Cofrestru yn Wildernest.
Mae Wildernest yn hafan sydd wedi'i lleoli yn y bryniau arfordirol uwchben Dyffryn Aeron, ac yn cynnwys bythynnod clud a adferwyd o'r adeiladau cerrig gwreiddiol.
AM
Llangrannog
Yn y bore, treulio amser yn crwydro o amgylch Llangrannog. Yn union i'r gogledd o draeth Llangrannog y mae cildraeth diarffordd Cilborth, y gellir ei gyrraedd naill ai o draeth Llangrannog ar lanw isel, neu i lawr y grisiau yn y clogwyn oddi ar Lwybr yr Arfordir.
PM
Ceinewydd
Neidio i'r car a gyrru i'r gogledd i Geinewydd. Roedd hwn yn borthladd llwyddiannus ar un adeg, ac mae 'nawr yn enwog am gyfleoedd i weld dolffiniaid a thraethau Baner Las sydd wedi ennill gwobrau.
Cinio – mynd i siop pysgod a sglodion y Lime Crab.
Swper – Y Seler yn Aberaeron
Mae'r uchafbwyntiau lleol ar y fwydlen yn cynnwys stecen ffiled Celtic Pride a chregyn gleision Menai ffres. Os oes gennych amser, cyrhaeddwch ychydig yn gynt a threulio ychydig o amser yn cerdded o amgylch harbwr prydferth Aberaeron.
Ymadael â'r Wildernest
AM
Pen-caer
Gyrru i Ben-caer yn Sir Benfro. Mae pentir creigiog, garw Pen-caer, sydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro ac ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, yn gwthio allan o'r morlin. Mae yna fywyd gwyllt anhygoel ar hyd y rhan hon o lwybr yr arfordir, ac mae dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd a hyd yn oed orcaod wedi cael eu gweld yma.
Cofrestru ym mhod hunanarlwyo llety gwely a brecwast Baytree, The Garden Shed, am ddwy noson.
Swper – Y Polyn
Bwyty teuluol arobryn sy'n swatio ynghudd yn Nyffryn Tywi gwyrddlas rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Chwilota gyda Craig Evans, chwilotwr lleol o Coastal Foraging. Bydd Craig yn eich casglu o'ch llety ac yn mynd â chi i rai o'i hoff fannau chwilota am fwyd ar hyd arfordir Cymru.
Swper: Florentino's
Bwyty Eidalaidd teuluol yng Nghaerfyrddin (rydym yn argymell y pizzas sy'n cael eu coginio ar y maen!)