Oeddech chi'n gwybod mai oddi wrth y Celtiaid hynafol y datblygodd Calan Gaeaf? Deilliodd yr ŵyl grefyddol baganaidd hon, o'r enw Samhain (a ynganir: Sow-an), sy'n golygu 'diwedd yr Haf' mewn hen Wyddeleg, o draddodiad ysbrydol Celtaidd a ddethlid rhwng y 31ain o Hydref a'r 1af o Dachwedd. Roedd Samhain yn nodi diwedd y Flwyddyn Geltaidd a dechrau blwyddyn newydd. Y gred oedd bod hwn yn gyfnod o bontio, pryd y byddai'r rhwystrau rhwng y byd ffisegol a'r byd ysbrydol yn chwalu, gan ganiatáu mwy o ryngweithio â'r 'arallfyd'.

Ond nid mythau a chwedlau arswyd yn gysylltiedig â Chalan Gaeaf yn unig sydd gan y Llwybrau Celtaidd i'w cynnig, mae ganddynt stori i godi gwallt eich pen ar gyfer bron bob mis o'r flwyddyn... darllenwch ymlaen i ddysgu mwy.

Siambr Gladdu Pentre Ifan,

Sir Benfro, Cymru

Mae'r gromlech fegalithig hon, a ddiffinnir fel beddrod carreg wedi'i adeiladu'n benodol, yn safle sy'n ennyn chwilfrydedd mawr.

Adeiladwyd o'r un Garreg Las o'r Preseli ag a ddefnyddiwyd yn ei 'frawd mawr' sef Côr y Cewri neu Stonehenge. Mae Pentre Ifan, ger Trefdraeth (Sir Benfro) hefyd yn rhannu'r un ymdeimlad o ddirgelwch ynglŷn â'i wir bwrpas.

Yn gyffredinol ystyrir mai siambr gladdu gymunedol ydoedd, ond ni chanfuwyd unrhyw olion o esgyrn yma erioed.

Nid dyma ddiwedd y dirgelwch, gan fod straeon sy'n deillio o straeon gwerin Celtaidd wedi'u hadrodd am dylwyth teg ym Mhentre Ifan. Yn ôl y sôn maent wedi cael eu gweld yn dawnsio ar gerrig Pentre Ifan yn ystod y cyfnos ac yng ngolau'r lleuad yn yr haf. Dywedir bod y tylwyth teg yn bodoli o'n cwmpas ym mhob man.

Darganfod Mwy

Dinefwr

Sir Gaerfyrddin, Cymru

Mae gan ystâd Dinefwr le pwysig yn hanes Cymru. O fewn yr ystâd drawiadol hon sy'n 800 erw o faint saif Plas Dinefwr, neu Dŷ Newton, ac mae'n debyg bod rhywun a fu farw ganrifoedd yn ôl yn dal i breswylio yno…

Dywedir bod ysbryd merch ifanc yn dal i gerdded o gwmpas y plas, sy'n sefyll ar fryn yn edrych dros harddwch Dyffryn Tywi. Credir bod y Foneddiges Elinor Cavendish yn chwaer neu'n gyfnither i feistres y tŷ yn y 1720au. Roedd y Foneddiges Elinor yn cael ei gorfodi i briodi dyn nad oedd hi'n ei garu, ac yn y diwedd rhedodd i ffwrdd oddi wrtho a cheisio lloches gyda'i theulu ym Mhlas Dinefwr. Ond dilynodd ei gŵr hi i'r tŷ yn ei gynddaredd a'i llindagu i farwolaeth…

Dywedir ei bod yn crwydro o gwmpas y plas hyd heddiw.

Darganfod Mwy

Pontarfynach

Ceredigion, Cymru

Mae tair pont ar wahân yn rhychwantu rhaeadrau 90 metr Afon Mynach – un wedi'i hadeiladu ar ben y llall rhwng yr 11eg a'r 19eg ganrif. Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y Diafol ei hun gan ei bod yn cael ei hystyried yn dasg rhy anodd i feidrolion.

Mae'r stori'n dechrau gyda hen wraig, roedd angen iddi groesi ceunant dwfn Mynach i gael ei buwch yn ôl o ochr arall yr afon. Cynigiodd y Diafol adeiladu pont iddi, ar yr amod y byddai'n meddiannu enaid y peth byw cyntaf a fyddai'n croesi'r bont. Cytunodd yr hen wraig, ac adeiladodd y Diafol y bont.

Cyn croesi'r bont, tynnodd yr hen wraig hen grwstyn allan o'i ffedog a'i daflu tuag at y fuwch ar yr ochr arall i'r bont. Aeth ei chi llwglyd ar ei ôl yn eiddgar a chafodd y Diafol, a oedd yn disgwyl cael enaid yr hen wraig, enaid y ci truan hwnnw.

Darganfod Mwy

Cei Waterford

Iwerddon

Mae llawer o honiadau wedi'u gwneud am olygfeydd bwganllyd yng nghei hynafol dinas Waterford. Mae gan Waterford ei hanes morwrol hir ei hun gan iddi gael ei sefydlu gan y Llychlynwyr yn y 10fed ganrif.

A thros y canrifoedd mae llawer o bobl wedi dweud iddynt weld ffigurau bwganllyd morwyr a llongau o amser maith yn ôl.

Penderfynodd dyn lleol, sy'n aros yn ddienw ac sy'n dweud bod ganddo ffenestr seicig annymunol i'r byd a ddaw, gynnal gwylnos ar ôl clywed sïon parhaus am ddigwyddiadau rhyfedd. Cadarnhaodd y dyn iddo weld delweddau o longau tal a ffigurau rhithiol ond mae wedi annog pobl i beidio â cheisio cysylltu â'r ffigurau sy'n ymlwybro ar hyd y Cei.

Darganfod Mwy

Y Dearg Due yn Waterford

Iwerddon

Mae llawer o straeon am fampirod yn Iwerddon ac mae un o'r creaduriaid mwyaf brawychus yn cael ei adnabod fel y Dearg Due, sy'n golygu 'Syched Coch'.

Ganrifoedd lawer yn ôl yn yr ardal a elwir bellach yn Waterford, roedd merch ifanc hardd a oedd dros ben ei chlustiau mewn cariad â gweithiwr fferm ac roeddent wedi gwneud cynlluniau i briodi. Yn anffodus iddynt hwy, dim ond arian oedd yn bwysig i'w thad, felly yn lle hynny, cafodd ei gorfodi i briodas wedi'i threfnu gyda dyn cyfoethog a oedd yn llawer hŷn na hi.

Roedd gŵr y wraig ifanc yn ddyn creulon a chadwodd ef hi dan glo mewn tŵr nes iddi farw – cymerodd y pentrefwyr ei chorff a'i gladdu o dan yr hyn a elwir bellach yn Goeden Strongbow.

Ar y pryd roedd hen arfer Gwyddelig o osod pentwr tal o gerrig ar feddau'r rheiny a fu farw'n ddiweddar, er mwyn eu hatal rhag codi eto, ond am ryw reswm, ar noson ei chladdu ni ddigwyddodd hyn…

Dywedir bod ei hysbryd wedi codi ac wedi ceisio dial ar y rhai a ddifethodd ei bywyd. Aeth ysbryd y ferch ifanc ati i ysglyfaethu ar ddynion ifanc, gan eu hudo gyda'i phrydferthwch cyn gwledda ar eu gwaed.

Darganfod Mwy

Goleudy Hook

Wexford, Iwerddon

Pan ddaw'n fater o oleudai, nid oes gan yr un ohonynt hanes hwy o amddiffyn morwyr na Goleudy Hook. Hwn yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sydd wedi sefyll am dros 800 mlynedd ar Benrhyn Hook. Mae'n debyg bod coelcerth wedi bod yno ers y chweched ganrif, gyda mynachod yn gofalu amdani, ond credir mai'r marchog pwerus William Marshall a adeiladodd y goleudy presennol yng nghanol y 13eg ganrif i dywys llongau i'w borthladd yn Ross.

A chyda hanes mor gyfoethog, mae straeon o natur oruwchnaturiol yn anochel…

Dywedir bod teimlad iasoer yn treiddio trwy'r goleudy, a bod llawer o ymwelwyr wedi sôn am hyn ac wedi ysgrifennu amdano. Dywedir bod William Marshal ei hun yn cerdded y goleudy, gan gadw gwyliadwriaeth dragwyddol o'r moroedd o'i dŵr.

Darganfod Mwy

Bray Head

Wicklow, Iwerddon

Mae Swydd Wicklow yn adnabyddus am ei llwybrau cerdded ac mae'r llwybr arfordirol o Bray i Greystones ymhlith y gorau. Fodd bynnag, mae stori debyg i Romeo a Juliet yn aflonyddu'r man a elwir yn Lover's Leap Rock yn Nyffryn Dargle, sydd wedi'i leoli ar hyd y llwybr.

Yn ôl y sôn mae ysbryd menyw drallodus yn ymddangos bob blwyddyn ar 21 Mehefin. Ar ôl bod yn anffyddlon i'w hanwylyd, a arweiniodd at ei farwolaeth annhymig cymaint oedd ei dorcalon, dywedir ei bod wedi eistedd wrth ei fedd am sawl diwrnod cyn cymryd ei bywyd ei hun ar y graig trwy neidio i mewn i'r dyfroedd gwyllt islaw…

Darganfod Mwy