Amserlen teithio Loz’s Leisure

.

**Itinerary**

Amserlen teithio Loz’s Leisure

**Start**
1. **Day** #1
Dydd Iau 10 Mehefin

O 16.30pm ymlaen, cofrestru yn Wildernest, lle byddwch yn aros am ddwy noson.

Mae Wildernest yn hafan sydd wedi'i lleoli yn y bryniau arfordirol uwchben Dyffryn Aeron, ac yn cynnwys bythynnod clud a adferwyd o'r adeiladau cerrig gwreiddiol. Byddwch yn aros yn Cuddfan.  Dylai Hugh o Wildernest fod wedi anfon neges e-bost atoch yn nodi'r wybodaeth mewn perthynas â chyrraedd a'r protocol o ran y coronafeirws.

Cyfeiriad: Wildernest, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan SA48 7QR

Instagram: @wildernestwales

2. **Day** #2
Dydd Gwener, 11 Mehefin

AM – Treulio amser yn y bore yn archwilio Llangrannog ac yna mynd am dro ar hyd y traeth. Yn union i'r goledd o draeth Llangrannog y mae cildraeth diarffordd Cilborth, y gellir cyrraedd ato naill ai o draeth Llangrannog ar lanw isel, neu i lawr y grisiau yn y clogwyn oddi ar Lwybr yr Arfordir. Rhwng y ddau draeth mae yna graig siâp dant o'r enw Carreg Bica. Yn ôl y chwedl, arferai fod yng ngheg cawr lleol.

Parciwch yma: Maes parcio di-dâl Parcio a Theithio Llangrannog, Min-y-Nant, Llandysul SA44 6RL (mae yna fws gwennol rheolaidd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr y gallech neidio arno, ond, fel arall, nid yw'r daith i'r pentref yn bell iawn ar droed)

PM – Neidio i'r car a gyrru i'r gogledd i Geinewydd. Roedd hwn yn borthladd llwyddiannus ar un adeg, ac mae 'nawr yn enwog am gyfleoedd i weld dolffiniaid a thraethau Baner Las sydd wedi ennill Gwobrau Glan Môr.

I ginio, ewch i siop pysgod a sglodion y Lime Crab (Stryd Ioan, Ceinewydd SA45 9NP), sy'n adnabyddus am ei bysgod a sglodion sydd ychydig yn wahanol. Cadwch eich derbynneb, a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi yn ddiweddarach.

Parciwch yma: Maes Parcio Stryd y Cware Ceinewydd, Maes yr Odyn, Ceinewydd SA45 9NR

7.30pm – Mae eich pryd gyda'r nos wedi ei archebu yn The Cellar yn Aberaeron. Mae'r uchafbwyntiau lleol ar y fwydlen yn cynnwys stecen ffiled Celtic Pride a chregyn gleision Menai ffres. Os bydd gennych amser, ceisiwch gyrraedd fymryn yn gynt a threulio ychydig o amser yn cerdded o gwmpas harbwr Aberaeron, neu cadwch olwg am y tai lliwgar gyferbyn.

Cyfeiriad: 8 Stryd y Farchnad, Aberaeron, SA46 0AS

Parciwch yma: Maes Parcio Aberaeron, SA46 0BH

Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

Instagram: @cellaraberaeron

3. **Day** #3
Dydd Sadwrn 12 Mehefin

AM – Gyrru i Sir Benfro ac i Ben-caer. Mae pentir creigiog, garw Pen-caer, sydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro ac ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, yn gwthio allan o'r morlin. Mae yna fywyd gwyllt anhygoel ar hyd y rhan hon o lwybr yr arfordir, ac mae dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd a hyd yn oed orcaod wedi cael eu gweld yma. Dewch â phâr da o esgidiau cerdded.

Dilynwch y cod post SA64 0JL a fydd yn mynd â chi mor agos â phosibl yn y car i Ben-caer. Ar y map isod, rydym wedi amlygu mewn coch y rhannau o'r ffordd lle gellir parcio mewn cilfannau.

O 3pm ymlaen, cofrestru yng ngwesty gwely a brecwast Baytree, lle byddwch yn aros yn y pod hunanwasanaeth, The Garden Shed, am ddwy noson. Dylai'r perchnogion, Loraine a Martin, fod yno i gwrdd â chi ond, os na fyddant yno, bydd allwedd wedi cael ei gadael yn y drws ar eich cyfer.

Cyfeiriad: Maesglasnant, Cwm-ffrwd, Caerfyrddin SA31 2LS

 

7.30pm – Mae eich pryd gyda'r nos wedi ei archebu yn Y Polyn, bwyty teuluol rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Nid yw Y Polyn yn ceisio bod yn arloesol trwy weini dewiniaeth dechnegol ar blât – mae'n ymfalchïo mewn cynhyrchion lleol, hyfryd wedi'u coginio'n syml. Mae cig oen morfa heli, cig eidion Cymreig a phorc maes bridiau prin yn uchafbwyntiau ar y fwydlen.

Cyfeiriad: Y Polyn, Capel Dewi, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 7LH

Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

Instagram: @polyncarmarthen

4. **Day** #4
Sydd Sul 13 Mehefin

11am – bydd Craig Evans, chwilotwr lleol o gwmni Coastal Foraging, yn eich casglu o'ch llety ac yn mynd â chi i'ch dau fan chwilota yn Sir Benfro. Bydd y cyrsiau chwilota yn eich addysgu am fwyd môr bwytadwy a lle i ddod o hyd iddo neu ei ddal, ac yn rhoi ychydig o hanes lleol i chi ar yr un pryd.

Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau gwrth-ddŵr cyfforddus – byddai esgidiau glaw yn ddelfrydol. Ewch â diod a byrbryd gyda chi gan y byddwch allan am 5-6 awr.

 

Rhif cyswllt Craig: 07989 143 868

6pm – Mae eich pryd gyda'r nos wedi ei archebu yn Florentino’s, sef bwyty Eidalaidd teuluol yng Nghaerfyrddin. (Byddem yn argymell y pizzas ar y maen.)

Cyfeiriad: 11 Lôn Jackson, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1QD

Parciwch yma: Maes Parcio Heol Ioan, 36-53 Heol y Berllan, Caerfyrddin SA31 1SE

Mae yna daleb bwyd gwerth £30 ar eich cyfer yn y lleoliad, felly gofynnwch amdani wrth dalu. Os bydd eich pryd yn costio mwy na'r swm hwnnw, talwch y gwahaniaeth a byddwn ni'n ad-dalu'r costau i chi.

**End**