir Benfro, Cymru

Adeiladwyd o'r un Garreg Las o'r Preseli ag a ddefnyddiwyd yn ei 'frawd mawr' sef Côr y Cewri neu Stonehenge. Mae Pentre Ifan, ger Trefdraeth (Sir Benfro) hefyd yn rhannu'r un ymdeimlad o ddirgelwch ynglŷn â'i wir bwrpas. Yn gyffredinol ystyrir mai siambr gladdu gymunedol ydoedd, ond ni chanfuwyd unrhyw olion o esgyrn yma erioed. Awgryma damcaniaeth arall mai fersiwn mwy coeth o faen hir sydd yma ac mai dim ond dangos eu sgiliau yr oedd yr adeiladwyr. Beth bynnag yw'r ateb go iawn, does dim amheuaeth fod Pentre Ifan yn gamp drawiadol o ddulliau adeiladu hynafol. Mae'r maen capan enfawr, sydd 5 metr o hyd ac yn pwyso 15 tunnell, yn cydbwyso'n ofalus ar dri maen hir unionsyth ac wedi llwyddo i aros yn ei le am dros 5,000 o flynyddoedd.

Darganfod mwy

Abaty Ystrad Fflur

Ceredigion, Cymru

Mae Abaty Ystrad Fflur, neu yn Lladin 'Strata Florida', wedi sefyll mewn llonyddwch mynachaidd ar lannau Afon Teifi ers 1201. Wedi'i sefydlu gan fynachod Sistersaidd, yn fuan daeth yn eglwys enwocaf Cymru ar ôl Tyddewi ac yn gonglfaen yn niwylliant Cymru. Mae'r adfeilion yn rhoi ambell i awgrym ynghylch hen gyfoeth yr Abaty, fel y drws cerfiedig rhamantus a arferai gysylltu'r corff â'r uwch allor. Fel man gorffwys 11 tywysog Dinefwr a'r bardd Dafydd ap Gwilym, mae'r Abaty wedi cael ei alw'n 'Abaty Westminster Cymru’.

Darganfwyd Mwy

Abaty Talyllychau

Sir Gaerfyrddin, Cymru

Tua 10km i'r gogledd o Landeilo, saif olion Abaty Talyllychau mewn lleoliad delfrydol wrth ymyl dau lyn Talyllychau. Sefydlwyd yr Abaty yn y 1180au gan yr Arglwydd Rhys – Tywysog Cymreig grymus - ar gyfer mynachod yr Urdd Bremonstratensaidd. Hwn oedd yr Abaty cyntaf a'r unig yng Nghymru ar gyfer yr Urdd hon ac yn anffodus, ni wnaeth erioed fwynhau ffyniant y mynachod Sistersaidd a'i hysbrydolodd.

Y tŵr, sy'n dal i sefyll bron i'w uchder gwreiddiol, yw nodwedd fwyaf trawiadol yr abaty. Ni chwblhawyd yr Eglwys yn llawn oherwydd diffyg arian, er bod amlinelliad y safle yn rhoi syniad o ba mor uchelgeisiol oedd y cynlluniau. Yn y diwedd diddymwyd yr Abaty gan Harri VIII yn y 1530au a defnyddiwyd llawer o'r cerrig i adeiladu'r pentref a'r capel presennol.

Bydd tri llwybr cerdded gerllaw yn mynd â chi i olygfan lle gallwch fwynhau golygfeydd trawiadol o'r adfeilion a Dyffryn Cothi.

Darganfwyd Mwy

St Declan ac Ardmore

Waterford, Iwerddon

Yn y 5ed ganrif, daeth Sant Declan ar draws pentref Ardmore - dywedir iddo gael ei dywys yno gan garreg a gariwyd ar y tonnau - a sefydlodd fynachlog. Ei adfeilion yw treflan Gristnogol hynaf Iwerddon. Heddiw, erys sawl safle o'i ddinas fynachaidd.

Mae yna areithfa o'r 8fed ganrif lle credir bod y sant wedi'i gladdu a thŵr crwn 29 metr o uchder o'r 12fed ganrif, a weithredai fel clochdy a lloches. Mae yna hefyd yr eglwys gadeiriol o'r 12fed ganrif, gyda gwaith bwaog Romanésg â ffigyrau'n darlunio golygfeydd o'r Hen Destament a'r Newydd - anarferol iawn yn Iwerddon. Y tu mewn i'r eglwys gadeiriol ceir dwy garreg Ogam sy'n cynnwys y ffurf gynharaf o ysgrifennu yn Iwerddon.

Mae'n werth cymryd y daith gerdded 4km ar hyd y clogwyn sy'n cychwyn ac yn gorffen yn y pentref er mwyn ymweld â Ffynnon San Declan, lle mae pererinion wedi talu teyrnged am gannoedd o flynyddoedd bob 24ain o Orffennaf, dydd gŵyl y sant.

Darganfwyd Mwy

Tintern Trails

Wexford, Iwerddon

Mae'r 4 taith gerdded ddolennog hyn yn cychwyn o ben y llwybr yn Abaty Tintern, ac yn cynnig cyfuniad o goetiroedd tawel a theithiau cerdded arfordirol. Mae’r llwybrau, sy’n amrywio o daith gerdded fer 20 munud i daith gerdded 2 awr, yn mynd â chi heibio i rai o uchafbwyntiau Penrhyn Hook: Abaty Tintern, Gardd Furiog Colcough a Phentref Saltmills. Dylai pobl sy'n hoff o fywyd gwyllt gadw llygad ar agor am las y dorlan, crehyrod bach copog, bwncathod, gwiwerod coch ac ystlumod ar y llwybrau mewndirol ac adar môr mudol fel gwyddau du ar hyd yr arfordir. 

Darganfod Mwy