Teithiau Cerdded i Gŵn

Teithiau Cerdded i Gŵn

Ddim eisiau mynd ar wyliau heb eich cyfaill pedair coes?

Mae'r Llwybrau Celtaidd yn gefndir perffaith ar gyfer gwyliau gartref i'ch ysbrydoli ac sy'n addas i gŵn. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer teithiau a llwybrau dydd, ar yr arfordir ac yn y mewndir, y gallwch chi ac aelodau blewog o'ch teulu eu mwynhau gyda'ch gilydd.

Cefn Sidan

Sir Gaerfyrddin

Ar fore clir cewch weld golygfeydd godidog cyn belled i'r gorllewin ag Ynys Bŷr, draw i Ynys Wair, ac yna draw i Benrhyn Gŵyr. Yn 13km o hyd, mae traeth hiraf Cymru yn ffefryn gyda thorheulwyr, nofwyr a cherddwyr fel ei gilydd.

Llansteffan

Sir Gaerfyrddin

Mae pentref prydferth Llansteffan yn swatio rhwng glannau Aber Tywi a bryniau tonnog Sir Gaerfyrddin. Mae'n werth ymweld â thywod euraidd y prif draeth a childraeth diarffordd Bae Scott, pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi.

Carreg Cennen

Sir Gaerfyrddin

Yn sefyll yn uchel ar graig galchfaen fawr uwchlaw Afon Cennen, mae silwét dramatig Carreg Cennen yn amlwg am filltiroedd lawer ac oddi yno ceir golygfeydd panoramig 360 gradd dros gefn gwlad godidog Sir Gâr.

Traeth Marloes

Sir Benfro

Byddwch yn cael eich croesawu gan 1.5 km o dywod eang gwag, gyda thyrrau tywodfaen yn sefyll mewn pyllau llanw isel sy'n gyforiog o bysgod bach a berdys, yn ogystal â golygfeydd o Ynysoedd Sgogwm a Gateholm.

Pen Strwmbl

Sir Benfro

Gelwir yr ardal yn Benrhyn Pencaer, er nad yw'n benrhyn mewn gwirionedd. Gyda'r môr ar ddwy ochr iddo a rhes o fryniau isel ar yr ochr fewndirol, mae'n rhoi'r teimlad o fod ar wahân i weddill y byd, yn y ffordd orau bosibl.

Ceinewydd

Ceredigion

Cyrchfan wyliau glan môr boblogaidd, sy'n adnabyddus am ei theithiau cychod i chwilio am ddolffiniaid, traethau sydd wedi ennill gwobr ac amrywiaeth o chwaraeon dŵr.

*Ni chaniateir cŵn ar rannau o'r traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi

Llynnoedd Teifi

Ceredigion

Mae tarddle Afon Teifi, un o'r afonydd hiraf yng Nghymru, i'w ganfod yng ngogledd Ceredigion. Y grŵp hudolus hwn o lynnoedd rhewlifol dwfn yw'r lle perffaith i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd bob dydd.

Ardmore

Waterford

Mae gan dref hanesyddol Ardmore draeth tywodlyd hyfryd ger canol y pentref. Mae'r traeth eang hwn yn boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd y dyfroedd ymdrochi diogel sydd yno.

Coumshingaun

Waterford

Mae Tro Cerdded Dolen Coumshingaun yn llwybr cymedrol 7.5km o hyd o amgylch crib a llwyfandir yr amffitheatr naturiol hon, lle cewch olygfeydd syfrdanol o'r llyn tywyll 365 metr islaw. Pan fydd yn glir, gallwch weld cyn belled â Phont Afon Suir yn Ninas Waterford a Hook Head yn Swydd Wexford.

Curracloe

Wexford

Mae'r traeth hwn yn ymestyn dros 11km o Raven Point i Ballyconigar, ger Blackwater. Mae'n enwog am ei dywod meddal, ac mae'r twyni gwasgarog a'r flanced ddiddiwedd o foresg yn atynfa i fywyd gwyllt ac i'r ymwelwyr sy'n cael pleser mawr wrth rolio i lawr!

Goleudy Hook

Wexford

Hwn yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sydd wedi sefyll am dros 800 mlynedd. Mae mis Tachwedd yn nodi dechrau'r tymor gwylio morfilod oddi ar Hook Head. Yn ôl yng ngaeaf 2010, roedd adroddiadau bod nifer o forfilod asgellog a morfilod cefngrwm wedi'u gweld oddi ar yr arfordir yn Hook Head.

Bae Brittas

Wicklow

Three Mile Water ym Mae Brittas yw un o'r eangderau gorau o draeth ar arfordir y dwyrain a chredir mai yma y glaniodd San Padrig gyntaf yn Iwerddon. Heb unrhyw bentiroedd i amharu ar rythm tyner y tonnau wrth iddynt dorri ar y tywod, mae'r traeth 5km o hyd hwn yn fan delfrydol i ymdrochi, hwylio a cherdded.

Dyffryn Avoca

Wicklow

Fel ardal sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio copr, anfarwolwyd y dyffryn gan Thomas Moore yn y gân ‘The Meeting of the Waters’. Y dyfroedd dan sylw yw afonydd Avonmore ac Avonbeg, sy'n cwrdd tua 2 filltir o bentref Avoca. Mae hefyd yn nodi man cychwyn tro cerdded esmwyth ar hyd gwaelod y dyffryn.

*Rhaid cadw cŵn ar dennyn

Llyn y Fan

Sir Gaerfyrddin

Yn Llyn y Fan Fach ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog byddwch yn dod o hyd i lyn rhewlifol hudolus. 

Traeth Pentywyn

Sir Gaerfyrddin

Dethlir y darn hwn o draeth 11km o hyd am ei hanes o dorri record cyflymder tir.
*Ni chaniateir cŵn ar ardal Baner Las y traethau rhwng 1 Mai a 30 Medi